Cofnodion:
Estynnodd y Prif Weithredwr ei longyfarchiadau i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r isod:-
Cynhaliodd y Gwasanaethau Oedolion ddau rwydwaith cenedlaethol pwysig ddiwedd y mis diwethaf. Y cyntaf oedd y Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer y Rhwydwaith Cydlynwyr Pobl Hŷn a oedd yn cyfarfod ar yr Ynys ar 18 Tachwedd. Roedd y rhwydwaith yn cynnwys uwch swyddogion o Gyfadran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Adran Cydraddoldeb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Heneiddio’n Dda yng Nghymru o Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn. Roeddent yn trafod materion megis Awdurdodau Lleol yn arwyddo Datganiad Dulyn [a lofnodwyd gennym ni ym mis Medi 2013] a’r rhaglen o waith ynghylch y Rhwydwaith Heneiddio’n Dda yng Nghymru.
Yn ail, ar 19 Tachwedd, cynhaliodd Ynys Môn gyfarfod o’r Grŵp Llywio Cymunedau Oed-Gyfeillgar sy’n brosiect a ariennir gan INTERREG Iwerddon-Cymru ac sy’n dwyn ynghyd bum partner yn Iwerddon a Chymru i ddatblygu strategaethau sy’n pontio’r cenedlaethau (lleol a rhyngwladol) ac i dreialu gweithgareddau i annog cydlyniant cymunedol a chynhwysiant cymdeithasol.
Daeth y ddau rwydwaith cenedlaethol at ei gilydd ar gyfer y ddau ddiwrnod ar gyfer te rhwydweithio wedi ei arwain gan Arweinydd y Cyngor, Cadeirydd y Cyngor a’r Eiriolwyr ar gyfer Pobl Hŷn a Gofalwyr. Roedd presenoldeb yno o fudiadau cenedlaethol a chynrychiolwyr ein gwasanaethau lleol ar gyfer pobl hŷn (Heneiddio’n Dda, Fforwm Pobl Hŷn) yn ogystal â’r rheini sy’n manteisio ar ein prosiectau Heneiddio’n Dda yn lleol - er enghraifft Parc Mwd, y Fali a Rhandiroedd ym Menllech.
Ar 28 Tachwedd 2012 ymwelodd Carl Sargeant AC (Gweinidog Llywodraeth Cymru ar Adfywio a Thai) ag un o’r cynlluniau Tai â Chefnogaeth ar gyfer pobl sydd ag anghenion camddefnyddio sylweddau ac alcohol yn Llangefni. Ariennir y Cynllun Eilianfa sydd wedi ei leoli yng nghanol y gymuned gan y Rhaglen Cefnogi Pobl. Roedd yr ymweliad wedi ei drefnu yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i ymweld â dau gynllun tai â chefnogaeth yng Ngogledd Cymru ar gyfer pobl sy’n camddefnyddio alcohol a sylweddau. Y prosiect arall yr ymwelwyd ag ef oedd un yn Sir y Fflint. Mae £18,194.16 yn cael ei fuddsoddi ar gyfer darparu gwasanaethau cefnogaeth sy’n ymwneud â thai i ddau berson yn Eilianfa, cynllun y mae Tai Eryri yn berchennog arno. Darperir y gwasanaeth cefnogaeth gan CAIS fel sefydliad sy’n arbenigo mewn delio â phobl ag anghenion camddefnyddio alcohol a sylweddau.
Treuliodd y Gweinidog amser ar ei ben ei hun gyda’r ddau ddefnyddiwr gwasanaeth i drafod eu profiadau personol a’u profiad o fyw yno. Roedd yn amlwg bod y ddau unigolyn, y cynllun a’r gefnogaeth wedi gwneud argraff dda arno. Roedd yn ganmoliaethus iawn o’r cynllun a’r Rhaglen Cefnogi Pobl ar draws Cymru sy’n gyfrifol am 70% o’r gyllideb flynyddol y mae’n gyfrifol amdani.
Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’r Adran Dai mewn perthynas â’r isod:-
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol llwyddiannus iawn gan Cymunedau’n Gyntaf Ynys Môn. Dywedodd Cyfarwyddwr Adran Atal Tlodi Llywodraeth Cymru bod y cynllun hwn yn un blaenllaw ar gyfer Cymru a bod cyllid ychwanegol wedi ei ddarparu i sefydlu cynllun peilot i gael aelwydydd di-waith yn ôl i’r gweithle.
Roedd y Gwasanaeth Tai yn un o’r tri sefydliad tai uchaf trwy Gymru yn y categori ‘Tai yn Adfywio Cymunedau’ ac maent wedi cael eu cydnabod fel enghreifftiau o arferion da yng nghyhoeddiad newydd y Sefydliad Tai yng Nghymru a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol am eu cynllun sy’n rhoi cymorth ariannol i brynwyr tro cyntaf i brynu eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis.
Roedd y Cynghorydd K. P. Hughes, yr Aelod Portffolio, yn dymuno cofnodi ei werthfawrogiad i staff yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith yn hyn o beth.
Soniodd y Prif Weithredwr fod Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru wedi ei chynnal ym Mona ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2013. Roedd yn bleser eu gwahodd yma i Ynys Môn ac roedd Cadeirydd y Cyngor ac Aelodau eraill yn bresennol ar y diwrnod i weld y cystadlu.
Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd fod gwahoddiad i’r Aelodau ddod i Seremoni Gwobrau Staff 2013 a gynhelir am 2:30pm ddydd Gwener.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Sam, mab y Cynghorydd R. Dew a oedd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd am godi Pwysau ar 2 Tachwedd 2013 yn Glasgow.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Gwenno Pugh, yn wreiddiol o Benmynydd, ar ennill y gystadleuaeth Fferm Factor ar S4C neithiwr.
Ar nodyn tristach, cydymdeimlodd y Prif Weithredwr â theulu Mr. John Rowlands, cyn-Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi a’r Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg ar gyfer Cyngor Gwynedd.
Estynnwyd cydymdeimlad hefyd â’r Arglwydd Stanley o Alderley, a fu farw’n ddiweddar yn 86 oed. Chwaraeodd ei deulu rôl flaenllaw yn hanes tref Caergybi. Roedd yr Arglwydd Stanley yn aelod o’r Dŷ’r Arglwyddi tan 1999. Treuliodd dros 40 o flynyddoedd fel Llywydd Bad Achub Caergybi ac ef oedd Noddwr Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi a’r Amgueddfa Arforol. Roedd yn aelod hefyd o Gyfeillion Sant Cybi a Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn.
Estynnodd yr Is-Gadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf hefyd â Mrs Bessie Burns, cyn-Gynghorydd a chyn-Gadeirydd y Cyngor Sir ar golli ei gŵr Dennis yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod Etholedig neu aelod o staff a oedd wedi cael profedigaeth. Safodd yr Aelodau mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o barch.