Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1 10C118A/RE – Bryn yr Odyn, Soar

 

7.2 14C135A – Glasfryn, Ty’n Lon

 

7.3 19C1052C – Clwb RNA, Ffordd Dewi Sant, Caergybi

 

7.4 28C483 – Sea Forth, Ffordd Warren, Rhosneigr

 

7.5 30C713 – Bryn Mair, Llanbedrgoch

 

7.6 45C438 – Bryn Gwyn, Niwbwrch

Cofnodion:

7.1 10C118A/RE – Cais llawn i osod ffarm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2013, dewisodd yr Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad.  Ymwelwyd â’r safle ar 20 Tachwedd 2013.

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Berwyn Owen, fel gwrthwynebydd i’r bwriad, annerch y Pwyllgor.

Cyfeiriodd Mr Owen at –

·         Raddfa’r datblygiad, sef 74 erw.

·         Effaith andwyol bosib y datblygiad ar Ardal o Dirwedd Arbennig, ar y llwybr seiclo cenedlaethol ac ar dwristiaeth.

·         Effaith weledol y bwriad.

·         Effaith gronnol y bwriad hwn ynghyd â chynllun Tai Moelion.

·         Sylwadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

·         Bod polisïau ynni gwyrdd yn cyfeirio’n benodol at banelau heulol ar brosiectau preswyl/domestig yn hytrach nag at brosiectau ar y raddfa hon.

·         Gofynnir i’r Pwyllgor wrthod y cais yn bennaf oherwydd ei effaith ar y tirwedd ac ar gymeriad y rhan hon o’r cefn gwlad ond, hefyd, oherwydd nad oes cyfarwydd polisi ar gyfer ffermydd heulol ar y raddfa hon neu i’r Pwyllgor o leiaf ohirio ystyried ceisiadau o’r fath hyd oni fabwysiadir polisi penodol.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i Mr Berwyn Owen.

Yna gofynnodd y Cadeirydd i Mr George Meyrick annerch y Pwyllgor o blaid y cais.

Cyflwynodd Mr Meyrick ei hun fel Cadeirydd Stad Bodorgan sy’n fuddsoddwr tymor hir yn economi Môn ac aeth yn ei flaen i danlinellu manteision y bwriad fel a ganlyn:

·         Dylai’r Stad gadw rheolaeth sylweddol dros y ffarm heulol er y bydd gofyn cael arian allanol hefyd.

·         Roedd Stad Bodorgan yn gwario oddeutu £1,000,000 y flwyddyn ar waith trwsio a chynnal a chadw’n unig ar dai a ffermydd pobl, yn ogystal ag ar asedau diwylliannol a threftadaeth.

·         Hon fuasai un o’r ychydig bach o ffermydd heulol yn y Deyrnas Gyfunol fuasai’n gweithredu fel cwmni creu trydan y mae perchenogaeth leol arno.

·         Roedd yn brosiect da o ran budd i’r gymuned.

·         Roedd prosiect yn y lleoliad cywir lle na fuasai effaith annerbyniol ar y tirwedd nag effaith weledol yn lleol yn y cyd-destun ehangach nag yn gronnol. 

·         Roedd y bwriad yn adlewyrchu’r polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy mewn modd cyfrifol gydag ychydig iawn o effaith yn lleol.

·         Roedd y Swyddogion Cynllunio’n cefnogi’r bwriad ac nid oedd y cyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu.

 

Holodd aelodau’r Pwyllgor Mr Meyrick ar y materion a ganlyn -

 

·         Effaith y datblygiad hwn ar dreftadaeth amaethyddol Môn ac ar dwristiaeth

·         Yr effaith aflonyddol bosib ar ffyrdd cul ac ar fwynderau lleol wrth ddanfon yr offer ac yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad arfaethedig.

·         Y ffaith nad oedd Gwalchmai yn gymuned a fuasai’n cael budd o’r cynllun.

·         Oedd Stad Bodorgan yn bwriadu gwneud cais am ragor o ddatblygiadau tebyg yn yr ardal oherwydd bod pryder ynghylch effaith gronnol hwn a datblygiadau tebyg eraill ar yr ardal honno.

 

Dywedodd Mr Meyrick bod yn rhaid i’r datblygiad fod ar raddfa fawr oherwydd y cysylltiad â’r grid o ran y gwaith a’r offer yr oedd yn rhaid wrthynt i gysylltu â’r gwifrau 33,000 wat yn hytrach na chysylltu â gwifren heulol yn unig. Ni cheid effaith ar yr economi amaethyddol gan nad oedd y tir yn dir o safon uchel.  Nid oedd y cynllun yn un ddiddiwedd ac unwaith y buasai’r caniatâd cynllunio’n dod i ben ar ôl pum mlynedd ar hugain, buasai’r pyst dur oedd yn cynnal y paneli’n cael eu tynnu oddi yno a’r tir yn troi’n ôl yn dir amaethyddol.  Trwy gydol oes y cynllun buasai defnydd amaethyddol yn parhau ar y tir ar ffurf pori unwaith y buasai’r warant blwyddyn yn dod i ben.  Buasai’n cymryd oddeutu deg i ddeuddeng wythnos i adeiladu’r datblygiad.  Roedd Cynllun Trafnidiaeth wedi ei gynllunio a buasai’r holl gerbydau trwm yn dadlwytho yn Nhrac Môn a deunyddiau ac offer yn cael eu cludo ar y safle gan dractor a threlar. At hyn, buasai sustem unffordd ar gyfer cerbydau oedd yn gysylltiedig â’r datblygiad.  Dywedodd Mr Meyrick y buasai’n fodlon achub ar y cyfle i ymgysylltu â Threwalchmai ac mai amryfusedd oedd methu â gwneud hynny, er ei fod yn ddealladwy, o gofio nad oedd gan Drewalchmai hawl dros y safle. Cadarnhaodd Mr Meyrick nad oedd gan Stad Bodorgan ragor o gynlluniau tebyg ar hyn o bryd ac mai dim ond hyn a hyn y gallai’r gwifrau eu cymryd unwaith y byddai’r bwriad wedi ei godi.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthwynebu’r bwriad.  Roedd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cadarnhau bod polisïau’r Cynllun Datblygu’n gosod fframwaith cadarn y buasai modd asesu’r cais yn ei erbyn.  Buasai’r tir yn parhau i gael ei ddefnyddio i bori arno.  Roedd Cynllun Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno’n rhan o’r cais ac nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn gwrthwynebu’r hyn a fwriedid.  Nid oedd yr adroddiad yn cyfeirio at fudd i’r gymuned, oedd yn fater y tu draw i’r penderfyniad cynllunio oedd i’w wneud.  Mater i’w ystyried os a phan fuasai’n codi oedd y cwestiwn ynghylch rhagor o ddatblygu.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers, fel Aelod Lleol, i’r perwyl bod y bwriad wedi ennyn barn gymysg gan y gymuned.  O safbwynt y Cyngor Cymuned, roedd yn ymddangos bod y budd i’r gymuned yn gweithio gyda Stad Bodorgan.  Roedd y budd economaidd yr oedd yr ardal yn ei gael gan stad a reolir yn dda yn sylweddol.  Roedd yn ymddangos y bodlonwyd y pwynt a godwyd yng nghyswllt colli tir amaethyddol.  Roedd yr Awdurdod Cynllunio’n argymell caniatáu a rhoddwyd eglurhad am y rhesymeg y tu ôl i raddfa’r datblygiad a nifer y paneli heulol o ran y posibilrwydd am ragor o ddatblygu o gofio y diwellid capasiti’r offer.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol hefyd, tynnodd y Cynghorydd Victor Hughes sylw at bwyntiau ychwanegol a wnaed mewn llythyrau yr oedd wedi eu derbyn yng nghyswllt effaith bosib y bwriad ar awyrennau a materion yn gysylltiedig ag awyrennau’n glanio, o gofio pa mor agos ydyw i faes awyr Mona. Fodd bynnag, Roedd y Llu Awyr yn y Fali wedi cadarnhau nad oedd yn gwrthwynebu.  Dymunodd i’r trac hynafol gael ei warchod rhag ymyrraeth a niwed. Ei brif bryderon oedd ynghylch effeithiau cronnol y bwriad hwn a’r ffaith y buasai datblygiad ar y raddfa hon yn rhwystro tirfeddianwyr eraill rhag gwneud ceisiadau tebyg oherwydd cyfyngiadau'r Grid Cenedlaethol.  Cadarnhaodd bod Cyngor Cymuned Llangristiolus yn gwrthwynebu’r bwriad oherwydd ei effaith weledol a dywedodd bod deiseb wedi ei derbyn hefyd.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd Ann Griffith bod nifer o bryderon yn lleol yn ardal Aberffraw er bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi’r bwriad. Roedd y bwriad yn ddatblygiad anferthol ar dir amaethyddol naturiol a gâi ei orchuddio gan 45,000 o baneli heulol. Ceid ffens ddiogelwch 2m o uchder o amgylch y safle. Ynghyd â chynllun Tai Moelion 1.6 km i ffwrdd, roedd y datblygiad hwn yn debygol o greu effaith gronnol.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at nifer o geisiadau sgrinio am ffermydd heulol yn ardal Aberffraw yn yr ychydig fisoedd diwethaf, yn ymestyn o Soar i lawr yr arfordir i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ger y Fenai. Roedd un ar ddeg o’r ceisiadau sgrinio ar yr Ynys yn ardal Aberffraw er na fuasai pob un ohonynt yn dod o flaen y Pwyllgor Cynllunio.  Dywedodd ei bod yn bryderus iawn ynghylch effaith gronnol bwriadau o’r fath pe caent eu cyflwyno fel ceisiadau llawn. Roedd safle’r cais cyfredol wedi ei ddynodi’n Ardal o Dirwedd Arbennig ac a ddiffinnir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ardaloedd o ddiddordeb tirwedd uchel o ran eu gwerth ffisegol, amgylcheddol, gweledol, diwylliannol a hanesyddol cynhenid.   Yn ôl Strategaeth Tirwedd Ynys Môn 2011, roedd Aberffraw a’r cyffiniau yn uned o dirwedd hanesyddol a diwylliannol yn adlewyrchu patrwm o dirwedd canoloesol wedi ei sefydlu ar rwydwaith o saith anheddle a threflan Aberffraw. Dyma oedd safle prif lys Llewelyn ein Llyw Olaf. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at ffurf y tir a nodweddion daearyddol yr ardal ac aeth yn ei blaen i ddweud bod Polisi Cynllunio Cymru 12.10.1 yn nodi y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried yr effeithiau ar y dreftadaeth naturiol, yr arfordir a’r amgylchedd hanesyddol.  Tynnodd y Cynghorydd Griffith sylw at y ffaith nad oedd polisi lleol perthnasol a phwrpasol yn ymwneud â ffermydd heulol ar raddfa fawr ac, felly, roedd yn ei gwneud yn anodd  gwrthsefyll ceisiadau amhriodol fel hyn. O’r herwydd, roedd gofyn cael Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar fyrder i roi sylw i’r ceisiadau hyn. Roedd o’r farn bod y bwriad yn groes i’r polisïau ar warchod y tirwedd ac ynni adnewyddadwy; i Gynllun Fframwaith Gwynedd, Cynllun Lleol Ynys Môn  ac i’r Cynllun Datblygu Unedol oedd wedi ei Stopio. At hyn, nid yw wedi dod o’r gymuned leol ond i’r gwrthwyneb ac roedd yn enghraifft o sut roedd cwmnïau o’r tu allan i Gymru yn cymryd mantais o adnoddau lleol ac yn prynu cymunedau trwy eu denu gyda buddion oedd yn fach iawn o gofio’r elw mawr y buasai’r cwmnïau’n debygol o’i wneud dros y pum mlynedd ar hugain nesaf. Dywedodd y Cynghorydd Griffith ei bod, hefyd, eisiau gwybod ar ba sail oedd y swyddogion wedi penderfynu nad oedd angen Asesiad ar yr Effaith ar yr Amgylchedd yn yr achos hwn. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais.

 

Cododd y Cynghorydd Lewis Davies fater arall ynghylch anallu’r seilwaith lleol i gynnal rhagor o ddatblygiadau a dywedodd y buasai’n well ganddo weld nifer fwy o ffermydd heulol llai y buasai eu heffaith yn llai nag effaith y datblygiad arfaethedig, oedd yn fawr.  Fel hyn, hefyd, buasai cyfle i eraill gymryd mantais o gamau i gael ynni o drydan adnewyddadwy.

 

Cyfeiriwyd Aelodau gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio at yr adroddiad ysgrifenedig oedd yn dweud bod y cais a gâi ei gyflwyno’n cael ei gefnogi gan Asesiad Tirwedd a Gweledol; Asesiad Ecolegol ac Asesiad Treftadaeth Ddiwylliannol.  At hyn, roedd Ymgynghorydd Ecolegol y Cyngor hefyd yn fodlon y buasai modd lliniaru unrhyw effaith ecolegol trwy reolaeth ac y dylai hyn fod yn amod o ganiatáu. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i’r effaith gronnol gyda chynllun Tai Moelion oedd wedi cael ei asesu.  Nid oedd modd ystyried effaith gronnol bwriadau o’r fath oni roddwyd caniatâd ac nid ar sail nifer y ceisiadau sgrinio, oedd yn adlewyrchu’r diddordeb ar yr adeg hon yn unig. Ymgynghorwyd â Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd a gwnaed asesiad o’r cais o’r safbwynt hwn - nid oedd y gwasanaeth yn gwrthwynebu.  Y gred oedd bod y polisi’n cydymffurfio â pholisïau a bod sail polisi iddo.  Nododd y Swyddog  bod gofyn ystyried y cais ar sail y defnydd tir.

 

Tynnodd y Cynghorydd Jeff Evans sylw at y ddelwedd yr oedd Môn yn ei chreu iddi hi ei hun fel Ynys Ynni.  Dywedodd bod y ddau bolisi cynllunio lleol ar hyn o bryd yn rhagdybio o blaid prosiectau ynni adnewyddadwy fel modd o gyfrannu’n gadarnhaol at ar agenda adnewyddadwy ehangach.  Dywedodd nad oedd dim yn yr adroddiad oedd yn negyddol o ran y datganiad hwnnw a’i fod yn hyderus, pe bai’r bwriad yn cael ei ganiatáu, y buasai Stad Bodorgan yn gwneud y gwaith yn onest a chydag egwyddor i sicrhau y rheolid y prosiect yn effeithiol gyda chyn lleied o niwed i’r amgylchedd.  O’r herwydd, cynigiodd ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cynnig i ganiatáu.

 

Ategodd y Cynghorydd Nicola Roberts bryderon ynghylch effeithiau ar dirwedd, y llwybr seiclo cenedlaethol ac ar dwristiaeth a dywedodd ei bod o’r farn y buasai effaith dau ddatblygiad o’r fath ar ardal fechan yn anferthol.  At hyn, roedd yn anghytuno gyda’r adroddiad gan ei bod o’r farn y buasai’r bwriad yn cael effaith weledol.  Cynigiodd wrthod y cais ac fe’i cefnogwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Nicola Roberts a John Griffith i wrthod y cais.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Kenneth Hughes, Vaughan Hughes ac R.O. Jones o blaid ei ganiatáu.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo.. (Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Ann Griffith a Victor Hughes ar y mater gan eu bod yn Aelodau Lleol.  Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Raymond Jones gan nad oedd ar yr ymweliad safle).

7.2  14C135A - Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod pecyn gwaith trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn

Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2013, penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi PT2 yng nghyswllt tai mewn clystyrau gwledig ac yn cydymffurfio gyda pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.   

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i Aelodau nad oedd modd i’r cais gydymffurfio â’r ddau gan fod un – Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn - yn ymdrin â phentrefi a’r llall - Polisi PT2 - yn ymdrin â chlystyrau gwledig. Roedd safle’r cais y tu mewn i Orllewin Llynfaes oedd wedi ei gynnwys mewn rhestr o glystyrau gwledig a nodir yn y Polisi Cynllunio Dros Dro (Tai mewn Clystyrau Gwledig). Trwy ddiffiniad, roedd cynnwys yr anheddiad yn y Polisi Tai mewn Clystyrau Gwledig yn cydnabod ac yn derbyn nad oedd yr ardal yn syrthio y tu mewn i ddiffiniad Polisi 50.  Roedd Polisi PT2 yn rhestru’r meini prawf yr oedd yn rhaid eu bodloni wrth ystyried ceisiadau cynllunio fel a adlewyrchid yn yr adroddiad, gan gynnwys yr angen i brofi bod angen annedd fforddiadwy ar gymuned leol a bod maint yr eiddo’n briodol i angen yr ymgeisydd am dŷ fforddiadwy. Fel annedd pedair llofft ar y farchnad agored, roedd y cais, fel y’i cyflwynwyd, yn tynnu’n groes i’r meini prawf hyn.  At hyn, roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynegi pryderon ynghylch y gallu i weld i’r briffordd gyhoeddus o’r fynedfa oedd yn gwasanaethu safle’r cais ac roedd o’r farn ei fod yn is-safonol. O’r herwydd, roedd yn argymell gwrthod.  Pwysleisiodd y Swyddog ei fod yn gamgymeriad nodi Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn i gyfiawnhau caniatáu’r cais gan fod y cais yn tynnu’n groes i Bolisi 50 ac er bod Polisi PT2 yn berthnasol, yn yr achos hwn nid oedd y cais yn bodloni’r meini prawf a nodir dan Bolisi PT2. Buasai’n rhaid i’r Pwyllgor nodi rheswm cadarn dros gyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi er mwyn caniatáu’r cais.

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod hwn yn gais gan deulu Cymraeg lleol a phe bai’n syrthio y tu mewn i Bolisi PT2 fel tŷ fforddiadwy, yna gellid ei ganiatáu.Cyflwynwyd tystiolaeth nad oedd morgais fforddiadwy ar gael i’r ymgeisydd  er gwaethaf ymdrechion i sicrhau.  O’r herwydd, gofynnodd i’r Pwyllgor lynu wrth ei benderfyniad blaenorol, sef caniatáu.

Roedd yr Aelodau o’r Pwyllgor oedd wedi cefnogi’r cais yn y cyfarfod blaenorol yn parhau â’r un farn gan nodi bod angen cefnogi ac annog unigolion oedd yn dymuno aros yn eu cymunedau fel modd o sicrhau hyfywdra’r cymunedau gwledig a’r Gymraeg.

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y buasai’n rhaid i’r bwriad fod am fforddiadwy i fedru cyfiawnhau’r cais dan Bolisi PT2, ond ni chyflwynwyd tystiolaeth o hynny ac ni chafwyd asesiad o’r angen am dŷ fforddiadwy.  Pe bai’r pwyllgor yn parhau i ddymuno cyfiawnhau’r cais ar sail Polisi PT2, yna roedd yn agored iddo ofyn am dystiolaeth o angen am dŷ fforddiadwy y gallai’r Swyddog Cynllunio ei ystyried ac yna ailgyflwyno’r cais gydag argymhelliad ar y sail honno.

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes ohirio ystyried y cais fel bod modd cynnal y broses.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu i’r Swyddog Cynllunio ymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch cyflwyno tystiolaeth o’r angen am fforddiadwy (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ar y mater).

7.3  19C1052C –Cais llawn i godi deuddeg fflat dwy loft a thri fflat un llofft ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd  ar safle hen glwb y Gymdeithas Forwrol Frenhinol, St David’s Road, Caergybi.

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor ar gais y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, fel Aelod Lleol. Oherwydd amryfusedd gweinyddol a ganfuwyd cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio, ni roddwyd gwybod i’r Cynghorydd Jones am y cyfarfod perthnasol o’r pwyllgor ac nid oedd yn y cyfarfod ar 6 Tachwedd pryd ystyriwyd y cais.

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio o’r rhesymau cynllunio dros argymhelliad y Swyddog, sef caniatáu, a hynny yng nghyswllt yr egwyddor o ailddatblygu at ddibenion preswyl ac a gefnogir gan bolisi cynllunio; pa mor dderbyniol oedd y cynllun, fel y’i cyflwynwyd, o ran rhoi sylw i’r dyluniad, pryderon a godwyd ynghynt ynghylch effaith ar yr ardal gadwraeth a’r adeilad rhestredig a’r ffaith nad oedd gwrthwynebiadau technegol i’r datblygiad. 

Fel Aelod Lleol, darllenodd y Cynghorydd R.Llewelyn Jones lythyr oddi wrth Gynghorydd Tref Caergybi i’r prif berwyl nad gwrthwynebu datblygu’r safle oedd yr achos ond yr hyn a ystyriwyd yn orddatblygu safle bychan a’r effaith a geid, o’r herwydd, ar fusnesau a thrigolion gerllaw. Tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at bryderon a fynegwyd yn y llythyr yng nghyswllt materion parcio, mynediad a thraffig yn Walthew Avenue, St David’s Road a Bryn Golau Avenue a’r cyffiniau pe câi’r datblygiad ei ganiatáu. Dywedodd, ar y sail hon, nad oedd o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn parchu’r cyd-destun lleol - nid oedd yn arwydd o fod yn gymydog da, a buasai’n niweidio mwynderau trigolion a busnesau lleol, yn enwedig felly, yng nghyswllt parcio a mynediad diogel. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at farn Swyddog Cadwraeth y Cyngor ei hun nad oedd dyluniad y bwriad y gorau y gellid fod wedi gobeithio amdano.  Tynnodd sylw penodol at farn yr Arolygwr Cynllunio ar ddyluniad y cynllun blaenorol a’i effaith ar yr ardal gadwraeth a dywedodd o ran steil ac effaith, nad oedd y sefyllfa wedi newid. Yr hyn oedd yn cael ei gynnig oedd fflatiau uchel.  Cyfeiriodd at y doreth o geisiadau am dai yn ardal Caergybi y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddynt.  Dywedodd y Cynghorydd ei fod o’r farn bod y cais yn tynnu’n groes i ddyfarniad yr Arolygwr Cynllunio ar gais blaenorol ar nifer o bwyntiau; ei fod yn ymddangos yn tynnu’n groes i Gynllun Fframwaith Gwynedd ac i nifer o bolisïau e.e. Polisi A2; A3; D4 ac FF12. Roedd hefyd yn tynnu’n groes i’r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol - Arfarniadau o Gymeriad Ardal Gadwraeth Traeth Caergybi. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod yr angen i warchod ardaloedd a ddynodwyd yn rhai cadwraeth rhag datblygiadau di-chwaeth yn parhau a rhybuddiodd y Pwyllgor o’r perygl o golli treftadaeth naturiol yn y brys i godi rhagor o dai.

Dywedodd y Cynghorydd J.A.Roberts, oedd hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, gan fod eglurhad bellach wedi ei roi, dymunai ymddiheuro i’r Cynghorydd Jones am sylwadau a wnaed am nad oedd yng nghyfarfod mis Tachwedd, ac yntau wedi galw’r cais i mewn. Tynnodd sylw at y ffaith y caniatawyd y cais yn unfrydol yn y cyfarfod. Nid oedd safle’r cais yn yr ardal gadwraeth ddynodedig ond, yn hytrach, mewn safle tir llwyd gwag y tu mewn i ffin ddatblygu Caergybi a’i fod yn addas i’w ailddatblygu. Roedd y bwriad wedi ei ailddylunio i roi sylw i bryderon yr Arolygwr Cynllunio ac i’w hateb. Nid oedd colli golygfa o’r Ardal Gadwraeth, oedd wedi ei nodi’n sail dros wrthwynebu, yn ystyriaeth gynllunio o bwys.  Dywedodd y Cynghorydd  Roberts bod modd parcio ar y safle a buasai newid lleoliad y fynedfa ar Walthew Avenue yn lleddfu’r sefyllfa barcio.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Raymond Jones ar y mater).

7.4  28C483 – Cais llawn i osod caban pren yn Sea Forth, Warren Road, Rhosneigr

Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2013, penderfynodd yr aelodau ymweld â’r safle cyn penderfynu ar y cais.  Ymwelwyd â’r safle ar 20 Tachwedd 2013.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y prif ystyriaethau cynllunio’n ymwneud ag effaith y bwriad ar y tirwedd cyfagos ac ar fwynderau’r tai o’i amgylch. Dywedodd y Swyddog na chredid y buasai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar y tirwedd cyfagos i’r graddau bod gorfod gwrthod y cais.  Ni chredid, ychwaith, y buasai’r bwriad yn cael effaith andwyol ychwanegol ar fwynderau’r tai o’i amgylch.  Y gred oedd bod y bwriad yn dderbyniol a’r argymhelliad oedd caniatáu.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Dew, wrth annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol, bod y prif bryderon ynghylch y bwriad yn ymwneud â’i effaith ar fwynderau tai cyfagos.  Gan na fuasai gan y caban pren unrhyw gyfleusterau, buasai’r rhai fyddai’n defnyddio’r caban yn mynd a dod yn amlach.  Buasai hyn yn golygu defnyddio golau gyda’r nos ac yn arwain at darfu posib ar y cymdogion. At hyn, roedd materion parcio a thraffig yn codi gan fod Warren Road yn stryd gul ac arni dai teras, gyda’r trigolion yn parcio ar y stryd. O gofio bod Seaforth yn sylweddol gyda mynedfa gul, wrth ychwanegu caban pren, roedd mwy o ddefnydd am gael ei wneud o Warren Road a mwy o barcio arni. Gofynnodd y Cynghorydd Dew i’r Pwyllgor wrthod y cais.

Cododd rhai Aelodau o’r Pwyllgor y posibilrwydd o roi sylw i’r parcio trwy osod amod i’r perwyl y câi'r ddau bwynt mynediad yn Seaforth eu cyfuno a rhan o’r tir ei lefelu i greu llefydd parcio newydd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd modd gosod amod oni bod angen wedi ei brofi ac nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwneud argymhelliad o’r fath, ac nid oedd yn glir  bod tystiolaeth i gyfiawnhau rhagor o lefydd parcio.  At hyn, pe bai’r Pwyllgor yn dymuno i’r Swyddogion Cynllunio ail-ymgynghori gyda’r cais ar y mater ynghylch parcio, rhaid oedd i Aelodau fod yn benodol wrth nodi'r hyn yr oedd yn ofynnol.

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod Swyddogion Priffyrdd wedi asesu’r cais o ran defnydd achlysurol ac, fel y cyfryw, nid oeddynt yn medru mynnu ar lefydd parcio gan nad oedd modd trin y caban pren fel annedd. Cadarnhaodd y Swyddog bod yn rhaid cael tystiolaeth bod angen lle parcio.

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith wrthod y cais ar sail effaith y bwriad ar dai cyfagos gan y buasai’r caban pren mewn pant gyda grisiau i lawr iddo ac y buasai’n rhaid cael goleuadau gyda’r nos.  O’r herwydd, buasai’n cael effaith ar drigolion tai cyfagos. Ni chafodd y bwriad i wrthod ei eilio. 

Roedd y Cynghorydd Richard Owain Jones o’r farn bod y sefyllfa barcio’n briodol a chynigiodd ganiatáu’r cais fel y’i cyflwynwyd.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo. 

7.5  30C713 – Codi tyrbin gwynt 10kw gydag uchder hwb o ddim mwy na 15.5m, diameter llafn o hyd at 7.5m a blaen fertigol o uchder o ddim mwy na 19.25m

Cafodd y cais ei alw i mewn yn flaenorol gan yr Aelod Lleol ar y pryd. Fodd bynnag, penderfynwyd cyfeirio’r holl geisiadau am dyrbinau gwynt i’r pwyllgor.  Ymwelodd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio â’r safle ar 16 Hydref 2013.

Gadawodd y Cynghorydd Victor Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais gan ei fod wedi datgan diddordeb ynddo.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod llythyr ychwanegol wedi ei dderbyn ond nad oedd yn codi unrhyw faterion newydd nad oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad i’r pwyllgor.  Dywedodd y Swyddog bod cyfiawnhad polisi dros yr argymhelliad o ganiatáu a bod y polisïau a amlinellwyd yn yr adroddiad yn rhagdybio o blaid datblygiadau ynni adnewyddadwy yn amodol ar y meini prawf a restrwyd. Yn yr un modd, nid oedd yr effaith ar y tirwedd a’r effaith weledol yn sylweddol ac roedd modd eu goresgyn trwy liniaru. Nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru’n Gwrthwynebu’r bwriad. 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am eglurhad ar rai materion penodol yng nghyswllt pa mor agos oedd yr anheddau agosaf at y datblygiad arfaethedig a graddfa datblygiad tebyg yn y pellter gyferbyn.

Roedd y Cynghorydd R.O. Jones o’r farn bod y bwriad yn ddigon bychan i beidio bod yn ymwthiol a chynigiodd dderbyn y cais. Eiliwyd y bwriad gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith wrthod y cais oherwydd yr effaith ar y tirwedd, yr effaith weledol a’r effaith ar y mwynderau. Eiliwyd y bwriad i wrthod gan y Cynghorydd John Griffith.

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith a John Griffith i wrthod y cais. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Kenneth Hughes, Richard Owain Jones a W.T.Hughes i gymeradwyo’r cais.

Penderfynwyd, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd, ganiatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ar y mater. Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Raymond Jones a Nicola Roberts gan nad oeddynt wedi ymweld â’r safle).

Gan fod y cyfarfod bellach wedi eistedd ers tair awr, yn unol â gofynion paragraff 4.1.10 y Cyfansoddiad, gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau a oeddynt  yn dymuno parhau gyda’r cyfarfod. Pleidleisiodd yr Aelodau i barhau gyda’r cyfarfod.

7.6  45C438 – Cais amlinellol gyda rhai materion a gadwyd yn ôl i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir  ger Bryn Gwyn, Niwbwrch

Roedd yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Roedd y Swyddog Monitro wedi cael golwg ar y cais yn ôl y gofyn dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y cais ar gais yr Aelod Lleol fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i annerch y Pwyllgor.  Nid oedd yr ymgeisydd yn gwybod bod y bwriad yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 6 Tachwedd ac roedd yn methu bod yno.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y Pwyllgor o blaid y cais.

Gwnaeth Mr Rhys Davies y sylwadau a ganlyn:

·         Polisi cenedlaethol - Polisi Cenedlaethol Cymru (PCC), Tachwedd 2012 oedd y polisi perthnasol mwyaf diweddaraf ac roedd yn nodi ym Mharagraff 9.3. 2 y caniateir mewnlenwi’n sensitif fylchau bychain rhwng anheddau neu godi estyniadau bychain a bod hynny’n dderbyniol, yn enwedig felly, yng nghyswllt tai fforddiadwy er mwyn cwrdd ag anghenion lleol, gan ddibynnu ar gymeriad yr ardal o amgylch y tai a nifer y tai mewn grwpiau yn yr ardal. Nid yng nghyswllt tai fforddiadwy’n unig yr oedd hyn y berthnasol.

·         Rhaid oedd osgoi ymestyn gwaith codi tai i’r cefn gwlad a threfi bychain pe bai’n golygu gorfod teithio mwy i ganolfannau rhanbarthol.

·         Rhan o glwstwr gwledig oedd y llain dan sylw ac yn ôl Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol diweddar y Cyngor – Tai mewn Clystyrau Gwledig, caniateid tai fforddiadwy mewn clwstwr gwledig. 

·         Mabwysiadwyd y polisi hwn gan y Cyngor i gynorthwyo cymunedau gwledig gyda pholisi hyblyg fel bod modd i deuluoedd a phobl ifanc aros yn eu cymunedau.  Un o’r meini prawf oedd y dylai clwstwr fod yn o leiaf bum annedd a bod o fewn pellter cerdded neu seiclo i gyfleusterau cymunedol.  Y targed a osodwyd oedd 800m o orsaf bysiau neu drenau.  Yn yr achos hwn, roedd y safle o fewn 300m i arhosfan bws ac roedd modd cyrraedd holl gyfleusterau Niwbwrch yn hawdd ar feic neu ar droed.

·         Roedd cais Land and Lakes yn ymwneud â chaniatáu nifer o dai ar safleoedd nad oeddynt wedi eu dynodi ar gyfer datblygiad o’r fath, yn seiliedig ar hyblygrwydd polisïau cynllunio cenedlaethol oedd yn caniatáu codi tai ar safleoedd nad oedd wedi eu dynodi i’r fath bwrpas yn y Cynllun Lleol.

·         Roedd paragraff 9.3.2 y polisi cenedlaethol yn ddigon hyblyg i ganiatáu estyniadau bychain i grwpiau o dai gwledig er mwyn cynorthwyo cymunedau gwledig i fod yn hyfyw yn y dyfodol. Roedd yr Awdurdod wedi caniatáu bwriadau tebyg yn ddiweddar er mwyn caniatáu i bobl leol aros yn eu cymunedau.

Ceisiodd Aelodau’r Pwyllgor eglurhad ar bwyntiau penodol yn anerchiad Mr Davies. Cyfeiriodd y Cynghorydd Ann Griffith yn benodol at y ffaith y dylai maen prawf sy’n berthnasol i glystyrau olygu y dylai’r annedd fod yn fforddiadwy a gofynnodd i Mr Davies a allai roi tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn dymuno codi tŷ fforddiadwy.  Yn yr un modd, gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies a fyddai’r ymgeisydd yn fodlon llofnodi amod tŷ fforddiadwy. Mewn ymateb, cadarnhaodd Mr Rhys Davies nad oedd y cais wedi cael ei gyflwyno fel cais am dŷ fforddiadwy er bod y cais yn cael ei wneud oherwydd nad oedd yr ymgeisydd mewn sefyllfa i brynu tŷ ar y farchnad agored. Aeth Mr Davies yn ei flaen i ddweud ei fod yn deall ei fod yn anodd cael arian am dai fforddiadwy, er bod modd trafod hyn gyda’r ymgeisydd, ac y byddai’n rhaid i’r ymgeisydd ystyried pethau ymhellach, yn enwedig felly o ran unrhyw oblygiadau i sicrhau morgais.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyflwynwyd llythyr arall gan asiant yr ymgeisydd ac adlewyrchwyd ei gynnwys yn yr anerchiad uchod. Roedd y Cyngor Cymuned wedi cadarnhau nad oedd yn gwrthwynebu’r cais.  Roedd y bwriad yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu a’r unig reswm y tynnwyd sylw’r Pwyllgor ato oedd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Y prif fater i’w ystyried oedd a oedd yn cydymffurfio gyda’r polisi. Roedd y safle oddeutu 370m i ffwrdd o ffin ddatblygu Niwbwrch ac, o’r herwydd, y gred oedd ei fod yn y cefn gwlad agored.   Roedd gan y Cyngor Bolisi Dros Dro yng nghyswllt tai mewn clystyrau gwledig ac roedd y polisi hwnnw’n cynnwys rhestr o glystyrau a adnabuwyd nad oedd yn cynnwys safle’r cais uchod. O’r herwydd, nid oedd y Polisi Dros Dro ar dai mewn clystyrau gwledig yn berthnasol i’r achos hwn gan olygu bod y bwriad yn tynnu’n sylweddol groes i bolisïau a chynlluniau tai’r Awdurdod a’i fod yn enghraifft glir o annedd yn y cefn gwlad. Dywedodd y swyddog nad oedd ystyriaethau o ran pwy oedd yr ymgeisydd na beth oedd ei amgylchiadau’n drech na’r gwrthwynebiad polisi sylfaenol yn yr achos hwn.  At hyn, nid oedd modd dweud bod y cais yn debyg i fwriad Land and Lakes oedd ag ystyriaethau cynllunio llawer mwy cymhleth.

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers â’r Pwyllgor fel Aelod Lleol gan ddweud bod y mater ynghylch tai fforddiadwy yn fater sylweddol ac mai’r broblem fwyaf oedd y gallu i gael morgais.  Er na dderbyniwyd safle’r cais fel clwstwr pan fabwysiadwyd y polisi cynllunio dros dro ar dai mewn clystyrau gwledig, roedd iddo nodweddion oedd yn unol â chlystyru, megis bod yn rhan o grŵp o bump neu fwy o anheddau a bod o fewn pellter cerdded neu feicio i gyfleusterau’r pentref, oedd yn ystyriaethau pwysig. Yr hyn oedd y bwriad oedd teulu’n bwriadu cael cefnogaeth y teulu estynedig ac ychwanegodd os oedd cyfleu i annog a meithrin perthynas o’r fath yna buasai’n annog y Pwyllgor i roi pwyslais ar y ffactor hwnnw.  Er nad oedd yn ystyriaeth cynllunio, roedd cadw teuluoedd mewn cymunedau’n rhan hanfodol o fywyd gwledig y dyddiau hyn.

Hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn cefnogi’r cais oherwydd, yn ei barn hi, roedd yn cydymffurfio â’r rheolau cynllunio.  Roedd safle’r cais ar ymyl clwstwr y tu ôl i’r eiddo a adwaenir fel Bryn Gwyn - casgliad o anheddau yn y cefn gwlad y buasai’r rhan fwyaf yn cyfeirio atynt fel clwstwr gwledig. Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru, roedd, paragraff 9.3.2 yn cyfeirio at lenwi i mewn yn sensitif fylchau bychain mewn grwpiau bychain o dai neu estyniadau bychain i grwpiau. Polisi Cynllunio PT2 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2011. O ran y meini prawf oedd yn berthnasol i anheddau newydd ar gyfer anghenion cymunedol mewn clystyrau gwledig, roedd y Cynghorydd Griffith o’r farn bod y bwriad yn bendant yn dangos bod yno angen lleol am anheddau hunanadeiledig ar gyfer mab yr ymgeisydd a’i deulu. Roedd y map yn dangos bod wyth annedd yn agos at ei gilydd oedd yn ffurfio’r grŵp cydlynol - roedd y polisi dros dro’n cyfeirio at bum annedd.  Roedd safle’r cais hwn 300m oddi wrth arhosfan bws a fuasai’n ei gwneud yn bosib i weithiwr fynd i’w waith yn Llangefni erbyn 9:00 a.m. Roedd y polisi dros dro’n nodi’n benodol pellter o 800m i arhosfan bws.  At hyn, roedd y polisi dros dro’n nodi y dylai maint yr eiddo fod yn briodol i anghenion tai fforddiadwy’r ymgeisydd.  Dyma fyddai’r achos yma. Dywedodd y Cynghorydd Griffith mai ei gobaith oedd y buasai’r Pwyllgor yn caniatáu’r cais gan ei fod, yn ei barn hi, y tu mewn i’r canllawiau lleol a chenedlaethol.

Cafodd y Pwyllgor eu rhybuddio gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio rhag creu polisi ac ategodd bod y polisi cynllunio dros dro ar dai mewn clystyrau gwledig yn nodi ac yn rhestru’r clystyrau trwy gynllun map.  Fel mater o ffaith, nid oedd safle’r cais o fewn clwstwr o’r fath ac, felly, roedd dweud ei fod yn cydymffurfio â’r polisi cynllunio dros dro yn ffeithiol anghywir. Dywedodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol o amgylchiadau personol yr ymgeisydd na p’un a oedd angen am dŷ’n lleol gan nad oedd tystiolaeth i’r perwyl hwnnw wedi ei gyflwyno. Er gwaethaf y ffactorau hynny, nid oeddynt yn drech na’r gwrthwynebiadau polisi oedd yn yr achos hwn. 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn cefnogi’r cais gan ei fod yn unol â Pholisi 50 y Cynllun Lleol, sef estyniad rhesymol i ffin ddatblygu Niwbwrch. 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth yr Aelodau bod Polisi PT2 yn gwireddu  paragraff 9.3.2 Polisi Cynllunio Cymru yn lleol.  Nid oedd Polisi 50 yn berthnasol yn yr achos hwn.  Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Ken Hughes, rhoes Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol eglurhad pellach bod Polisi Cynllunio PT2 yn ymgorffori egwyddorion paragraff 9.3.2. yng nghyswllt y sefyllfa ym Môn yn yr ystyr ei fod yn nodi’r clystyrau hynny oedd yn addas o ran yr egwyddor o fewnlenwi yr oedd paragraff 9.3.2 yn cyfeirio ato. Os nad oedd safle wedi ei restru y tu mewn i Bolisi Cynllunio PT2 yna dylid troi at baragraff 9.3.2. Nid oedd Polisi Cynllunio’n bosib gan fod PT2 yn ymwneud yn benodol â daearyddiaeth a thopograffi Môn ac yn defnyddio egwyddorion paragraff 9.3.2 i’r cyd-destun lleol.

Er bod y Cynghorydd Vaughan Hughes yn cydnabod arweiniad y Swyddog, cyfeiriodd at sylwedd y polisi a dweud ei fod o’r farn ei fod yn milwrio yn erbyn teuluoedd ifanc oedd yn dymuno symud i mewn i gymunedau neu aros ynddynt ac, yn enwedig felly, y goblygiadau o ran cael morgais ar fforddiadwy.  Dywedodd bod gofyn edrych ar y polisi.

Awgrymodd y Cynghorydd Jeff Evans wrthod y cais gan nad oedd yn gweld tystiolaeth yng nghyswllt y cais oedd yn dangos amgylchiadau eithriadol o ran angen am waith amaethyddol neu goedwigaeth neu waith o’r fath a fuasai’n cyfiawnhau caniatáu. Eiliwyd y cynnig i wrthod gan y Cynghorydd Councillor Victor Hughes.

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad adroddiad y Swyddog. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Ann Griffith ar y mater).

 

Dogfennau ategol: