Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.
Cofnodion:
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor.
Amlinellodd Mr Jones gefndir y ddau gwmni Menter Môn ac Annog Cyf. Cyfeiriodd at gyfrifon y ddau gwmni yn 2012 yn dilyn eu harchwilio. Mae gan Menter Môn y dasg anodd o sicrhau ei fod yn gwasanaethu tri chydranddeiliad pwysig, y cymunedau y mae’n ei wasanaethu, (y rhai sy’n elwa o’i waith), buddsoddwyr sy’n buddsoddi yn ei waith a’r Cyfarwyddwyr sy’n dibynnu ar ei lywodraethu o ddydd i ddydd.
Mae model busnes 5 mlynedd y gr.Np ar gyfer Cynllun Busnes 2010/2014 yn cynnwys y cydrannau
canlynol:-
• Ymgeisio am a sicrhau gweithgaredd cyllid grant parhaol er mwyn cyflawni’r prif nod o ddatblygu economi’r Ynys, yn arbennig ei ardaloedd gwledig;
• Gweithredu busnesau menter gymdeithasol drwy Annog Cyf, sy’n creu swyddi, sydd o fudd i’r economi a pharatoi ar gyfer y dyfodol;
• Ymestyn y model busnes yn ddaearyddol i ardaloedd eraill o’r sir;
• Gwella adeiladau, asedau hylifol a chapasiti ennill Menter Môn;
• Datblygu eiddo a brynwyd fel y gall y gr.Np a'r economi leol elwa o'u gweithrediad wedi hynny h.y. gwneud i asedau a brynwyd weithio er budd pawb.
Rhoddodd Mr Jones amlinelliad o’r gobeithion gyda Chynllun Busnes 2015/2020 Menter Môn a sut y gall y Cyngor Sir a Menter Môn weithio gyda’i gilydd i’r dyfodol, yn arbennig gyda Chynllun Datblygu Gwledig yr UE a Chronfeydd Strwythurol UE. Nododd bod y cwmni, ers ei ddechreuad wedi arallgyfeirio, wedi tyfu a sefydlu model busnes gyda’r nod o gryfhau ei sylfaen ymhellach ond y mae hefyd yn ddibynnol ar ei allu i sicrhau grantiau allanol. Cyfeiriodd hefyd at y grant arian cyfatebol a roddwyd i Menter Môn gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn oedd wedi lluosi i £2m yn y grant Cynllun Datblygu Gwledig i gymunedau gwledig.
Roedd y Cadeirydd o’r farn y dylai’r Pwyllgor hwn allu ymweld â rhai o’r cymunedau gwledig oedd wedi elwa o grantiau CDG i weld y gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i’r cymunedau hyn.
Adroddwyd ar Gynllun Busnes 2015/2020 Menter Môn ac amlinellwyd sut y gall y Cyngor Sir a Menter Môn gydweithio a chydweithredu yn y dyfodol:-
• Cynllun Datblygu Gwledig UE – cyd-weithio agos gyda’r Cyngor Sir i sicrhau bod yr Ynys yn derbyn y manteision mwyaf posibl o’r rhaglen. Mae Menter Môn yn awyddus i sicrhau bod yr AERP a’r awdurdod yn cymryd rhan lawn yn y rhaglen LEADER.
• Cronfeydd Strwythurol UE - cydweithio ar bethau arloesol gyda’r Cyngor Sir i ganfod dulliau newydd o gael manteision i’r Ynys megis: -
• Sicrhau bod manteision cymunedol yn newid bywydau a gobeithion pobl yn ogystal â gwella isadeiledd;
• Cyllido a chynhyrchu datblygu economaidd yn seiliedig yn y gymuned yn deillio o ynni adnewyddadwy, defnyddio pwerau codi cyfalaf Awdurdod Lleol a thir ym mherchnogaeth yr Awdurdod Lleol;
• Trosglwyddo gwasanaethau anstatudol priodol i gwmni fel Menter Môn;
• Darparu tai fforddiadwy ar yr Ynys drwy haen arall o drosglwyddo asedau;
• Edrych i mewn i sefydlu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol;
• Gweithio gyda Scottish Power ar ochr y galw i effeithlonrwydd ynni ac arbedion carbon;
• Cyfrannu at fanteision busnes y gadwyn gyflenwi yn y Rhaglen Ynys Ynni;
• Gwella’r cysylltiadau rhwng ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a thwf busnesau sy’n cychwyn ar Ynys Môn;
• Sicrhau bod y gwelliannau mewn cyfathrebu digidol sydd i ddod ar yr Ynys yn cael eu matsio gyda buddsoddiad i sicrhau bod trigolion a busnesau’n gwneud y defnydd economaidd gorau ohonynt.
Dywedodd Mr Jones - drwy fod y Cyngor Sir yn gallu benthyca arian ar raddfa log sydd yn is fe alli felly helpu mudiad fel Menter Môn i symud prosiectau pwysig yn eu blaenau ar yr Ynys.
Dywedodd y Cadeirydd – drwy fod Menter Môn yn fudiad partner mor agos gyda’r Cyngor Sir, awgrymodd y dylai Mr Gerallt Ll Jones gael ei gyfethol i fod yn Aelod o’r Pwyllgor hwn.
Yn dilyn sesiwn o holi ac ateb PENDERFYNWYD diolch i Mr Gerallt
Ll Jones, Rheolwr- gyfarwyddwr Menter Môn am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.
CAMAU GWEITHREDU :
• Rhoi cefnogaeth i Menter Môn ddechrau trafodaethau gyda’r Cyngor Sir a’r Uned Datblygu Economaidd i drafod cyllid posibl i brosiectau oedd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
• Bod trefniadau’n cael eu gwneud i ymweld â phrosiectau a gwblhawyd yn y cymunedau lleol ac sydd wedi elwa o gyllid grant y Cynllun Datblygu Gwledig.
• Bod Mr Gerallt Ll Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn yn cael ei apwyntio fel aelod wedi ei gyfethol o’r Pwyllgor hwn heb hawliau pleidleisio.
Dogfennau ategol: