Cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2012/13.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn am 2012/13 i'w ystyried a'i gymeradwyo.
Darparodd Miss Bethan James, yr Arweinydd Systemau, wybodaeth i'r Aelodau ynglŷn â chefndir paratoi'r adroddiad, ynghyd ag esboniad cryno o'i gynnwys a oedd yn seiliedig ar drafodaethau CYSAG yn ei gyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2012/13. Aeth y Swyddog ymlaen i ddod â'r materion canlynol i sylw'r CYSAG –
• Gan gyfeirio at adroddiadau hunan-arfarnu'r ysgol, p’un a oedd y CYSAG yn hapus i gefnogi'r arfer o enwi’r ysgolion hynny a oedd wedi methu â chyflwyno adroddiad hunan-arfarnu ar gyfer CYSAG.
Trafododd yr Aelodau y mater a gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr amserlen a'r gwaith sydd ynghlwm wrth gwblhau'r hunan-arfarnu. Dywedodd yr Arweinydd Systemau bod disgwyl i ysgolion fod wedi ymgymryd â'r gwaith cynllunio paratoadol, sy'n gwneud cwblhau'r ffurflen hunan-arfarnu yn dasg llai beichus.
Yn wyneb y ffaith bod ceisiadau wedi cael eu gwneud i ysgolion gyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu i sylw'r CYSAG am resymau monitro, a bod methiant cychwynnol i wneud hynny yn cael ei ddilyn i fyny gyda gohebiaeth, cytunodd Aelodau’r CYSAG â'r egwyddor bod ysgolion sy'n parhau i fethu â chydymffurfio yn cael eu henwi yn yr Adroddiad Blynyddol.
Cytunwyd bod ysgolion sy'n methu â chyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu yn cael eu henwi yn yr Adroddiad Blynyddol. Cytunwyd hefyd bod Ysgol y Tywyn ac Ysgol Llanddona yn cael y cyfle i ddiwygio eu hadroddiadau hunan-arfarnu i gynnwys, yn achos y cyntaf, farn ar ansawdd y deilliannau neu ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol, ac yn yr achos olaf, farn ar ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd, i gynnwys barn ar y ddarpariaeth Addysg Grefyddol.
• Gan gyfeirio at ganlyniadau mewn Addysg Grefyddol, p’un a oedd y CYSAG yn hapus â'r arfer o enwi ysgolion sy'n gallu dynodi nodweddion da er mwyn tynnu sylw at arfer da y gall ysgolion eraill dynnu arno.
Cytunwyd bod yr ysgolion hynny sy’n gallu dynodi nodweddion da yn cael eu henwi yn yr Adroddiad Blynyddol.
• Gan gyfeirio at argymhelliad y CYSAG i AALl Ynys Môn mewn perthynas â chanlyniadau mewn Addysg Grefyddol, p’un a oedd y CYSAG yn hapus i gadw argymhelliad Cyd-gysylltwyr AG i gael eu gwahodd i gyflwyno eu gwaith i Aelodau CYSAG.
Cytunwyd bod yr argymhelliad hwn yn cael ei gadw yn yr Adroddiad Blynyddol.
• Gan gyfeirio at yr adran sy’n amlinellu'r cymorth a ddarperir gan Wasanaethau Ymgynghorol Cynnal, nododd yr Arweinydd Systemau y bydd angen rhoi ystyriaeth i gynnwys yr adran hon ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan fod cangen ymgynghorol Cynnal wedi ei diddymu ar 31 Mawrth, 2013.
• Gan gyfeirio at y rhestr o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar ffurf dogfennau canllawiau i athrawon Addysg Grefyddol, dywedodd yr Arweinydd Systemau bod y cyfan ond y ddogfen canllawiau Pobl, Cwestiynau, a Chredoau: Addysg Grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen wedi cael eu hystyried yn ffurfiol gan y CYSAG. Awgrymodd y Swyddog y byddai'r ddogfen yn ddefnyddiol i ysgolion cynradd fel ystorfa o syniadau i hyrwyddo arfer da, er nad oedd ar gael ar hyn o bryd drwy wefan Llywodraeth Cymru. Cytunodd Aelodau’r CYSAG i gylchredeg copi o'r ddogfen canllawiau i ysgolion cynradd yr Ynys, er mwyn iddynt gael tynnu arni am syniadau ac arfer da.
Cytunwyd i dderbyn Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn am 2012/13, yn amodol ar y newidiadau argraffyddol a nodwyd yn ystod y drafodaeth.
Camau dilynol:
• Y Swyddog Addysg i gysylltu ag Ysgol y Tywyn ac Ysgol Gynradd Llanddona i gynnig y cyfle i ail-gyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu Addysg Grefyddol i gynnwys barn ar ansawdd y ddarpariaeth AG ac addoli ar y cyd, fel bo’n berthnasol.
• Y Swyddog Addysg mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd Systemau i drefnu i ysgolion cynradd gael copi o’r ddogfen canllawiau Pobl, Cwestiynau a Chredoau: AG a’r Cyfnod Sylfaen, i gael ei defnyddio fel cyfeiriad ar gyfer syniadau ac arfer da.
• Y Swyddog Pwyllgor i ofyn i Gadeirydd CYSAG yn 2012/13 baratoi rhagair i'r Adroddiad Blynyddol.
Dogfennau ategol: