Eitem Rhaglen

Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd

Derbyn diweddariad ar berfformiad y Gronfa Bensiwn ac unrhyw fater perthynol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Dilwyn Williams Cyfarwyddwr Corfforaethol gyda Chyngor Gwynedd i’r cyfarfod a rhoddodd wahoddiad iddo annerch y Pwyllgor Archwilio ar y sefyllfa gyda’r Gronfa Bensiwn ac yn benodol, y cynnydd o £18.4m yn ystod 2012/13 yn y rhwymedigaeth pensiwn net o £63.7m i £83.1m a goblygiadau hynny.

Yn ei gyflwyniad i’r Pwyllgor, eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol beirianwaith y sustem Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol a sut mae’n gweithio, ac fe amlygodd yr ystyriaethau a’r ffactorau allweddol  wrth roi sylw i faterion mewn perthynas â pherfformiad y Gronfa Bensiwn.

I ddilyn cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb lle roddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau neu ofyn am eglurhad ar y wybodaeth a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.  Dyma grynodeb o rai o’r materion a godwyd:

 

·         Perfformiad y gronfa bensiwn yn erbyn y meincnod ac o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â safle isel y gronfa o ran ei pherfformiad mewn blynyddoedd diweddar o’i chymharu ag awdurdodau  eraill a beth oedd y rhesymau am y perfformiad gwan yn ddiweddar.

·         Yng ngoleuni’r ffaith bod rhwymedigaeth y pensiwn mewn gwirionedd yn rhwymedigaeth i drethdalwyr yr Ynys, oni ddylai Aelodau ac Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio yn arbennig fod yn fwy rhagweithiol gyda rheolaeth y gronfa bensiwn er mwyn ceisio sicrhau’r perfformiad a’r dychweliadau gorau posibl.

·         Cynigiwyd a chymeradwywyd bod y Pwyllgor Archwilio, a hynny er mwyn atgyfnerthu ei fwriadau monitro, yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar berfformiad Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd yn y man a bod yr adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn i’w drefnu ar ôl y cyfarfod Blynyddol o Fwrdd Rheoli’r Gronfa Bensiwn fel y gall cynrychiolwyr y Cyngor ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion fyddai’n codi o’r Cyfarfod Blynyddol.

PwysleisioddCyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd bod hirhoedledd a disgwyliad bywyd yn ffactorau allweddol mewn perthynas â pherfformiad y gronfa bensiwn a bod buddsoddiadau yn y gronfa bensiwn yn rhywbeth a wneir am yr hir dymor ac am y rhesymau a roddwyd yn y cyflwyniad ac ni ddylid ffurfio barn ar y perfformiad ar ffigyrau deilliannau un flwyddyn yn unig.  Roedd y Deilydd Portffolio Cyllid fel cynrychiolydd yr Awdurdod hwn ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd yn cyd-fynd â’r sylwadau a wnaed yn y cyflwyniad ynglŷn â’r ffactorau oedd yn dylanwadu ar berfformiad y gronfa bensiwn ac eglurodd i’r Aelodau y trefniadau adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Rheoli’r Gronfa Bensiwn am berfformiad y Gronfa.

 

Penderfynwydnodi’r wybodaeth a gyflwynwyd ynglŷn â sefyllfa Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd a hefyd ddiolch i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd am y cyflwyniad.

 

CamauGweithredu’n Codi: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd ar raglen waith flynyddol y Pwyllgor Archwilio gyda sylw arbennig i raglennu er mwyn caniatáu i gynrychiolydd yr Awdurdod ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn roi atborth i’r Pwyllgor o’r Cyfarfod Blynyddol.