Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro a phenderfynu ar ymateb ymgynghori.
(PAPUR ‘FF’)
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro ar yr uchod.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol. Eleni, roeddynt wedi bod yn ymweld ag Awdurdodau Lleol ynghyd â Chynghorau Tref/Cymuned i gael sylwadau ynghylch adroddiadau’r Panel Annibynnol a’r lwfansau a ganiateir. Yng nghyd-destun Aelodau Cyfetholedig yr Awdurdodau Lleol, mae’r PAGA wedi cyhoeddi Adroddiad Atodol Drafft ar daliadau ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. Derbyniwyd gohebiaeth ddyddiedig 1 Awst 2013 gan y PAGA yn rhestru 4 o faterion y maent angen sylwadau Awdurdodau Lleol yn eu cylch cyn iddynt gyhoeddi Adroddiad Atodol terfynol.
• (1) Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfod yn gymwys i gael ei gynnwys yn yr hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig a gall y Swyddog priodol wneud penderfyniad ynghylch faint o amser a fydd ei angen cyn y cyfarfod;
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro y gall Aelodau Cyfetholedig yn awr hawlio am amser i baratoi cyn cyfarfodydd ac y bydd y Swyddog priodol (Swyddog Monitro) yn penderfynu ar baratoadau o’r fath cyn y cyfarfod. Bydd angen gweithio allan amcangyfrif rhesymol o’r amser a fydd ei angen cyn anfon papurau at yr Aelodau Cyfetholedig mewn perthynas â pharatoi/darllen y gwaith papur.
Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd gael cyfarfod gyda’r Swyddog Monitro i benderfynu ar gyfnod amser rhesymol i baratoi ar gyfer cyfarfod oherwydd gall y gwaith papur ar gyfer rhai cyfarfodydd fod yn faith; yn benodol, mae’n cymryd mwy o amser i baratoi ar gyfer trafodaethau mewn Gwrandawiadau.
PENDERFYNW YD cytuno mewn egwyddor i (1) uchod a chynnal trafodaethau pellach yn ganolog mewn perthynas â chytuno ar amser safonol ar gyfer paratoi am gyfarfodydd.
• (2) Gellir cynnwys amser teithio i ac o’r man cyfarfod yn y costau y mae Aelodau Cyfetholedig yn eu hawliau (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol);
• (3) Gall y Swyddog priodol yn yr awdurdod benderfynu ymlaen llaw a yw’r cyfarfod wedi’i raglennu ar gyfer diwrnod cyfan a bydd y ffi’n cael ei thalu’n seiliedig ar y penderfyniad hwn hyd yn oed os bydd y cyfarfod yn dod i ben mewn llai na phedair awr;
• (4) Mae cyfarfodydd y gellir talu ffioedd ar eu cyfer yn cynnwys Pwyllgorau a Gweithgorau eraill (gan gynnwys Grwpiau Tasg a Gorffen) neu unrhyw gyfarfodydd ffurfiol eraill y gofynnir i Aelodau Cyfetholedig eu mynychu. (Gellir hawliau costau eisoes am rag- gyfarfodydd gyda Swyddogion, Hyfforddiant a mynychu Cynadleddau).
PENDERFYNWYD cytuno i (2), (3) a (4) fel y cânt eu nodi uchod.
Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol)/Swyddog Monitro ymhellach at argymhelliad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol y dylai Awdurdodau Lleol ystyried nifer uchaf yr achlysuron y gellir gwneud taliadau yn eu cylch i aelodau cyfetholedig bob blwyddyn. Argymhellodd y Swyddog y dylid cynnal adolygiad ym mis Chwefror/Mawrth.
Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Swyddog Monitro gynnal adolygiad (yn seiliedig ar ffigyrau gwirioneddol) a gofyn iddi gyflwyno argymhellion yn y man a fydd yn addas i amgylchiadau’r Awdurdod hwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
GWEITHREDU :
• Bod argymhellion y Pwyllgor Safonau yn (1) i (4) yn cael eu hanfon i’r Prif Weithredwr fel y gall ymateb i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
• Gofyn i’r Swyddog Monitro baratoi argymhellion ar gyfer uchafswm nifer y dyddiau y gall Aelodau Cyfetholedig fynychu cyfarfodydd ym mhob blwyddyn.
Dogfennau ategol: