Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 – 23C84C – Penrhos, Maenaddwyn

13.2 – 38C277B – Caerdegog Uchaf, Llanfechell

 

Cofnodion:

13.1     23C84C - Cais i bennu os oes angen caniatad blaenorol ar gyfer codi sied   amaethyddol ar gyfer storio gwair, gwellt a peiriannau yn Penrhos, Maenaddwyn

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn weithiwr i’r Cyngor. 

 

Penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurod Cynllunio Lleol ymlaen llaw ar gyfer y datblygiad uchod a’i fod yn gyfystyr â datblygiad a ganiateir.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

13.2      38C277B - Cais llawn ar gyfer codi twrbin wynt 50kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 24.6m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 19.2m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.2m ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Caerdegog Uchaf, Llanfechell

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y cyfarfod er mwyn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad oherwydd bod yr ymgeisydd wedi penderfynu apelio i Arolygaeth Gynllunio Cymru oherwydd bod yr Awdurdod wedi methu â gwneud penderfyniad arno.  Roed y Swyddogion Cynllunio yn gofyn am gyfarwyddyd gan y cyfarfod ynglŷn â sut i ddelio â’r apêl.

 

Dywedodd bod cais hwyr wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i gael siarad yn gyhoeddus ar y mater gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Rhoddwyd cyngor cyfreithiol i Gadeirydd y Pwyllgor yn y blaen-gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ac roedd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wedi rhoi’r cyngor hwnnw i’r ymgeisydd hefyd cyn y cyfarfod.  Y cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r Cadeirydd oedd na ddylid caniatáu i’r ymgeisydd siarad yn gyhoeddus oherwydd nad oedd y cais yn un i’w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd wedi penderfynu apelio i’r Arolygaeth Gynllunio oherwydd diffyg gwneud penderfyniad;  Nid oedd y Swyddogion Cynllunio wedi paratoi’r adroddiad yn y disgwyl y byddai siarad cyhoeddus yn digwydd ar y cais hwn; byddai’n creu annhegwch o blaid y gwrthwynebwyr pe baent yn cael siarad ar y cais.  Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ei gyngor unwaith yn rhagor na ddylai’r Cadeirydd ganiatáu i’r ymgeisydd siarad ar y cais hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion wedi nodi yn yr adroddiad beth oedd y prif faterion ynglŷn ag egwyddor y datblygiad, effaith Weledol ac effaith ar y Tirlun a Mwynderau Preswyl.  Trwy bod yr ymgeisydd wedi penderfynu apelio i’r Arolygaeth Gynllunio oherwydd diffyg gwneud penderfyniad ar y cais, roedd y Swyddogion Cynllunio yn hyderus i wrthwynebu’r apêl ar y sail y byddai yna effeithiau andwyol sylweddol yn weledol ac effeithiau ar y dirwedd ar osodiad yr AHNE yn yr ardal a hefyd effeithiau Cronnol Andwyol ar y Dirwedd a Gweledol ar yr AHNE tua ffin yr Ardal Cymeriad Tirwedd 5.  Gofynnodd a oedd y Pwyllgor Cynllunio yn fodlon i’r Swyddogion Cynllunio wrthwynebu’r apêl ar y materion hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes bod hwn yn unigryw gan fod dros 100 o lythyrau o gefnogaeth i’r cais yn yr ardal a dim ond ychydig o wrthwynebiadau.  Dywedodd bod Cardegog Uchaf yn fferm deuluol 150 acer gyda gyr o wartheg godro.  Roedd y fferm yn dibynnu ar gael cyflenwad mawr o drydan.  Cyfeiriodd at un llythyr oedd yn gwrthwynebu ac yn dweud na fydd y cais hwn yn creu unrhyw swyddi newydd.  Roedd y Cynghorydd Hughes yn credu ei bod yn ystyriaeth bwysig bod unrhyw fusnes y dyddiau hyn yn gallu diogelu a sicrhau unrhyw waith sydd yno.  Roedd yn ei chael yn anodd i gefnogi’r rhesymau dros wrthod y cais oherwydd o un lleoliad ger Mynydd y Garn fe allai weld 32 o dyrbinau gwynt ac mewn lleoliad ger Fferm Mynachdy gallai weld 21 o dyrbinau gwynt a hefyd Orsaf Pŵer Niwclear y Wylfa.  Nid oedd y Cynghorydd Hughes yn derbyn y byddai caniatáu un tyrbin arall ar gyfer defnydd Cardegog Uchaf yn cael effaith niweidiol ar y diwedd ac ar yr AHNE.  Cyfeiriodd hefyd at fferm Rhyd y Groes lle mae tyrbin gwynt, a’i fod yn llawer agosach i’r AHNE.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ymhellach ei fod yn ystyried nad oedd y cais hwn yn cael effaith ar fwynderau preswyl.  Dywedodd ei fod yn cefnogi’r cais. 

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Lewis Davies a oedd y cais hwn o fewn neu yn agos i’r AHNE a gofynnodd faint o dyrbinau gwynt sydd yn y lleoliad hwn.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle ger AHNe ond ni allai ddweud yn union faint o dyrbinau gwynt oedd yn yr ardal.  Roedd y Cynghorydd Davies yn ystyried y byddai’r cais yn cael effaith niweidiol ar y dirwedd a’i fod ger safle AHNE a chynigiodd y dylid gwrthod y cais.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig i wrthod.

 

Nododd y Cynghorydd John Griffith bod Wylfa Newydd i’w hadeiladu yn agos i safle’r cais hwn.  Fodd bynnag, pwysleisiodd bod angen diogelu’r AHNE ond cwestiynodd a oedd swyddogion wedi ystyried y byddai safle Wylfa Newydd yn agos i’r cais hwn.  Dywedodd y rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion wedi ystyried y mater hwnnw. 

Cwestiynodd y Cynghorydd Nicola Roberts pa mor agos oes anheddau preswyl i’r safle hwn.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai Croes Fechan oedd yr annedd breswyl agosaf a’i bod dros 400 metr i’r de-ddwyrain o’r safle.  Cwestiynodd y Cynghorydd Roberts ymhellach beth oedd y gost o wrthwynebu apêl?  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd yn bosibl rhoi union ffigwr o’r gost ond yr oedd yn rhagweld y byddai’n golygu cost amser y swyddogion yn paratoi ar gyfer apêl o’r fath.  Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylai’r cais gael ei gefnogi ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig hwnnw.

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:-

 

Cefnogi’r cais yn yr apêl, yn groes i argymhelliad y Swyddogion:-

Cynghorwyr K P Hughes, Vaughan Hughes, W T Hughes, Nicola Roberts

 

CYFANSWM 4

 

 

Gwrthwynebu’r cais yn yr apêl, gan gefnogi argymhelliad y Swyddogion:-

Cynghorwyr Lewis Davies, Jeffrey M Evans, T Victor Hughes, R O Jones

 

CYFANSWM 4

 

Atal ei bleidlais: Y Cynghorydd John Griffith

CYFANSWM 1

 

PENDERFYNWYD ar bleidlais fwrw y Cadeirydd i gefnogi’r cais yn yr apêl (penderfyniad oedd yn groes i argymhelliad y Swyddogion).

 

Oherwydd bod y penderfyniad yn groes i argymhelliad y Swyddogion, bydd y mater yn cael ei ohirio’n awtomatig i’w ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

Y rhesymau a roddwyd i gefnogi’r cais yn yr apel oedd nad oedd yr aelodau’n cytuno y byddai yna effaith sylweddol ar y Dirwedd nac yn Weledol ar osodiad yr AHNE yn ardal Mynydd y Garn ac nad oeddent yn cytuno y byddai datblygiadau ynni yn cael effeithiau Cronnol Andwyol ar y Dirwedd nac yn Weledol ger ffin Ardal Cymeriad y Dirwedd 5.

Dogfennau ategol: