Eitem Rhaglen

Materion Perfformiad - Cerdyn Sgorfwrdd Chwarter 2 2013/14 a Materion Perthynol

·        Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2013/14.

 

·        Cyflwyno gwybodaeth eglurhaol am berfformiad y Gwasanaeth Oedolion am Chwarter 1 ynghyd â cherdyn sgorfwrdd y gwasanaeth.

Cofnodion:

8.1  Cyflwynwyd y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 2 i  sylw’r Pwyllgor.  Roedd y Cerdyn Sgorio yn dangos y sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 2 o safbwynt perfformiad a chynnydd yn erbyn dangosyddion allweddol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Busnes wrth yr Aelodau - yn dilyn sylwadau’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf ynglŷn â fformat yr adrodd yn ôl ar y Cerdyn Sgorio ei fod yn dymuno gweld mwy o stori i ategu’r data, fe fydd yr adroddiad fydd yn dod ynghyd â’r Cerdyn Sgorio o hyn ymlaen yn cynnwys gwybodaeth bellach.  Aeth y Swyddog ymlaen i amlygu’r meysydd lle y bu newidiadau yn y sgôr CAG neu lle'r oedd y statws CAG yn parhau ar goch ac eglurodd pa gamau  oedd wedi eu cymryd mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod fis Gorffennaf.

 

Ystyriodd yr Aelodau y wybodaeth a gyflwynwyd ac roeddent am dynnu sylw at y materion canlynol –

 

·        Y ganran o ymweliadau statudol i blant y gofelir amdanynt yn y flwyddyn a wnaed yn unol â rheoliadau ac a oedd yn dwyn sgôr CAG coch.

·        Presenoldeb salwch a % y cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd gyda’r ddau yn is na’r targed a chyda sgôr CAG coch.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn y meysydd hyn o reoli pobl ac awgrymwyd y dylid gwneud gwaith o’i gwmpas.

·        Gan gyfeirio at Wasanaeth y Cwsmer a’r amser y mae’n ei gymryd i ymateb i alwadau ffôn a’r anawsterau y deuir ar eu traws wrth gael eich cyfeirio i’r person cywir.  Cwestiynwyd pa mor ymarferol oedd hi i osod amser ymateb o 5 eiliad ar gyfer desg y dderbynfa.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r pwyntiau a godwyd gan roi eglurhad i’r Aelodau am y sefyllfa ym mhob achos a’r camau a gymerwyd neu sy’n cael eu cymryd lle bo hynny’n berthnasol.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa fel oedd yn cael ei adlewyrchu gan y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes i adrodd ar yr atborth sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith.

 

8.2  Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn amlinellu’r camau gweithredu oedd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r meysydd gwasanaeth o fewn gwasanaethau oedolion lle'r oedd statws CAG coch ar ddiwedd Chwarter 1 ynghyd â Cherdyn Sgorio mewnol y Gwasanaeth ei hun.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol (a’r Rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu) grynodeb o’r cynnydd hyd yn hyn o safbwynt gwella’r perfformiad gyda chefnogi gofalwyr anffurfiol oedolion trwy gynnal asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn ystod y flwyddyn, sef un o’r dangosyddion perfformiad oedd yn goch yn y chwarter blaenorol.  Pwysleisiodd y Swyddogion bod cefnogi gofalwyr yn un o’r prif feysydd blaenoriaeth yn y Gwasanaethau Oedolion ac yn fwriad strategol allweddol. 

 

Aeth y Swyddog Prosiectau ymlaen wedyn i egluro’r siwrnai i wella hyd yn hyn mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Oedolion gyda rheoli absenoldeb salwch a chynnal cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith o fewn y cyfnodau amser sy’n ofynnol, sef yr ail faes perfformiad oedd â statws CAG coch yn Chwarter 1.

 

Roedd yr Aelodau yn derbyn ac yn nodi’r wybodaeth ac fe wnaed y pwynt ynglŷn â pha mor ddefnyddiol oedd meincnodi yn erbyn Awdurdodau eraill fel sbardun i wella perfformiad ac awgrymwyd y byddai hynny o gymorth i Aelodau.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.


DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: