Eitem Rhaglen

Mater a gyfeiriwyd at y Pwyllgor am ystyriaeth mewn perthynas â galw penderfyniad i mewn

DATBLYGIADAU PARC GWYDDONIAETH

 

Penderfyniad gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd, 2013.

 

3.1 Copi o’r penderfyniad a’r Ffurflen Gais i alw’r penderfyniad i mewn.

 

3.2  Copi o’r adroddiad perthnasol gan y Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd,  2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ffurflen Galw Penderfyniad i Mewn, a gwblhawyd ac a lofnodwyd gan 5 Aelod o’r Cyngor Sir, sef y Cynghorwyr P S Rogers (a oedd yn arwain ar alw’r penderfyniad i mewn), Jeff Evans, T Victor Hughes, G O Jones, Raymond Jones, D Rhys Thomas i’r Pwyllgor mewn perthynas â phenderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd 2013 ynghylch Datblygiad y Parc Gwyddoniaeth.  Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ond wedi penderfynu ymhellach “y dylid parhau i gadw i

 

bwrpas penodol unrhyw incwm a geir er mwyn ei fuddsoddi yn y stad mân-daliadau.” Y penderfyniad penodol hwnnw a oedd wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor Sgriwtini.

 

Cyflwynwyd copi o’r adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith a’r papurau galw i mewn fel rhan o’r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

Fel yr Aelod a oedd yn Arwain ar alw’r penderfyniad i mewn, dywedodd y Cynghorydd P. S. Rogers mai ei reswm dros wneud hynny oedd ei fod yn ystyried ei fod yn amhriodol yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn i neilltuo’r arian yn unig ar gyfer gwneud buddsoddiadau pellach yn y stad mân-ddaliadau pan fo cymaint o wasanaethau hanfodol eraill y Cyngor yn wynebu toriadau llym neu gau hyd yn oed.  Roedd yn ystyried y dylai’r stad mân-ddaliadau gynhyrchu ei hincwm ei hun er mwyn sicrhau parhad y stad. Gofynnodd hefyd beth oedd wedi digwydd i’r incwm o dros 6,000 o erwau o dir a osodir  gan yr Awdurdod bob blwyddyn?  Yn ogystal, tan yn ddiweddar roedd dros £200k y flwyddyn yn cael ei gyfrannu i goffrau’r Cyngor ac erbyn hyn nid oedd unrhyw gyfraniad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rogers i’r pum aelod a oedd wedi cefnogi ei gais i alw’r penderfyniad i mewn a soniodd bod rhai o’r aelodau newydd ar y Cyngor angen eglurhad ar gefndir y stad mân-ddaliadau a’r problemau y mae’n eu hwynebu.

 

Yn ei ymateb dygodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) sylw’r Pwyllgor at y gwahanol benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith dros y blynyddoedd mewn perthynas â llywodraethu’r stad mân-ddaliadau ac yn benodol fe gyfeiriodd at benderfyniadau a wnaed ar 7 Medi 2010 “i neilltuo’r incwm o’r rhent i’w wario yn unig ar y stad” ac ar 5 Hydref 2010 “y dylai’r gwasanaeth gynllunio ar y sail y bydd cyllid cyfalaf a refeniw yn parhau i gael ei glustnodi ond y byddai’r polisi yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd yn wyneb cynnydd gyda chlirio’r gwaith cynnal oedd wedi cronni a’r amgylchiadau ariannol ar y pryd.”

 

Yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar 4 Tachwedd 2013 dywedwyd y byddai’n rhaid dilyn y Polisi Rheoli Asedau a’r polisïau mân-ddaliadau ar gyfer cael gwared ar dir ac eithrio lle 'roedd y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi caniatâd i beidio â dilyn y polisi arferol.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod yr Awdurdod hanner ffordd trwy’r rhaglen waith ar hyn o bryd a disgwylir y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau yn y 2-3 blynedd nesaf.  Byddai’r stad mân- ddaliadau wedyn yn ased pwysig iawn i’r awdurdod ac yn ei farn ef byddai’n andwyol i’r stad os penderfynir gweithredu newid yn y polisi yn awr.  Ychwanegodd hefyd bod yr adolygiad rhent tair blynedd yn cael ei ystyried gan y swyddogion ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Eiddo a Mân-ddaliadau a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economiadd grynodeb byr i’r Pwyllgor o’r rhesymeg y tu ôl i sefydlu’r stad mân- ddaliadau ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw.  Roedd raid dod â’r eiddo hyn i safon dderbyniol o safbwynt iechyd a diogelwch.

 

Rhoddwyd cyfle hefyd i’r cyn Aelod Portffolio ar gyfer Mân-ddaliadau, Y Cynghorydd Bob Parry OBE, gyflwyno ei sylwadau ei hun, sef bod angen dal ati gyda’r rhaglen waith yn wyneb cyflwr gwael y stad yn gyffredinol.  Roedd yn ystyried y dylid parhau i neilltuo cyllid  i’r pwrpas penodol hwn hyd nes y bydd y rhaglen waith wedi ei chwblhau a’i adolygu wedi hynny.  Roedd yn bwysig hefyd parhau i gynnal y stad gan mai cartrefi pobl oedd y rhain ac roeddent yn cael eu defnyddio’n aml fel cam ar yr ystol i bobl ifanc gael dechrau ffermio ar yr Ynys.

 

Ynystod y cyfarfod rhoddwyd cyfle i aelodau’r Pwyllgor fynegi barn a gofyn cwestiynau i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelodau Portffolio Perthnasol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.