Eitem Rhaglen

Materion yn Codi

·        Ysgolion lle bo’n berthnasol wedi eu hatgoffa am yr angen i gyflwyno adroddiad hunan arfarnu.

·        Gwefan Addysg Grefyddol (Copi ynghlwm)

·        Cefnogaeth gan y GwE

·        Adroddiad Estyn ar Addysg Grefyddol mewn Ysgolion Uwchradd wedi’i  ddosbarthu i’r ysgolion ar 5 Medi, 2013 (Copi ynghlwm)

·        Adolygiad o Bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Cofnodion:

           Atgoffodd y Swyddog Addysg yr Aelodau yn unol â'r drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol bod corff CYSAG Ynys Môn yn hanesyddol wedi cadw'r hawl i benodi Cadeirydd o blith cynrychiolwyr yr AALl ar y corff a bod yr AALl yn draddodiadol wedi arfer ei hawl i wneud y penodiad. Dywedodd Swyddog CYSAG, yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, fod y Cynghorydd Dylan Rees wedi cael ei benodi i ymgymryd â'r swyddogaeth a chyflwynodd y Cynghorydd Rees i'r CYSAG fel ei Gadeirydd newydd.

 

Cymeradwyodd aelodau'r CYSAG y penodiad yn unfrydol.

 

           Gan gyfeirio at y ddwy ysgol yr oedd dal i ddisgwyl am eu hadroddiadau hunan-arfarnu AG yn y cyfarfod blaenorol, dywedodd y Swyddog Addysg nad oedd yr adroddiadau o Ysgol Pentraeth ac Ysgol y Fali wedi dod i law er gwaethaf sawl cais am y wybodaeth. Awgrymodd bod llythyr yn cael ei anfon at Gadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgolion perthnasol. Roedd aelodau’r CYSAG yn cytuno â'r awgrym hwn, o ystyried bod y wybodaeth yn hanfodol i’r corff gyflawni ei gyfrifoldebau monitro a chan gymryd i ystyriaeth y ffaith bod ceisiadau blaenorol wedi eu gwneud am yr adroddiadau.

 

Camau dilynol: Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at Gadeiryddion priodol Cyrff Llywodraethol Ysgol Pentraeth ac Ysgol y Fali i holi am argaeledd eu hadroddiadau hunan-arfarnu Addysg Grefyddol, a pham fod eu darparu’n bwysig i gyflawni dyletswyddau'r CYSAG fel corff monitro.

 

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg fod gwybodaeth am fynediad i wefan Newyddion AG wedi cael ei ddarparu i Aelodau CYSAG ac i bersonél perthnasol eraill. Gofynnodd Miss Bethan James, yr Arweinydd Systemau, i'r Aelodau rannu unrhyw wybodaeth am brosiectau lleol ac arferion da neu arloesol y maent o bosibl yn ymwybodol ohonynt, fel y gallai'r rhain gael eu lledaenu'n ehangach.

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg fod y trefniadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod blaenorol, lle y byddai CYSAG yn gofyn am adroddiadau hunan-arfarnu'r ysgolion ar sail gylchol yn y sectorau cynradd ac uwchradd, wedi cael eu rhoi ar waith ac mai adroddiad hunan-arfarnu Ysgol Uwchradd Bodedern oedd yr adroddiad uwchradd cyntaf a dderbyniwyd o dan y system newydd, fel sydd wedi ei gynnwys ar yr agenda.

           Mewn perthynas â darparu cymorth ar gyfer y CYSAG, hysbysodd y Swyddog Addysg yr Aelodau fod yr AALl wedi cynnal trafodaethau â GwE, gyda'r canlyniad y bydd 3 diwrnod bob tymor o amser yr Arweinydd Systemau yn cael ei wneud ar gael i'r CYSAG. Bydd y gefnogaeth a ddarperir ar ffurf canllawiau, mewnbwn arbenigol ac adroddiadau i'r CYSAG ond ni fydd yn cynnwys cynnal ymweliadau ag ysgolion. Cafodd mater cefnogaeth ei godi a’i symud ymlaen ar lefel Gogledd Cymru oherwydd sail statudol corff CYSAG. Dywedodd Miss Bethan James, yr Arweinydd Systemau, y byddai'n darparu cymorth gweinyddol i'r CYSAG yn bennaf er bod cais wedi'i wneud ei bod yn parhau yn ei rôl gynrychioliadol yng nghyfarfodydd y CCYSAGC. Oherwydd y newid yn natur y gefnogaeth sydd i'w darparu a cholli mewnbwn ymgynghorol Cynnal i ysgolion, mae angen rhoi ystyriaeth i sut y bydd athrawon AG yn y dyfodol yn cefnogi eu hunain yn eu datblygiad proffesiynol o fewn y maes pwnc. O ganlyniad, bydd hefyd yn disgyn i'r CYSAG fel corff i gynghori'r AALl o ran hwyluso proses lle y gall athrawon AG ddod at ei gilydd i fireinio a datblygu eu sgiliau a'u harbenigedd.

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg fod adroddiad Estyn ar Addysg Grefyddol mewn ysgolion uwchradd wedi cael ei ddosbarthu i 5 ysgol uwchradd yr Ynys yn unol â chais CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol.

           O ran yr adolygiad o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, hysbysodd y Swyddog Addysg y CYSAG bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori tan 17eg Ionawr, 2014 ar gynigion ar gyfer cwricwlwm diwygiedig a'r trefniadau asesu yng Nghymru. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys 11 o bynciau, gydag AG fel pwnc statudol ychwanegol. Mae'r ymarfer hwn yn cynrychioli'r cam cyntaf o broses dau gam ac yn canolbwyntio ar wella addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y Cwricwlwm tra bydd yr ail gam yn ymwneud â chynnwys y cwricwlwm. Esboniodd y Swyddog bod Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cenedlaethol newydd (yn cwmpasu Blynyddoedd 2 i 9) wedi’i gyflwyno beth amser yn ôl a bod cam cyntaf yr ymgynghoriad yn ceisio alinio'r FfLlRh a'r Cwricwlwm yn well, fel bod yr holl bynciau ar draws y Cwricwlwm Cenedlaethol (ac Addysg Grefyddol) yn rhoi cyfleoedd i wella a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Dywedodd Miss Bethan James mai’r arwyddion ar hyn o bryd yw na fydd AG yn cael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad ail gam ar yr adolygiad o'r Cwricwlwm, ar y sail nad yw'r AG yn bwnc cwricwlaidd ac mai mater i gyrff CYSAG lleol yw’r maes llafur Addysg Grefyddol. Fodd bynnag, mae trafodaethau ar y gweill ar y mater hwn, ac mae athrawon AG yn awyddus i'r pwnc adlewyrchu datblygiadau mewn rhannau eraill o'r Cwricwlwm. Dywedodd ei bod hi a’i chyn-ymgynghorwyr dyniaethau sy’n parhau i gefnogi cyrff CYSAG wedi cytuno i gyfarfod ar 6ed Ionawr i drafod a llunio ymateb i gam cyntaf ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ran Panel Ymgynghorol Addysg Grefyddol Cymru. Dywedodd y byddai unrhyw sylwadau y gallai fod gan Aelodau CYSAG ar y mater yn cael eu croesawu.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y CYSAG mewn perthynas â'r hyn y gallai'r ymgynghoriad ei olygu i safonau, esboniodd Miss Bethan James y cefndir i bwyslais Llywodraeth Cymru ar wella sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan gynnwys cwestiynau a godwyd o amgylch cysondeb a dilysrwydd asesiadau athrawon yn CA3; cwestiynau’n ymwneud â pharhad rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd a'r awgrym nad yw disgyblion ysgolion Cymru yn cyflawni i'r lefelau y gallent yng nghyd-destun profion PISA oherwydd bod eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn wannach. Amlygodd y cynrychiolydd Athrawon Uwchradd beth yn ymarferol y mae’r ffocws ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd wedi ei olygu yn dilyn cyflwyno'r FfLlRh, o ran ceisio cymhwyso'r sgiliau hynny i bynciau megis Addysg Grefyddol, sy’n golygu bod llai o sylw yn cael ei roi i gynnwys y pwnc er efallai bod safon y gwaith terfynol yn well. Y broblem yw sicrhau bod cydbwysedd rhwng gofynion y FfLlRh a gwell safonau llythrennedd a rhifedd yn erbyn cwblhau modiwlau pwnc.

 

Gan fod y CYSAG yn teimlo nad oedd mewn sefyllfa i ddarparu ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad yn y cyfarfod hwn, ac yn wyneb y ffaith na fyddai'r corff yn cyfarfod eto tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ymateb, awgrymodd yr Arweinydd Systemau bod yr adborth o gyfarfod Panel Ymgynghorol Addysg Grefyddol ar y 6ed Ionawr yn cael ei ddarparu i'r Swyddog Addysg, er mwyn caniatáu i ymateb gael ei wneud gan Ynys Môn. Dywedodd y Swyddog mai’r cwestiwn yw - mewn achos o sefydlu grŵp adolygu cwricwlwm, a yw'r CYSAG am i AG fod yn rhan o'r ddarpariaeth honno, neu aros fel pwnc ar wahân ar ei ben ei hun. Credai aelodau CYSAG ei bod yn bwysig bod Addysg Grefyddol yn cael ei chynnwys mewn trafodaethau ynghylch adolygiad cwricwlaidd a bod y farn honno yn cael ei wneud yn hysbys cyn ail gam yr ymgynghoriad.

 

Cytunwyd bod AG fel pwnc yn cael ei gynnwys mewn trafodaethau mewn paratoad ar gyfer ail gam ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynnwys cwricwlaidd.

 

Camau dilynol: Yr Arweinydd Systemau i ddarparu gwybodaeth am ganlyniad trafodaethau'r Panel Ymgynghorol Addysg Grefyddol o'i gyfarfod ar 6ed Ionawr, 2014 i’r Swyddog Addysg.

 

Dogfennau ategol: