Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 18C215 – Swn yr Afon, Llanrhwydus

 

11.2 34C655 – 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni

 

11.3 37C187 – Bryn Garth, Brynsiencyn

 

11.4 47C121A – Hen Blas, Llanddeusant

Cofnodion:

11.1  18C215 - Cais amlinellol gyda mynedfa wedi ei chynnwys i godi annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd ynghyd â gosod  gwaith trin carthion ar dir ger Sŵn yr Afon, Llanrhwydrus, LL68 0SR

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y cais gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i swyddog perthnasol ac roedd y Swyddog Monitro wedi cael golwg ar y ffeil.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Sioned Roberts roi ei safiad i’r Pwyllgor.

Tanlinellodd Miss Roberts y pwyntiau a ganlyn i gefnogi’r cais–

·         Disgrifiodd ei hamgylchiadau personol a’i chysylltiadau teuluol â Sŵn yr Afon a Llanrhwydrus.

·         Cyfeiriodd at yr anawsterau o brynu tŷ gan fod pob tŷ ar y farchnad leol, i bob pwrpas y tu draw i’w gallu’n ariannol. Rhoes enghreifftiau o nifer y tai oedd ar werth ar hyn o bryd, a’u prisiau.

·         Oherwydd nad oedd tai lleol yn fforddiadwy, roedd yr ardal wedi gweld pobl hŷn yn dod i mewn ac roedd hyn yn drist i’r gymuned wledig.  Roedd yn ddigon ffodus o fod wedi cael darn o dir gan ei rhieni yr oedd yn dymuno codi tŷ fforddiadwy arno.

·         Ei dymuniad ar gyfer y dyfodol oedd aros yn lleol a magu teulu.  Buasai o gymorth iddi hi ac i’w rhieni eu bod yn byw’n agos.

·         I gloi, roedd yn dymuno aros yn ei chymuned, yn agos at deulu a ffrindiau a dechrau teulu. Nid oedd yn gofyn am ganiatâd cynllunio i godi tŷ mawr - dim ond am gartref yn y clwstwr bychan o dai o amgylch cartref ei phlentyndod.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i Miss Sioned Roberts.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn tynnu’n groes i bolisi’r Cynllun Datblygu ac mai’r unig reswm yr oedd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oedd bod yr ymgeisydd yn ffrind i swyddog perthnasol. Fel y’i bwriedid, roedd y cais mewn cefn gwlad agored lle'r oedd polisïau caeth yn berthnasol a rhaid oedd dangos bod cyfiawnhad dros godi tŷ.  Ac eithrio fforddiadwyedd, ni chynigiwyd cyfiawnhad arall dros gefnogi’r cais y gellid ei ystyried dan bolisïau perthnasol tai yn y cefn gwlad. At hyn, roedd safle’r cais mewn man amlwg lle credid y buasai codi tŷ newydd yno’n cael effaith andwyol ar gymeriad y tirwedd o’i amgylch.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd Kenneth Hughes ei fod yn cefnogi’r cais am resymau polisi yn ogystal ag am resymau’n ymwneud â’r Gymraeg a dyfynnodd baragraff 9.2.13 Polisi Cynllunio Cymru i gyfiawnhau ei farn.  Roedd y paragraff hwn yn darparu ar gyfer mewnlenwi’n sensitif fylchau bychain mewn grwpiau bychain o dai neu estyniadau bychain i grwpiau. Roedd o’r farn bod y polisi’n berthnasol yn yr achos hwn o gofio bod tri thŷ gerllaw ac nid oedd yn credu y buasai annedd arall yn cael effaith andwyol ar yr ardal. Nid oedd dim gwrthwynebiadau’n lleol i’r bwriad.  At hyn, roedd y bwriad yn rhoi cyfle i sicrhau parhad y teulu yn ogystal â chadw’r to ifanc ar yr Ynys ac yn eu cymunedau. Fel hyn, diogelid mwynderau lleol megis yr ysgol a’r Gymraeg - ystyriaethau yr oedd y Cynghorydd Hughes yn credu eu bod yn bwysig.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn bleidiol i’r cais ac yn bryderus bod polisi cynllunio, fel yr oedd ar hyn o bryd, i’w weld yn gweithio yn erbyn pobl ifanc oedd yn dymuno aros yn eu cymunedau gyda goblygiadau, yn sgil hynny, i hyfywdra’r cymunedau hynny a ffyniant y Gymraeg. Roedd Aelodau’n dymuno datgan eu hanfodlonrwydd gyda’r sefyllfa ac yn awgrymu y dylid cwyno yn hyn o beth. Roedd y Cynghorydd John Griffith o’r farn y dylai’r Pwyllgor gefnogi’r cais.

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod swyddogion yn gyfrifol am weithredu polisïau cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn.  Dywedodd y Swyddog y buasai’n anodd cysoni caniatáu’r cais hwn gyda phenderfyniad blaenorol mewn amgylchiadau tebyg. O’r herwydd, buasai caniatáu’r cais yn peri pryder proffesiynol iddo fel Swyddog.  Eglurodd ymhellach mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod yn gofyn a oedd y cais yn gais am dŷ fforddiadwy, er bod y cais wedi ei gyflwyno fel cais am dŷ fforddiadwy - i’w ystyried fel cais priodol wedi ei gefnogi gan bolisi, buasai’n rhaid i’r datblygiad arfaethedig fod ar safle priodol mewn anheddiad neu union gerllaw iddo.  Nid dyma oedd yr achos yma.  

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod safle’r cais yn amlycach yn y cefn gwlad na chais tebyg y rhoddwyd ystyriaeth iddo ynghynt.  Dywedodd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor oedd rhoi ar waith bolisi, deddfwriaeth a threfn cynllunio ac, yn hyn o beth, anodd oedd gweld sut y gellid dod i unrhyw benderfyniad arall ac eithrio gwrthod y cais. Wedi clywed y cyngor proffesiynol a roddwyd, daeth Aelodau’r Pwyllgor i’r casgliad, gan resynu,

nad oedd modd caniatáu’r cais. Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts wrthod y cais ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd W.T.Hughes.

 

Fel yr Aelod Portffolio dros Gynllunio, dywedodd y Cynghorydd J.A.Roberts ei fod yn nodi pryderon y Pwyllgor ac y byddid yn edrych i mewn i hyn.  Fodd bynnag, buasai unrhyw newid mewn polisi’n cymryd amser ac, yn y cyfamser, cyfrifoldeb y Pwyllgor oedd rhoi polisïau cynllunio’r Cyngor ar waith. 

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag adroddiad y Swyddog. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ar y mater).

11.2  34C655 – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i’r cais gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10. Roedd y Swyddog Monitro wedi edrych dros y cais yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Gan ei bod wedi datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod.

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor y derbyniodd y Swyddfa Cynllunio lythyr ddoe yn gwrthwynebu ac, o gofio nad oedd y Swyddog Cynllunio wedi cael digon o amser i’w ddarllen, roedd yn argymell gohirio ystyried y cais.

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd. 

11.3        37C187 – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl i godi annedd ynghyd â gwaith altro i’r fynedfa ar dir ger Bryn Garth, Brynsiencyn

Cyflwynwyd cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn aelod perthnasol o staff.  Roedd y Swyddog Monitro wedi edrych trwy’r cais yn ôl y gofynion dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Gofynnodd y Cadeirydd i Mr Eric Jones annerch y Pwyllgor o blaid y cais

Gwnaeth Mr Eric Jones y sylwadau a ganlyn –

·         Cyswllt y teulu â Brynsiencyn oedd yn mynd yn ôl blynyddoedd.

·         Roedd y tir, sef safle’r cais, yn ffinio â thir y Cynllun Datblygu Unedol cyfredol ac wedi ei gynnwys yng nghofrestr y darpar safleoedd ar gyfer cynllunio. Roedd amryw o dai’n ffinio â’r tir dan sylw ac ni fuasai un annedd arall ar y safle yn cael effaith, yn naturiol nac yn amgylcheddol, ac ni fuasai’n ddolur i’r llygad.

·         Roedd ei ferch, yr ymgeisydd, a’i gŵr a’u teulu bach wedi dweud erioed y buasent yn dymuno byw ym Mrynsiencyn a buasai’r gymuned yn gyffredinol yn elwa o’u presenoldeb.

·         Ei fod wedi wynebu sefyllfa debyg ei hun gan ei fod yn dymuno codi tŷ yn yr ardal a bod yr Aelod Lleol ar y pryd wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw pobl leol yn eu cymunedau.

·         Roedd ei ferch a’i gŵr, ill dau, yn gyflogedig gan Gyngor Sir Ynys Môn ac yn dymuno ymgartrefu yn eu cynefin.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y bwriad yn groes i’r Cynllun Lleol a’r Cynllun Datblygu Unedol oedd wedi ei Stopio ac, felly, yn tynnu’n groes i bolisïau.  Eglurodd y Swyddog bod ffin bendant ar gyfer anheddiad Brynsiencyn a bod safle’r cais y tu allan i’r ffin hon a’i fod yn y cefn gwlad. O gofio bod safle’r cais ar ymyl yr anheddiad, roedd yno bolisi oedd yn berthnasol pe bai’r cais ar gyfer annedd fforddiadwy.  Fodd bynnag, cais oedd am annedd ar y farchnad agored ac nid am annedd fforddiadwy.

 

Gofynnodd aelodau a fuasai’r cais yn dderbyniol pe bai am annedd fforddiadwy.  Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod polisi perthnasol oedd yn caniatáu ystyried rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer tai fforddiadwy ar safleoedd priodol y tu mewn i aneddiadau neu’n union gerllaw iddynt os oeddynt yn cwrdd â’r meini prawf. 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mai mater i’r Pwyllgor oedd gohirio ystyried y cais er mwyn gofyn am dystiolaeth o angen am dŷ fforddiadwy.  Buasai’r Swyddog Cynllunio yna’n ei ystyried.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ohirio ystyried y cais ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod modd i’r Swyddog Cynllunio ailymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch cael tystiolaeth o angen am dŷ fforddiadwy. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Victor Hughes ar y mater).

11.4                47C121A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Hen Blas, Llanddeusant

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan iddo gael ei wneud gan dad swyddog perthnasol. Roedd y Swyddog Monitro wedi edrych ar y cais yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Llanddeusant yn anheddiad rhestredig a ddiffinnir dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn oedd, fel arfer, yn caniatáu datblygu plotiau sengl y tu mewn i’r pentref neu ar ei gyrion.  Y gred oedd y buasai safle’r cais yn estyniad bychan rhesymol i ran ddatblygedig bresennol y pentref.   O’r herwydd, yr argymhelliad oedd caniatáu ond heb Adran 106 ar dai fforddiadwy.

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes ganiatáu’r cais ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo. (Fel Aelodau Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorwyr John Griffith a Kenneth Hughes ar y mater).

 

Dogfennau ategol: