Eitem Rhaglen

Datblygu Economaidd yn Ynys Môn : Trosolwg, Cyfleon a Heriau

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) mewn perthynas â’r uchod.

 

Cafwyd adroddiad bod Ynys Môn wedi dioddef economi yn edwino a phocedi o ddifreintio cymdeithasol-economaidd sylweddol. Rôl y Cyngor Sir, mewn partneriaeth gyda’r gymuned a chydranddeiliad allweddol yw sicrhau y gwneir y mwyaf o unrhyw gyfleon tebygol wrth ymateb mewn ffordd effeithiol i’r heriau hyn. Bydd amcanion y Cyngor yn cael eu darparu’n bennaf drwy’r Fframwaith Ynys Fenter, sef gweledigaeth yr Awdurdod o gael economi gref a bywiog i greu swyddi  a ffyniant i drigolion a chymunedau lleol.

 

Sefydlwyd y Fframwaith Ynys Fenter i alluogi rhyngweithio, alinio a chydlyniad drwy dri maes   rhaglen benodol: Rhaglen Ynys Ynni, Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Rhaglen Adfywio Ehangach. Wrth ddarparu’r Fframwaith Ynys fenter, mae i’r Uned Datblygu Economaidd rôl fel hwylusydd ac arweinydd i ddatblygu cyfleon trawsnewid, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod trigolion yn cael eu cadw yn y pictiwr, yr ymgynghorir â hwy a’u bod yn cael cyfle i siapio dyfodol cymdeithasol ac economaidd yr Ynys lle bo hynny’n briodol. Mae’r berthynas hon yn allweddol er mwyn cynnal a chadw a   datblygu enw da’r Cyngor Sir gyda datblygwyr tebygol a gyda chymunedau lleol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth amlinelliad o’r gwaith adeiladu niwclear newydd tebygol yn Wylfa, Fferm Wynt Rhiannon yn y Môr a Phentref Hamdden Penrhos gyda’r potensial o greu 2,500 net o swyddi ychwanegol erbyn 2025, ynghyd â 6,000 o swyddi adeiladu a chyfraniad mawr i’r GVA. Gallai hyn gynrychioli cyfraniad o £2.34 biliwn i Ynys Môn ac i’r economi isranbarthol yn y cyfnod   hyd at 2025. Bydd y prosiectau a fwriedir ar gyfer Ynys Môn a Gogledd Cymru yn rhai sylweddol o ganlyniad i’r cyfleon fydd yn gysylltiedig â’r Fframwaith Ynys Fenter, ynghyd â’r Rhaglen Ynys Ynni, statws Parth Menter, Rhaglenni Llywodraeth Cymru, ffrydiau cyllido Ewropeaidd yn awr ac i’r dyfodol a’r buddsoddiad sylweddol sy’n cael ei ragweld gan y sector preifat.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Aled M Jones y byddai’r datblygiadau tebygol a sylweddol ar yr Ynys yn creu mewnfuddsoddiad anhygoel. Mae’r Uned Datblygu Economaidd yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd busnesau a thrigolion lleol yr Ynys yn elwa oddi wrth ddatblygiadau o’r fath.

 

Cyfeiriodd hefyd at y datganiad diweddar bod y tir sydd ym mherchnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn ger yr A55 yng Ngaerwen wedi ei ddewis fel y safle a ffefrir ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth Menai newydd. Fe allai’r datblygiad fod yn brosiect newydd mawr i’r Ynys. Bydd Uned Datblygu Economaidd y Cyngor Sir felly yn parhau i weithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru i fynd a phethau ymlaen ymhellach gyda’r prosiect hwn. Y nod yw sicrhau y bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn ategu nod Llywodraeth Cymru o sefydlu’r Ynys fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni carbon isel drwy statws Parth Menter a gweledigaeth Ynys Môn ei hun - Yr Ynys Ynni.

 

Rhai materion a leisiwyd gan Aelodau:-

 

  Holodd yr Aelodau a allai’r holl Ynys elwa oddi wrth y datblygiadau mawr tebygol hyn.

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio y gallai’r Ynys gyfan elwa oddi wrth y mewnfuddsoddiad ac y mae disgwyl y bydd y cymunedau i gyd yn elwa oddi wrth y datblygiadau. Pwysleisiodd y dylai Aelodau edrych ar y prosiectau mawr hyn fel rhywbeth fyddai o fudd i’r ynys gyfan ac nid i un ochr arbennig o’r Ynys. Ategodd y Pennaeth Gwasanaeth y sylwadau a wnaed gan y Deilydd Portffolio gan bwysleisio y dylid edrych ar y prosiectau hyn fel rhywbeth fyddai o fudd i’r Ynys gyfan.

 

  Holodd yr Aelodau hefyd a oedd sgiliau’r bobl leol yn ddigonol i allu cystadlu am waith yn y datblygiadau mawr hyn ar yr Ynys. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod datblygu sgiliau wedi ei ymgorffori i mewn i’r trafodaethau gyda’r cwmnïau a bod buddsoddiadau mawr wedi eu gwneud ganddynt i greu cynlluniau prentisiaethau newydd. Dywedwyd ymhellach bod Swyddog wedi ei gyflogi ar ran y 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru fel rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i symud yr agenda sgiliau yn ei blaen. Awgrymwyd y dylid gwahodd y Swyddog i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

  Gofynnwyd cwestiynau am yr effaith bosibl a gaiff tyrbinau gwynt, peilonau ac adeiladu datblygiadau mawr ar yr Ynys ar Dwristiaeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod yn rhaid ystyried pob mater ar ei ragoriaethau ei hun. Pwysleisiwyd bod angen diogelu cyfleusterau economi ymwelwyr yr Ynys yn ystod cyfnodau adeiladu datblygiadau mawr.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad a chydnabod pwysigrwydd y cyfle trawsnewid economaidd dihafal oedd yn cael ei gyflwyno a rôl yr Uned Datblygu Economaidd a’r Cyngor Sir yn darparu gweledigaeth yr Ynys Fenter;

 

  Cydnabod rôl allweddol y Cyngor Sir a’r Uned Datblygu Economaidd yn sicrhau bod pobl leol, cymunedau a busnesau’n cymryd mantais lawn o’r cyfleon hyn i’r dyfodol;

 

  Cydnabod yr angen i ddiogelu adnoddau a chapasiti o fewn yr Uned Datblygu Economaidd i gefnogi’r gwaith o ddarparu gweledigaeth yr Ynys Fenter;

 

  Cydnabod yr angen bod angen adnoddau ariannol y Cyngor Sir fel arian cyfatebol i sicrhau adnoddau UE ac eraill i’r dyfodol i allu symud materion Ynys Fenter yn eu blaenau.

 

  I wahodd y Swyddog Datblygu Sgiliau, sy’n cael ei gyflogi ar ran y 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru fel rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i symud yr agenda sgiliau yn ei blaen.

Dogfennau ategol: