Eitem Rhaglen

Materion Ariannol - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw 2013/14

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 2 (Adroddiad i Bwyllgor Gwaith 2ail Rhagfyr)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Chwarter 2 2013/14 fel oedd wedi ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Rhagfyr.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor hyd at Medi 2013 ac yn seiliedig ar hynny, roedd yn cyflwyno sefyllfa ragamcanedig diwedd y flwyddyn o wariant cyffredinol o £265k.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) at wahaniaethau arwyddocaol mewn gwasanaethau gyda chyfeiriad arbennig at y tanwariant £64k ar Ofal Cymdeithasol o gymharu â’r gorwariant £1.295m ar ddiwedd Chwarter 1.  Rhoddodd y Swyddog ddadansoddiad i’r Aelodau o’r prif ffactorau oedd yn gyfrifol am y newid hwn trwy ddadansoddi’r gwariant ar wahanol elfennau o’r gwasanaeth yn ymwneud â phlant a theuluoedd a gofal cymdeithasol i oedolion.  Pwysleisiodd bod cyllidebau gofal cymdeithasol yn eu natur yn rhai cyfnewidiol a nododd na fyddai’r sefyllfa well hon efallai yn cael ei chynnal am weddill y flwyddyn. Bydd y cyllidebau hyn felly yn cael eu monitro’n agos gan staff cyllid a staff y gwasanaeth yn fisol.  Aeth y swyddog ymlaen i gyfeirio at orwariant Grant Budd-daliadau o £310k, sef £230k o Dreth Gyngor ac £80k o Daliad Tai Disgresiynol a oedd wedi codi, yn achos y cyntaf, yn sgil newid y Budd-dal Treth Gyngor am Gynllun Gostyngiad Treth Gyngor, ac yn achos yr ail, o newidiadau diwygio lles.

 

Bu’r Aelodau yn ystyried yr adroddiad ac er eu bod yn croesawu gweld trawsnewid y gorwariant ar Ofal Cymdeithasol Oedolion yn y chwarter cyntaf roeddent yn bryderus gyda maint y newid hwnnw mewn amser mor fyr ac roeddent felly yn awyddus i sefydlu beth oedd y rhesymau am y newid hwn ac a oedd i’w briodoli i –

 

·         Arbedion gwirioneddol ac/neu

·         Moratoriwm ar wario ac os felly, goblygiadau hynny i ddefnyddwyr gwasanaeth

·         A oedd yna swyddog unswydd yn monitro’r gyllideb Gofal Cymdeithasol Oedolion?

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) nad oedd unrhyw arian wedi ei arbed.  Yn y chwarter cyntaf nid oedd y cyllidebau wedi eu haleinio’n gywir gyda hynny’n ei gwneud yn anodd i broffwydo a sefydlu beth oedd y gwariant gwirioneddol.  At hynny, nid oedd unrhyw arwydd bod   cynlluniau wedi eu gweithredu mewn perthynas ag arbedion o £500k y bwriadwyd eu gwneud fel rhan o gyllideb 2012/13 ac felly fe ychwanegwyd y swm at y ffigurau yn y gyllideb heb wneud ymchwiliad trylwyr ynghylch pam nad oedd yr arbediad wedi ei gyflawni.  Roedd ymarfer ailaleinio wedi dangos bod yr arbedion wedi eu gwneud.  Hefyd, ers ei weithredu yn Chwarter 1, mae’r system lejer Civica wedi gwneud y wybodaeth yn fwy tryloyw.  Cadarnhaodd y Swyddog bod swyddog arall yn canolbwyntio ar gyllid yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond bod y gwaith o osod y gyllideb yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Cyllid.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn gytûn, er mwyn gallu dadansoddi’r sefyllfa ymhellach ac i roi cyfrif digonol o’r gwahaniaeth rhwng sefyllfa gyllidebol Gofal Cymdeithasol Oedolion yn Chwarter 1 a Chwarter 2 ac i gael sicrwydd bod y sefyllfa yn cael ei rheoli, eu bod angen mewnbwn gan y Cyfarwyddwr Cymuned ac roeddent yn siomedig nad oedd yr arbenigedd hwnnw ar gael iddynt yn y cyfarfod hwn.  Gofynnwyd ymhellach ynglŷn â’r diffyg oedd yn cael ei ragweld mewn incwm parcio ceir ym Mharc Gwledig y Morglawdd - dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y byddai’n darparu’r wybodaeth honno i’r Aelod perthnasol.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU’N CODI

 

Dogfennau ategol: