Eitem Rhaglen

Ceisiadau Economaidd

8.1 46V149N/ECON/FR –  Gwesty’r Trearddur, Lôn Isallt, Trearddur

Cofnodion:

8.1  46149N/ECON/FR – Cais llawn i godi 27 o fythynnod gwyliau, naw o ystafelloedd gardd fel estyniad i’r llety, adeilad i’r dderbynfa, creu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ynghyd â thirlunio Gwesty Bae Trearddur, Lôn Isallt, Trearddur

Cafodd y cais ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr David Middleton annerch y Pwyllgor o blaid y cais.

CyflwynoddMr David Middleton ei hun fel yr asiant a benodwyd ar ran yr ymgeisydd ac anerchodd y Pwyllgor fel a ganlyn:

·         Roedd y bwriad yn golygu darparu 27 o fythynnod gwyliau a naw ystafell gardd yn y gwesty ac a fydd yn cael eu datblygu mewn lleoliad cynaliadwy o fewn pellter cerdded hawdd i ganol Trearddur ac i’r holl siopau, gwasanaethau a’r cyfleusterau oedd ar gael.

·         Roedd Asesiad o’r Effaith ar y Tirwedd a’r Effaith Weledol yn dod i’r casgliad na fuasai’r datblygiad yn tarfu ar y tirwedd ehangach ac, wedi trafodaeth gyda Chyngor Môn cyn cyflwyno’r cais, buasai dyluniad a gosodiad y bythynnod gwyliau a’r ystafelloedd gardd yn cael eu tirlunio.

·         Roedd Swyddogion Tirlunio a Chynllunio yng Nghyngor Môn wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddylanwadu gosodiad y datblygiad ac roeddynt wedi cael mewnbwn uniongyrchol i fás a dyluniad cyffredinol y llety.

·         Nid oedd yr un o’r cyrff yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu’r cais

·         Buasai’r budd economaidd a ddeuai o’r datblygiad yn sylweddol ac yn ystyriaeth o bwys o blaid y cais. Amcangyfrifwyd y buasai’r datblygiad yn cyfrannu 700k y flwyddyn i economi lleol Trearddur.

·         Buasai’r sgil-effaith ariannol hon yn dod â manteision uniongyrchol i fusnesau lleol yn Nhrearddur ac yn cynnal y gwesty fel un o’r prif ddarparwyr llety gwyliau a chyflogwyr mwyaf yn yr ardal. 

·         Fel rhan o’r cais, roedd yr ymgeisydd wedi cytuno i wneud cyfraniad £30k adran 106 i wella’r cyfleuster parcio yn Nhrearddur a rhoi croesfan ar gyfer cerddwyr yng nghanol y pentref.

·         Roedd y cais yn cael ei gefnogi gan y ddau bolisi cynlluniocenedlaethol a lleol – ac roedd adroddiad y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu nac i’r polisïau sy’n berthnasol yn hyn o beth.

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor nifer o gwestiynau i Mr Middleton am ddyluniad y bythynnod gwyliau a’r defnydd a wneid ohonynt trwy gydol y flwyddyn; a oedd hwn yn orddatblygiad; a fyddid yn recriwtio’n lleol ar gyfer y pum swydd parhaol ychwanegol, a chydymffurfio gyda’r polisi iaith.

Wrth ymateb, eglurodd Mr Middleton ei fod yn ymwybodol o wrthwynebiadau lleol yng nghyswllt gorddatblygu a dywedodd bod y cynllun wedi ei drafod yn fanwl gyda Swyddogion a ddylanwadodd yn fawr ar osodiad a dyluniad y safle. Canolbwyntiwyd ar ddatblygu’r bythynnod gwyliau mewn man llai ymwthiol i’r de-orllewin o’r safle. Câi gwelliannau amgylcheddol ac ecolegol eu gwneud i’r safle.  Roedd unedau’r bythynnod gwyliau wedi eu dylunio fel nad oeddynt yn ymdebygu i ryw lun ar stad o dai a’u bod yn gymysgedd o wahanol fathau o ddatblygiadau fel nad oedd yn edrych yn unffurf. Rhagwelwyd y byddid yn recriwtio staff ar gyfer y pum swydd ychwanegol yn lleol, a hynny’n gyson â’r hyn oedd eisoes yn cael ei wneud. Cadarnhaodd Mr Middleton y buasai arwyddion dwyieithog y gwesty’n ymestyn i’r bythynnod gwyliau arfaethedig.  O ran defnyddio’r bythynnod gwyliau arfaethedig, y bwriad oedd eu defnyddio trwy gydol y flwyddyn ond buasai’r ymgeisydd yn derbyn yr amodau cynllunio model y buasai’r awdurdod yn eu pennu i rwystro pobl rhag byw ynddynt yn barhaol. Nid eu defnyddio at bwrpas preswyl oedd y bwriad ac ni fuasai’r gwesty eisiau colli rheolaeth o unrhyw un o’r bythynnod gwyliau na'r ystafelloedd gardd i’r perwyl hwnnw ond, yn hytrach, eu cadw at ddefnydd gwyliau. 

Fel Aelod Lleol, cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at nifer o wrthwynebiadau gan y Cyngor Cymuned a’r trigolion lleol.  Ceisiodd eglurhad ar natur y gefnogaeth leol yr oedd Mr Middleton wedi cyfeirio ati. Dywedodd Mr Middleton y cafwyd adborth trwy’r gwesty ei hun.  Hefyd, trwy drafodaethau, roedd wedi dod i’r amlwg bod angen croesfan i gerddwyr yn y pentref ac roedd yn fater yr oedd yr ymgeisydd yn awyddus i weithio arno gyda’r gymuned i ddiwallu’r angen.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y bwriad yn dderbyniol o ran polisi. Nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu a’u bod wedi bod mewn trafodaeth gyda’r asiant ynghylch manteision cynllun posib oedd oddeutu £30,000. Nid ystyrid bod yr effaith ar y tirwedd a’r mwynderau’n annerbyniol. Roedd Asesiad ar y Tirwedd a’r Olygfa yn nodi y buasai plannu ar y safle’n allweddol i liniaru effeithiau gweddilliol o gofio’r gwaith helaeth a wnaed yn y broses ddylunio i sicrhau y buasai’r safle’n ymdoddi i’r ardal o’i amgylch.   Yn yr un modd, buasai modd lliniaru unrhyw effaith ecolegol negyddol trwy’r gwaith tirlunio arfaethedig. O ran yr effaith ar yr economi, ar falans, buasai’r bwriad yn arwain at effaith gadarnhaol ar yr economi.  At hyn, roedd y cynllun wedi ei ddylunio i barchu’r adeilad rhestredig ar y safle ac nid oedd materion technegol yn codi.  Pe câi’r bwriad ei ganiatáu, rhoddid amod ynghylch defnydd gwyliau. 

Fel Aelod Lleol, tanlinellodd Trefor Lloyd Hughes faterion o ran perygl llifogydd a draenio a gofynnodd a oedd modd i’r datblygiad ymdoddi i’r ardal o’i gwmpas heb niwed annerbyniol.  Gofynnodd am gael ymweld â’r safle fel bod modd i Aelodau fesur effeithiau posib y bwriad yng nghyd-destun yr ardal o’i amgylch a’r gorddatblygu. Yn hyn o beth, cefnogwyd y Cynghorydd Hughes gan y Cynghorwyr Jeff Evans a Raymond Jones.

Cafodd yr Aelodau oedd yn gofyn am gael ymweld â’r safle eu hatgoffa gan y Cadeirydd y dylid gofyn am y cyfryw ymweliad ar ddechrau’r drafodaeth.  Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad ysgrifenedig yn rhoi sylw i’r perygl o lifogydd a draenio.

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes ganiatáu’r cais gan fod y bwriad yn gyfle i ddenu pobl i’r ardal dros fisoedd y gaeaf a rhoi hwb i’r economi lleol a’r farchnad gwaith. Cafodd ei gynnig ei eilio gan y Cynghorydd R.O.Jones. Ildiodd y Cynghorydd Jeff Evans gan ddweud ei fod yn hapus cefnogi’r bwriad os oedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd gofyn ymweld â’r safle er gwaethaf y pryderon a fynegwyd.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo a chyda chytundeb Adran 106 (rhoi budd i’r gymuned ehangach yn cynnwys estyniad i’r droedffordd ar Lôn Isallt a chroesfan i gerddwyr ar Lôn St Ffraid ynghyd â diogelu’r ystafelloedd gardd yn rhan o adeiladau’r gwesty). 

 

Dogfennau ategol: