Cyflwyno adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw ar gyfer Chwarter 1 2013/14 (Adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 9ed Medi, 2013)
Cofnodion:
Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor, Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Chwarter 1 2013/14 fel y cafodd ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Medi.
Tynnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) sylw’r Aelodau at y ffaith bod llawer o waith wedi ei wneud ar y gyllideb ers rhyddhau’r adroddiad a hynny i fynd i’r afael â’r sefyllfa o ddiffyg oedd yn cael ei ragweld ar ddiwedd Chwarter 1 a bod y diffyg hwnnw wedi lleihau o ganlyniad. Fe wnaeth y Swyddog, fodd bynnag, amlygu’r angen i fonitro’r sefyllfa o safbwynt gorwariant tebygol o ran budd-daliadau yn dilyn newidiadau i’r system les (taliadau tai dewisol a threth gyngor).
Eglurodd y Cyfarwyddwr Cymuned i’r Aelodau y camau oedd wedi eu cymryd ac a oedd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â gorwariant £1.295m ar ofal cymdeithasol fel yr adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 1 gyda chyfeiriad penodol at weithio ar y cyd rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Gyllid er mwyn egluro systemau gwybodaeth/ariannol. Roedd gwaith oedd wedi ei wneud yn y chwarter mwyaf diweddar wedi arwain at newid yn y proffil risgiau a’r proffil ariannol oedd yn cael ei adrodd yn Chwarter 2. Er bod rhaid parhau i fod yn wyliadwrus ynglŷn â’r sefyllfa ariannol, roedd lefel y pryder yn Chwarter 2 wedi gostwng o’r hyn a welwyd yn Chwarter 1. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) bod y ffigyrau wedi gwella’n arw er ei bod am bwysleisio bod angen sgriwtineiddio’r data ymhellach.
Aeth y Cyfarwyddwr Cymuned ymlaen wedyn i roi diweddariad i’r Pwyllgor yn llafar ar gynnydd ar y rhaglen o drawsnewid gwasanaethau gofal preswyl i oedolion hŷn yn dilyn ymgynghori gyda phreswylwyr yn unol â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf. Cyfeiriodd at yr angen i benderfynu ar y blaenoriaethau yn y rhaglen a hefyd y dyheadau yn nhermau yr hyn y mae’r gwasanaeth yn dymuno ei ddarparu o ran gofal a llety, ac yn benodol ddatblygu tai gofal ychwanegol. Mae gwaith hefyd wedi bod yn mynd ymlaen ar baratoi “Dogfen Bwriadau Gwasanaeth”. Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach gyda’r Aelodau. Nododd y Swyddog hefyd y sefyllfa yng Nghaergybi o safbwynt datblygu opsiynau gofal cymdeithasol a dewisiadau, statws Cartref Preswyl Garreglwyd a natur bresennol y ddarpariaeth yn y cyfleuster a’r syniadau sydd ar hyn o bryd yn llywio’r datblygiadau a’r bwriadau.
Yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, roedd yr Aelodau am amlygu’r canlynol fel pwyntiau i’w trafod –
· Y cyfnod amser ar gyfer darparu’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn benodol mewn perthynas â’r cerrig milltir allweddol o ran y penderfyniadau sydd i’w gwneud.
· Yr incwm oedd yn cael ei golli i’r Awdurdod yn y cyfamser oherwydd gwelyau gwag.
· Yr angen i ymgysylltu gydag Aelodau etholedig yng Nghaergybi o safbwynt rhoi gwybodaeth iddynt am ddatblygiadau sydd yn digwydd yn yr ardal.
Penderfynwyd nodi sefyllfa’r Gyllideb Refeniw ar ddiwedd Chwarter 1.
CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Cyfarwyddwr Cymuned i drefnu sesiwn briffio gydag Aelodau etholedig Caergybi yng nghyswllt datblygiadau gyda’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yn yr ardal.
Dogfennau ategol: