“A ydyw y Cyngor yn fodlon sefydlu panel tros-bleidiol i fod yn barod i ymateb i adroddiad Williams ar dorri lawr y nifer o gynghorau yng Nghymru?”
“Faint o denantiaid tai cyngor sydd wedi cael eu troi o’u cartrefi oherwydd methu â thalu’r dreth ystafell wely?”
“Buaswm yn hoffi gwybod mewn manylder beth yw’r diweddaraf ynghlwm â chau cartrefi henoed y Cyngor Sir yn Ynys Môn yn arbennig cartref Garreglwyd, Caergybi gyda manylion o wybodaeth cyfarfodydd gyda staff y cartref i egluro’r sefyllfa iddynt”.
Cofnodion:
• Cyflwynwyd - y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE, i Arweinydd y Cyngor:-
“A ydyw’r Cyngor yn fodlon sefydlu panel trawsbleidiol i fod yn barod i ymateb i adroddiad Williams ar leihau nifer y cynghorau yng Nghymru?”
Yn ei ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor:-
“Rwy’n meddwl ei fod yn beth call iawn i sefydlu Panel Trawsbleidiol. Rwy’n ystyried ei fod ychydig yn gynamserol. Adolygiad ydyw o’r sector cyhoeddus ac nid gostwng nifer y Cynghorau.”
Gofynnwyd y cwestiwn atodol isod gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE:-
“Rwy’n parhau i lynu wrth yr un cwestiwn oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn barod, oherwydd bod rhai pethau yn yr adroddiad sy’n ymwneud â syniadau ynghylch gostwng nifer y Cynghorau. Rwy’n meddwl bod angen i ni sefydlu Panel pan fo’r amser yn iawn.”
Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd:-
“Rwy’n meddwl eich bod wedi fy nghamddeall. Rwy’n credu y byddai’n beth call i ni ei wneud ac rwy’n cytuno ac mi fyddwn yn gwneud hynny. Diolch.”
• Gofynnodd y Cynghorydd Bob Parry OBE y cwestiwn isod i’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai:-
“Faint o denantiaid tai cyngor sydd wedi cael eu troi o’u cartrefi oherwydd methu â thalu’r dreth ystafell wely?”
Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes, Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai:
“Mewn ymateb i’ch cwestiwn, nid ydym hyd yma wedi troi unrhyw denantiaid allan o’u cartrefi oherwydd eu hanallu i dalu’r dreth ystafell wely. Dim ond pan fo popeth arall wedi methu y byddwn yn troi tenantiaid allan ac mae’r Awdurdod ac asiantaethau partner yn gwneud popeth y gallont i sicrhau bod tenantiaid yn gallu cadw eu tenantiaethau. Cyn i ni fynd i lawr y lôn hon bydd yr Adran Dai yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.”
Gofynnwyd y cwestiwn atodol isod gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE:-
“Diolch. Rwy’n falch y bydd adroddiad yn dod i’r Pwyllgor Gwaith oherwydd rwy’n meddwl bod rhai Cynghorau eisoes wedi cymryd camau i geisio goresgyn y broblem hon. Ond y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i’w ofyn oedd pan fo’r Adran Dai yn gosod tai ydyn nhw’n fwy gofalus i beidio â gosod tai tair ystafell wely i un person?”
Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes:-
“Ydynt. Rwy’n credu bod rhaid iddynt fod yn fwy gofalus am resymau amlwg oherwydd nid ydym am i’r broblem hon godi.”
• Cyflwynwyd – y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Trevor Lloyd Hughes i’r Aelodau Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai:-
“Buaswn yn hoffi gwybod, mewn manylder, beth yw’r diweddaraf ynghylch cau cartrefi henoed y Cyngor Sir yn Ynys Môn yn arbennig cartref Garreglwyd, Caergybi, gyda manylion am gyfarfodydd a gafwyd gyda staff y cartref i egluro’r sefyllfa iddynt”.
Yn ei ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, y Cynghorydd K. P. Hughes:-
“Fe benderfynodd y Cyngor yn ystod Gorffennaf 2013 i dderbyn y negeseuon a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghori rhwng Hydref-Rhagfyr 2012.
Penderfynwyd cadw statws cyfredol y Cartrefi Preswyl a sefydlu prosiect er mwyn sicrhau y byddai cynlluniau’n cael eu datblygu ynglŷn â bwriadau’r Cyngor i’r dyfodol mewn perthynas â llety addas a’r ddarpariaeth gymunedol fydd ar gael.
Ymgynghorwyd â’r holl breswylwyr yn ein cartrefi preswyl yn ystod mis Mai i gadarnhau bwriad y swyddog i gyflwyno argymhellion i’r Cyngor ac na fyddai yna unrhyw newid mewn perthynas â’u gofal. Cadarnhawyd y byddem yn cysylltu ymhellach â hwy wrth i’r rhaglen ddatblygu.
Sefydlwyd y Bwrdd Prosiect fel rhan o Raglen Drawsnewid y Cyngor sy’n blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu Gwasanaethau Oedolion.
O fewn y rhaglen hon, rhoddwyd blaenoriaeth i:
- Datblygu Tai Gofal Ychwanegol – Ardal Amlwch
- Cryfhau Gwasanaethau Galluogi sy’n grymuso unigolion i fyw yn eu cartrefi.
O fewn y rhaglen bydd y cynlluniau manwl ynglŷn â’r uchod yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Rhaglen ddiwedd mis Ionawr fel y gall y Cyngor llawn eu hystyried rhwng Chwefror a Mawrth. Ynghyd ag ystyriaethau capasiti, rhoddwyd blaenoriaeth i’r rhaglenni uchod ond bwriedir hefyd ystyried anghenion tai gofal ychwanegol ardal Llangefni ac wedyn de’r Ynys yn ogystal. Bwriedir hefyd ystyried y gwasanaethau dementia gyda’r rhaglen hon yn cychwyn yn y Gwanwyn.
Penderfynodd y Cyngor (Gorffennaf 8) i gynnal statws mynediad presennol Cartref Garreglwyd, sef peidio â derbyn lleoliadau parhaol, ond annog defnyddio’r cartref ar gyfer gofal ysbaid:
“Cadarnhau’r defnydd presennol o 6 chartref preswyl yr Awdurdod. Mae hyn wedi cynnwys cyfyngu’r defnydd o unrhyw lefydd gweigion yn Garreglwyd, Caergybi ar gyfer gofal ysbaid yn unig.”
Gwnaed y penderfyniad hwn yn seiliedig ar osgoi rhoi oedolion bregus mewn sefyllfa o gael eu lleoli tra roedd unrhyw amheuaeth yn bodoli am ddyfodol y cartref. Y bwriad oedd sicrhau cysondeb i’r preswylwyr cyfredol tra bod y Bwrdd Rhaglen yn ystyried y rhaglen waith yn ei chyfanrwydd ac yn adrodd yn ôl yn seiliedig ar wybodaeth. Y bwriad yw cyflwyno gwybodaeth bellach ynglyn â’r sefyllfa fel rhan o’r rhaglen drawsnewid o fewn y flwyddyn ariannol bresennol hon.
Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda staff ym mhob cartref preswyl dros y cyfnod diweddar. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r undebau yn ogystal bob pythefnos.
Er yr heriau sy’n cael eu gosod gan y rhaglen hon rydym yn credu y byddwn yn gallu cadw at yr amserlen a gytunwyd o fewn trefniadau’r Bwrdd.”
Gofynnwyd y cwestiwn ategol canlynol gan y Cynghorydd T Lloyd Hughes:-
“Nid yw’r staff yn y cartrefi hyn yn gwybod beth sydd yn digwydd. Nid yw uwch swyddogion yn yr adran wedi bod yn ymweld â’r cartrefi. Rydych chi’n siarad am ofal ysbaid yn mynd i Garreglwyd - faint yn fwy o wlâu ydych chi yn ei symud o Garreglwyd? Meddyliwch chi, pe baech chi’n gweithio yna, sut y byddech chi’n teimlo am yr hyn sy’n mynd ymlaen? Does neb yn gwybod. Mae dau wely eisoes wedi mynd oddi yno.”
Dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes wrth ateb:-
“Oherwydd nad yw’r wybodaeth gennyf i law, fe ddof yn ôl atoch chi yn ysgrifenedig yn ystod y pythefnos nesaf.”