Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – 10C118A/RE – Bryn yr Odyn, Soar

12.2 – 14C135A – Glasfryn, Tyn Lon

12.3 – 14C28G/1/ECON – Parc Ddiwydiannol Mona

12.4 – 14C28H/1/ECON – Plot 14, Parc Ddiwydiannol Mona

12.5 – 19C1052C – Clwb RNA, Ffordd Dewi Sant, Caergybi

12.6 – 28C483 – Sea Forth, Ffordd Warren, Rhosneigr

12.7 – 40C315B – Wylfan Moelfre

Cofnodion:

12.1 10C118A/RE – Cais llawn ar gyfer lleoli fferm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol am gael ymweld â’r safle gan fod asesiad o’r tirlun yn ofynnol a bod fferm area solar 1.6 cilomedr yn unig o’r safle oedd wedi’i ganiatáu.  Rhaid oedd asesu’r effaith gynyddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes ymweld â’r safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd  Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  14C135A – Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod gwaith trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mrs Angharad Crump, yr ymgeisydd, annerch y Pwyllgor.

 

Y prif bwyntiau a godwyd gan Mrs Crump oedd y dylid caniatáu’r cais dan Bolisi 50 a HP5 sy’n caniatáu anheddau unigol ar safleoedd mewnlenwi, yn agos i ran datblygu pentrefi bychain a chlwstwr gwledig, gyda Llynfaes eisoes wedi’i nodi.  Fel teulu, roeddynt yn dymuno codi cartref yn eu cymuned leol ac yn agos i’w teulu.  Roedd Swyddogion Polisi Cynllunio wedi dweud bod y plot yn rhan o glwstwr gwledig yn y Polisi Cynllunio Dros Dro ar gyfer Clystyrau Gwledig.  Ar hyn o bryd, roedd y fynedfa bresennol yn cael ei defnyddio gan beiriannau amaethyddol, ceir a thraffig busnes ac ni wyddys am ddamweiniau a gafwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf.  Fel ymgeiswyr, roeddynt yn fodlon torri’r coed ar y safle fel bod modd gweld yn well.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Bob Parry OBE, un o’r aelodau lleol, annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod yn cefnogi’r cais.  Holodd y Swyddogion Priffyrdd ynghylch y materion a godwyd gan Mrs Crump yng nghyswllt y fynedfa i’r safle.  Ymatebodd y Swyddogion Priffyrdd gan ddweud eu bod yn derbyn bod y fynedfa i’r safle’n cael ei defnyddio gan gerbydau eraill ond ei bod yn is-safonol.  Cafwyd cyfarfod cyn cyflwyno’r cais ynghylch mynedfa newydd i’r annedd ond roedd y Swyddogion Priffyrdd o’r farn y buasai’n annerbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Victor Hughes ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, T Victor Hughes, Vaughan Hughes, R O Jones o blaid y cais.  Ymataliodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ar y sail ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 oherwydd ei fod mewn clwstwr. (Ni phleidleisiodd y Cynghorydd N. Roberts gan ei bod yn Aelod Lleol).

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais. 

 

12.3 14C28G/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi gweithdy trwsio cerbydau trwm ynghyd â lleoli swyddfa symudol a darparu lle parcio cerbydau trwm ar gyfer contractwyr amaethyddol ar blot 7, Parc Diwydiannol Mona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir oedd perchennog y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr  adroddiad.

 

12.4 14C28H/1/ECON – Cais llawn i godi warws storio a dosbarthu gyda swyddfa a chantîn ar Blot 14, Parc Diwydiannol Mona

 

Adroddwyd ar ddyddiad cyflwyno’r cais mai’r Cyngor Sir oedd perchennog y tir.  Fodd bynnag, ers cyflwyno’r cais, roedd yr ymgeisydd wedi prynu’r tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  R.O. Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr  adroddiad.

 

12.5 19C1052C – Cais llawn i godi deuddeg o fflatiau dwy ystafell wely a thri o fflatiau un ystafell wely ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar safle hen Glwb y Gymdeithas Forwrol Frenhinol (RNA), St. David’s Road, Caergybi 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr  adroddiad.

 

12.6 28C483 – Cais llawn ar gyfer lleoli caban pren yn Sea Forth, Warren Road, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Ian Robinson, gwrthwynebydd i’r cais, annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Robinson y gofynnwyd iddo gan rai o drigolion Warren Road, Rhosneigr annerch y Pwyllgor.  Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried ymweld â’r safle er mwyn gweld y datblygiad arfaethedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones ymweld â’r safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.7 40C315B – Cais llawn am ganiatâd dros dro i leoli pedwar o gynwysyddion storio ar dir yn Yr Wylfan, Moelfre 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn ymwneud â thir y mae’r Cyngor wedi ei brydlesu i Gymdeithas Frenhinol y Badau Achub am dymor sydd dros 80 o flynyddoedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: