Derbyn cyflwyniad gan Mr Trystan Pritchard, Rheolwr Uned Partneriaeth Gwynedd ac Ynys Môn.
Cofnodion:
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Tristan Pritchard, Rheolwr Uned Partneriaeth Gwynedd a Môn i’r cyfarfod a gwahoddwyd ef i annerch yr Aelodau ynglyn a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd.
Cafwyd diweddariad gan Reolwr yr Uned Bartneriaeth ar y datblygiadau hyd yn hyn ar ôl y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd (BELLC) drwy gyfeirio at y canlynol –
• Un o’r strategaethau allweddol yn cynnwys Plant a Phobl Ifanc, Diogelwch Cymunedol, Iechyd a Lles a’r Strategaeth Gymunedol i ffurfio un Strategaeth Integredig i Wynedd a Môn. Mae’r broses hon wedi ei chynllunio, ei gyrru a’i chraffu drwy greu Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd gyda’r sector gwirfoddol yn bartner llawn.
• Sefydlu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd fel y brif bartneriaeth strategol i’r holl wasanaethau o fewn ei ddyletswyddau, h.y. Plant a Phobl Ifanc, Iechyd a Lles, a Diogelwch Cymunedol.
• Modus Operandi lle mae’r BELLC yn nodi’r blaenoriaethau o fewn y Cynllun Integredig yn cael ei gefnogi gan is-strwythur yn ffocysu ar ganlyniadau. Y Cynllun Integredig yw’r prif gerbyd ar gyfer gwireddu’r blaenoriaethau a osodwyd.
• Ffocws ar wella ymgysylltiad, cydberchnogaeth a dileu ffiniau sefydliadol.
• Y Cynllun Integredig fel rhaglen ataliol. Blaenoriaethau cynnar y BELLC sy’n cynnwys yr Iaith, Tlodi, yr Economi a chryfhau ymgysylltiad.
• Nodau ac Amcanion yr Uned Partneriaeth ar y Cyd, yn cynnwys ychwanegu gwerth ac arwain ar faterion sydd angen ymyrraeth strategol ar y cyd.
• Strwythur llywodraethu gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd yn gosod y cyfeiriad strategol; Bwrdd Darparu er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol a Grwpiau Darparu / Prosiect yn cyflawni canlyniadau. Mae’r strwythur llywodraethu wedi ei ddylunio fel bod y pwyslais yn fwy ar gyflawni canlyniadau nag ar gylch o gyfarfodydd gyda’r BELLC yn comisiynu amcanion clir mewn meysydd penodol i’w gwireddu gan y grwpiau darparu a phrosiect .
• Camau nesaf, yn cynnwys ffurfio Cynllun Integredig Sengl gyda’r broses honno eisoes yn cael ei gweithredu.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau i Reolwr yr Uned Bartneriaeth ar y wybodaeth a gyflwynwyd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor yn y man gael cyflwyniad ac/neu wybodaeth ar weithgareddau uniongyrchol y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd. Dywedodd Rheolwr yr Uned Bartneriaeth y byddai’n hapus i wneud hynny unwaith y byddai’r grwpiau thematig/prosiect wedi mynd drwy’r sianelau adrodd yn ôl ac y byddai hefyd yn rhannu’r Cynllun Integredig Sengl drafft gyda’r Pwyllgor.
Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn - cyn i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd ddod i fodolaeth roedd yna strwythur lleol o grwpiau thematig gyda’r sector gwirfoddol fel rhan o’r strwythur hwnnw. Roedd ganddo rai pryderon gyda’r trefniadau’n cael eu taenu dros y ddwy sir y byddai rôl y sector gwirfoddol yn lleihau a phwysleisiodd ei bod yn bwysig parhau i ymgynghori gyda’r sefydliadau llai.
Dywedodd y Rheolwr Uned Partneriaeth mai’r nod yw cadw gweithgaredd lleol a bod gwaith yn cael ei wneud ar ddatblygu model gwahanol o weithio, e.e. drwy weithdai. Tra bod yna risg y bydd cysylltiadau lleol yn cael eu glastwreiddio, gall y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd gymryd mantais o’r wybodaeth sydd yna am gymunedau a’u hanghenion ac sy’n cael ei chynhyrchu gan brosiectau fel y Prosiect Gwrando Llais Cymunedol.
Nodwyd y wybodaeth fel y’i cyflwynwyd.
Camau Gweithredu’n Codi: Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) i gysylltu gyda’r Rheolwr yr Uned Partneriaeth i drefnu i’r Pwyllgor Cyswllt dderbyn, yn y man, wybodaeth am weithgareddau uniongyrchol y Bwrdd Gwasanaeth Lleol ar y Cyd yn ogystal â chopi o’r Cynllun Integredig Sengl drafft.