Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 11 Gorffennaf, 2013

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2013.  

 

Materion yn codi –

 

           Yng nghyswllt cyfranogiad y Trydydd Sector ym mhroses Sgriwtini’r Awdurdod cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) bod yr Adain Sgriwtini wedi bod mewn cyswllt gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn i fynd a’r mater hwn yn ei flaen.  Eglurodd y Swyddog bod y Pwyllgor Gwaith yn diweddaru ei Raglen Waith drwy ei gyfarfodydd misol sydd yn eu tro yn bwydo i mewn ac yn rhoi gwybodaeth ar gyfer blaenoriaethau’r Rhaglen Waith Sgriwtini.  Fel sydd wedi ei gytuno mae Rhaglen Waith ar y Cyd gyda’r Trydydd Sector yn seiliedig ar allbynnau’r Pwyllgor Cyswllt yn dechrau cael ei datblygu a bydd hyn yn hwyluso ymwneud y Trydydd Sector yn nhrefniadau democrataidd y Cyngor, gan gynnwys Sgriwitini.

 

Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod wedi trafod y mater gyda’r Rheolwr Sgriwtini ac y byddai’n hoffi cael sicrwydd y bydd cynnydd pendant yn cael ei wneud.  Fodd bynnag, rhaid i gyfranogwyr tebygol o’r Trydydd Sector fod wedi eu hyfforddi’n briodol er mwyn sicrhau eu bod yn dod ag ystod eang o brofiad ac arbenigedd i’r trafodaethau sgriwtini ac na fyddant ond yn bresennol yno fel cynrychiolwyr eu sefydliad unigol.  Mae gan y Trydydd Sector, fodd bynnag, gronfa o unigolion sydd â dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i weithredu fel cynrychiolydd ac i weithio mewn partneriaeth.  Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod yn ymwybodol bod y mater hwn wedi bod yn mynd yn ei flaen am beth amser ond mae’n golygu mwy na dim ond dewis unigolion i ymgymryd â’r rôl ond gwneud yn siŵr bod grŵp o bobl wedi eu hyfforddi ar gael ac yn gallu gweithredu’n effeithiol. 

 

Cytunodd Arweinydd y Cyngor gyda’r dadansoddiad a wnaed ac atgoffodd y Pwyllgor nad yw Pwyllgorau Sgriwtini yn bwyllgorau gwleidyddol a’u bwriad yw defnyddio profiad ac arbenigedd eu haelodau i allu gwneud gwell penderfyniadau.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn y byddai’n cydlynu’r broses o ddewis cynrychiolwyr sgriwtini addas pan fydd yn amserol i wneud hynny.

 

Nodwyd y sefyllfa.  Dim camau gweithredu pellach yn codi.

 

           Gan gyfeirio at y Cytundeb Compact a’r Polisi Gwirfoddoli dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) wrth y Pwyllgor ei fod wedi cael trafodaethau gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn ynglŷn â lansio’r Cytundeb Compact yn ffurfiol gyda hynny wedi ei drefnu ar gyfer 7 Tachwedd.  Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod Arweinydd y Cyngor wedi ei wahodd i fod yn rhan o’r lansiad fyddai hefyd yn gymorth i bwysleisio cymeriad partneriaeth y Compact fel cytundeb tair ffordd.  Cafwyd diweddariad i’r Aelodau gan y Cyfarwyddwr Cymuned ar weithredu’r Polisi Gwirfoddoli a dywedodd bod y flaenoriaeth yn parhau yn un o godi ymwybyddiaeth Penaethiaid Gwasanaeth o’r polisi a nodi’r gwirfoddolwyr sydd ar hyn o bryd yn weithredol yn y system a sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i gefnogi’r grŵp hwnnw ac i nodi cyfleon wedi hynny.

           Gan gyfeirio at y Côd Cyllido, dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod wedi cael cyfarfod gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i drafod diweddaru’r Côd Cyllido sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer ymgysylltu gyda’r Trydydd Sector ar faterion cyllidol ac ariannol.  Dywedodd bod adolygiad o’r Cod Cyllido yn amserol o ystyried bod yr hinsawdd ariannol wedi newid gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gyllido ar sail Cytundebau Lefel Gwasanaeth a thrwy broses gomisiynu yn hytrach na’r dull traddodiadol o ddyrannu grantiau ac y dylai’r newid hwn gael ei adlewyrchu yn y Côd Cyllido.

 

Dywedodd Y Cadeirydd ei fod yn bwysig bod y Trydydd Sector yn cael gwybod am y lefel o gyllid y mae’n debygol o’i dderbyn ar y cyfle cyntaf er mwyn helpu’r sector gyda’i broses gynllunio.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor wrth yr Aelodau bod proses y gyllideb wedi cychwyn yn llawer cynt y flwyddyn hon gyda thrafodaethau cychwynnol yn cael eu cynnal fis Gorffennaf.  Roedd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi gohebu gyda’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru ddechrau mis Medi ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y bydd y sefyllfa ariannol yn un heriol iawn yn y flwyddyn i ddod gyda thoriadau’n cael eu rhagweld o tua 5% neu £7.5m.

           Yng nghyswllt y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod gwaith y Comisiwn yn parhau a bod yr Awdurdod wedi cyflwyno ymateb fel rhan o’r ymgynghoriad.  Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru lle'r oedd Syr Paul Williams, Cadeirydd y Comisiwn wedi siarad a dweud bod arwyddion y bydd yn yr hirdymor lai o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) bod disgwyl y bydd argymhellion y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

           Gan gyfeirio at y Prosiect Gwrando Llais Cymunedol, rhoddodd Ms Lyndsey Williams, Rheolwr Prosiect ddiweddariad i’r Pwyllgor ar weithgareddau.  Cyfeiriodd at gylchu holiaduron i gael gwybodaeth waelodlin ynglŷn â faint o ddealltwriaeth sydd gan gymunedau o wasanaethau cyhoeddus ac am gynnal llu o ddigwyddiadau ymgynghori i gael mwy o wybodaeth gefnogol ar gyfer y waelodlin.  Soniodd y Swyddog hefyd am ddatblygiadau ynglyn â phroses y weledigaeth gymunedol oedd yn canolbwyntio i ddechrau ar Ward Seiriol a gweithgareddau mewn perthynas â’r lansiad swyddogol fydd yn dod ag aelodau'r gwahanol sectorau at ei gilydd i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn y mae’r prosiect yn ceisio ei gyflawni.  Bydd ymarfer gwerthuso’r prosiect yn cael ei gynnal gyda gwahoddiadau i dendro ar gyfer darparu’r gwerthusiad wedi eu rhoi allan a chyfweliadau wedi eu cynnal.  Yng nghyswllt Ymgynghoriad Gwneud Gwahaniaeth yr Awdurdod, dywedodd bod nifer o faterion ynglyn â dull ac amserlen yr ymgynghoriad wedi eu nodi.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod Adain Bolisi’r Awdurdod yn y broses o gasglu’r ymatebion i’r holiadur Gwneud Gwahaniaeth, sef cyfanswm o 900.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) bod materion ynglyn â’r dulliau a ddefnyddiwyd i wneud yr ymgynghoriad a’r cyfyngiadau o ran amser a osodwyd ar y broses yn cael eu hadolygu gyda’r bwriad o wneud gwelliannau.  Trafododd y Pwyllgor y gwersi oedd i’w dysgu o broses Ymgynghori Gwneud Gwahaniaeth o safbwynt cyrraedd cynulleidfa ehangach a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael safbwyntiau pobl ifanc.  Roedd yn cael ei gydnabod bod yr Ymgynghoriad Gwneud Gwahaniaeth wedi bod yn llwyddiannus o safbwynt cynhyrchu nifer uwch o ymatebion.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cymuned at ffyrdd o gydlynu ymgysylltiad gyda’r Trydydd Sector ac y roedd hynny wedi bod yn destun trafodaethau blaenorol ac mae’r broses bellach yn aeddfedu.

           Gan gyfeirio at y Rhaglen Waith a’r gweithdy, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) mai’r bwriad yw defnyddio Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith i roi gwybodaeth ar gyfer Rhaglen Waith y Pwyllgor Cyswllt ac i gynllunio ar sail hynny.

 

Dogfennau ategol: