Eitem Rhaglen

Safonau Addysg Grefyddol

·        Asesiadau Athrawon CA3 (Haf 2013) a Chanlyniadau Arholiadau Allanol (Haf 2013)

 

·        Adroddiadau arolygiadau mewn perthynas ag Ysgol Cemaes; Ysgol Corn Hir, Ysgol Moelfre ac Ysgol Llaingoch (Copi o adroddiad y Swyddog Addysg ynghlwm)

 

·        Hunan Arfarniad Ysgol Uwchradd Bodedern (Copi ynghlwm)

 

·        Trefniadau ar gyfer monitro  Safonau AG ac addoli ar y cyd i’r dyfodol (Papur ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad ar asesiadau CA3 Athrawon mewn AG, ynghyd â chanlyniadau arholiadau allanol haf 2013 i sylw'r CYSAG. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y safonau a gyrhaeddwyd, cyflawniad cymharol merched a bechgyn, a nifer yr ymgeiswyr yn yr arholiadau.

 

Hysbysodd yr Arweinydd Systemau y CYSAG nad oedd data perfformiad CA3 ar gyfer dwy ysgol uwchradd wedi dod i law. Cytunwyd y dylid gofyn i’r ddwy ysgol dan sylw - Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Bodedern - ddarparu'r data gofynnol. Amlygodd y Swyddog y ffaith bod y bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched mewn un ysgol yn llai nag mewn rhai o'r lleill - eglurodd Mrs Mefys Edwards yn fyr y drefn o addysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones. Awgrymodd yr Arweinydd Systemau fod y CYSAG yn ystyried derbyn cyflwyniad ar gynnwys gwersi AG TGAU, ac yn benodol ar y dulliau a ddefnyddir i wella cyfranogiad a pherfformiad bechgyn mewn AG fel maes pwnc - efallai cyflwyniad gan fechgyn o ran eu hagwedd tuag at Addysg Grefyddol fel pwnc. Hefyd rhoddodd esboniad i Aelodau o gwrs byr Astudiaethau Crefyddol.

 

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

Camau dilynol:

           Y Swyddog Addysg a’r Arweinydd Systemau mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd i drefnu bod y CYSAG yn cael cyflwyniad yn ei gyfarfod nesaf ynghylch safonau a pherfformiad ac i benderfynu ar gynnwys y cyflwyniad.

           Y Swyddog Addysg ar ran y CYSAG i atgoffa Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Bodedern i baratoi a chyflwyno eu data perfformiad AG CA3.

 

           Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Addysg a oedd yn darparu crynodeb o rannau perthnasol o adroddiadau Estyn ar Ysgol Cemaes, Ysgol Corn Hir, Ysgol Moelfre ac Ysgol Llaingoch i ystyriaeth y CYSAG. Nododd yr aelodau’r adroddiad.

 

           Cyflwynwyd adroddiad hunan-arfarnu Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Bodedern i ystyriaeth y CYSAG.

Dywedodd yr Arweinydd Systemau fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg defnyddiol o safonau mewn AG yn yr ysgol, yn ogystal â blas o'r math o weithgareddau, tasgau a thrafodaethau a drefnir fel rhan o'r ddarpariaeth AG ar wahanol gyfnodau ac fel rhan o drefniadau addoli ar y cyd.

 

Nododd y CYSAG yr adroddiad a mynegodd ei werthfawrogiad o'r wybodaeth a ddarparwyd.

 

Camau dilynol: Y Swyddog Addysg i ysgrifennu ar ran y CYSAG at Bennaeth AG yn Ysgol Uwchradd Bodedern i ddiolch iddi/iddo am yr adroddiad.

 

·                    Cyflwynwyd canlyniadau’r holiadur a gwblhawyd gan Aelodau'r CYSAG ar ddiwedd cyfarfod blaenorol y fforwm ym mis Mehefin. Roedd yr holiadur yn ceisio mesur gwybodaeth a dealltwriaeth aelodau o Addysg Grefyddol a gweithdy ar y cyd, yn ogystal â cheisio nodi eu barn am argymhellion i wella effeithiolrwydd y CYSAG fel corff monitro e.e. trwy drefnu i'r Aelodau fynychu sesiwn addoli ar y cyd mewn sampl o ysgolion ac/neu i ymweld ag ysgol i drafod hunan-arfarniad yr ysgol o AG gyda'r Cyd-gysylltydd AG neu Bennaeth yr Adran.

 

Er bod yr aelodau'n cytuno ei bod yn bwysig i'r CYSAG fel corff feithrin perthynas agosach gydag ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni diddymu’r gwasanaeth ymgynghorol, roeddynt yn pwysleisio y dylai unrhyw ymweliadau a gynhelir ar sail gwahoddiad gan ysgol unigol gael eu gwneud gan grŵp cynrychioliadol o CYSAG, yn hytrach na’r corff yn ei gyfanrwydd.

 

Cytunwyd i nodi'r adroddiad a chymeradwyo'r argymhellion.

 

Camau dilynol: Y Swyddog Addysg i ymgynghori gyda’r Arweinydd Systemau ynghylch trefniadau i roi’r argymhellion ar waith.

Dogfennau ategol: