Eitem Rhaglen

Trefniadau Llywodraethu a Sicrwydd

Derbyn diweddariad ynglyn â threfniadau Llywodraethu a Sicrwydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Llywodraethu a Sicrwydd ac yn codi o'r adolygiad o Fframwaith Llywodraethu y Cyngor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2012/13. Roedd y fersiwn a ddiweddarwyd o’r Cynllun Gweithredu  ar Lywodraethu a Sicrwydd wedi ei ddarparu yn Atodiad B ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Ystyriodd yr Aelodau'r Cynllun Gweithredu a gofyn am eglurhad ar rai pwyntiau ynghylch y trefniadau adrodd ar gyfer y Byrddau Trawsnewid a statws yr ymgynghoriad ar y Polisi a’r Strategaeth Comisiynu a Chaffael. Tynnwyd sylw at absenoldeb dyddiad targed penodedig ar gyfer cynllunio a darparu arbedion sydd eu hangen ar y Cyngor a chan fod y gwaith hwn mor ganolog i fusnes y Cyngor wrth fynd ymlaen, gofynnwyd cwestiynau ynghylch y sefyllfa o ran y cynnydd a wnaed hyd yma.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 bod ymgydio gyda strategaethau ar draws y Cyngor yn rhan o'r gwaith o ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig ee Strategaeth Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a’r Strategaeth TG. Mae rhai strategaethau yn fwy datblygedig nag eraill. Bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys buddsoddiadau a bydd yn tynnu sylw at y bwlch arbedion dros y pedair blynedd nesaf a fydd yn cael eu talu dan y Strategaeth Effeithlonrwydd. Bydd yn rhaid datblygu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/16 yn seiliedig ar feddwl ymlaen tua’r dyfodol yn hytrach nag ar ddull sleisio salami. Y gwaith y bydd angen ei wneud yn y dyfodol agos yw gweithio gyda'r byrddau trawsnewid ac adolygiadau gwasanaeth i bontio'r bwlch arbedion.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y Cynllun Trawsnewid wedi cael ei ddatblygu, bod ailstrwythuro wedi digwydd a chapasiti ychwanegol wedi’i ddyrannu, a'r cam cyntaf fydd adnabod yr achos dros newid y canlyniadau refeniw gan fwydo wedyn i'r strategaeth effeithlonrwydd tymor hwy. Hyd yma mae’r gwaith a wnaed yn un o natur ôl-ymyrraeth a nawr yn unig y mae gennym yr amser a'r capasiti i flaengynllunio. Cytunwyd ar y Cynllun Corfforaethol a bydd hwnnw’n gyrru materion yn eu blaen. O ran y meysydd lle gellir adnabod arbedion ee crebwyll miniog ar waith, moderneiddio ysgolion ac ati cyrhaeddwyd cyfnod pryd y gall yr Awdurdod ganolbwyntio ar yrru’r mentrau hyn ac eraill ymlaen a byddant wedyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac yn y Strategaeth Effeithlonrwydd. Mae'r rhaglen drawsnewid yn ceisio asio gwelliant mewn gwasanaethau gyda gwell defnydd o adnoddau. Ymhelaethodd y Swyddog ar waith a wneir yn y cyfnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol, ynghyd â chamau gweithredu sy'n cael eu cymryd a chadarnhaodd bod yr agenda yn symud.

 

Nododd yr aelodau bod cynnydd yn digwydd ond nid mor gyflym ag y dymunent ac o ganlyniad gofynnwyd am gael gwybod am y datblygiadau.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU YN CODI: Dirprwy Brif Weithredwr i roi gwybod i'r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod nesaf am fframwaith a strwythur y Rhaglen Trawsnewid gyda'r bwriad o ddarparu sicrwydd bod y broses yn gallu cyflawni ei thargedau.

Dogfennau ategol: