Eitem Rhaglen

Cwrdd â'r Heriau - Ymgynghoriad ar Gyllideb 2014-15

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor am 2014/15.  Dogfennau ynghlwm fel cyfeirnod -

 

·         Dogfen Ymgynghori Cwrdd â’r Heriau – Cyllideb 2014-15.

 

·         Adroddiad i gyfarfod 16 Rhagfyr y Pwyllgor Gwaith -  Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2014/15.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2014/15 fel a gafwyd yn yr Ymgynghoriad Cyfarfod â’r Heriau ac adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gyfarfod 16 Rhagfyr o’r Pwyllgor Gwaith, er ystyriaeth y Pwyllgor.  Roedd y dogfennau’n amlinellu’r prif heriau cyllidebol sy’n wynebu’r Awdurdod ynghyd â rhestr o gamau ac arbedion y bwriedir eu cymryd i gyfarfod â’r heriau hynny yn 2014/15 a thu hwnt.

 

Amlinellodd y Deilydd Portffolio Cyllid yr egwyddorion sylfaenol yr oedd cyllideb ddrafft y Cyngor am 2014/15 wedi ei seilio arnynt a hynny’n cynnwys diogelu, i’r graddau roedd hynny’n bosibl, wasanaethau statudol a llinell flaen a hefyd gyflwyno arferion gweithio a gweithgareddau mwy effeithiol. Oherwydd y pwyslais ar wella effeithlonrwydd , nid oes unrhyw gynigion ar ffurf cau sefydliadau yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r pecyn cyllidebol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio Cyllid hefyd at y Rhaglen Drawsnewid sy’n parhau. Bydd canlyniadau’r rhaglen ar ffurf ailgyflunio ac ailfodelu gwasanaethau yn dod i rym yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cyfarfod â phwysau fydd hyn yn oed yn fwy ar gyllideb y Cyngor bryd hynny.

 

Bu’r Aelodau wedyn yn ystyried yn fanwl bob un o’r cynigion unigol i arbed oedd wedi eu rhoi ymlaen gan bob Adran ac/neu gyfarwyddiaeth yn cynnwys Dysgu Gydol Oes, Dirprwy Brif Weithredwr (yn cynnwys Gwasanaethau Canolog, Cyllid a Gwasanaethau TGCh, Gwasanaethau Cyfreithiol, Polisi, Swyddfa’r Prif Weithredwr a Gwasanaethau Corfforaethol), Datblygu Cynaliadwy ac Adrannau Cymunedol fel oedd i’w weld dan Atodiad B.  Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr, Penaethiaid Gwasanaeth a Deilyddion Portffolio perthnasol o bob Adran/Gwasanaeth i siarad gerbron y Pwyllgor ar y materion a ganlyn –

 

·         Y targedau arbed oedd wedi eu nodi ar gyfer gwasanaethau

·         Y rhesymeg tu ôl i’r cynigion a gyflwynwyd i gyfarfod â’r targedau a’r deilliannau a ddisgwylir.

·         Unrhyw newidiadau, addasiadau ac / neu newidiadau a wnaed i’r cynigion yn y cyfnod ers iddynt gael eu ffurfio am y tro cyntaf a’u cyflwyno a goblygiadau hynny.

 

(Rhoddwyd y cynigion arbed manwl mewn cysylltiad â’r Adran Gymunedol yn cynnwys Gwasanaethau Tai, Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gwasanaethau Plant gerbron y cyfarfod).

 

Holodd yr Aelodau y Deilyddion Portffolio a Swyddogion y gwasanaethau perthnasol ar sail yr ystyriaethau canlynol –

 

·         Y meini prawf a ddefnyddiwyd lle 'roedd hynny’n berthnasol e.e. mewn perthynas â rhesymoli clybiau ieuenctid.

·         Effaith y cynigion i arbed ar y gwasanaeth perthnasol o ran gostyngiad mewn darpariaeth a’r effeithiau posibl ar ddefnyddwyr gwasanaeth ynghyd ag unrhyw liniaru a fwriedir.

·         Unrhyw ddarpariaeth arall ac / neu drefniadau a wnaed lle bo effaith y gostyngiad mewn gwasanaeth yn disgyn ar faes penodol neu grwp defnyddwyr e.e. darparu cludiant i glybiau ieuenctid lle bo’r clwb ieuenctid lleol wedi ei gau.

·         Y lefel o risg oedd ynglŷn â phob cynnig i arbed yn arbennig o ran cyfarfod â dyletswyddau statudol ac / neu gadw safon ac ansawdd y gwasanaeth e.e. mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Plant a sut y cafodd hyn ei werthuso.

·         Pa mor gadarn a chyraeddadwy oedd y cynigion i arbed ac a oedd gan y gwasanaethau unrhyw gynlluniau eraill i ddisgyn yn ôl arnynt.

·         Y sgôp ar gyfer uchafu incwm lle roedd hynny’n berthnasol. 

·         Ffynonellau eraill o gefnogaeth ariannol.

·         Cymesuredd gostyngiadau ar draws gwasanaethau’r Cyngor a lefel yr effaith ar wasanaethau oedd â chyllidebau llai.

·         Effeithiau’r gostyngiadau cyllidebol a thargedau canrannol yng nghyd-destun cyllideb waelodlin y gwasanaethau.

 

Roedd y canlynol yn faterion yr oedd yr Aelodau’n dymuno cael eglurhad arnynt ac fe wnaed y sylwadau a ganlyn ganddynt –

 

·         Cwtogiad yn y grant i neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol a’r rhesymeg am hynny.

·         Yr effaith bosibl y byddai llai o Gefnogaeth i Flynyddoedd Cynnar yn ei gael ar ganolfannau a’r gostyngiad mewn cefnogaeth i’r Mudiad Meithrin a’r WPPA.

·         Beth oedd yr amcan gyda chynnwys arbediad arfaethedig £95k ar ailfodelu’r Gwasanaeth Llyfrgell pan nad oedd yr arbediad hwnnw yn debygol o gael ei sicrhau yn y dyfodol agos.

·         Lleihad mewn staffio a chostau rhedeg yn TGCh – sut y gellir sicrhau’r arbedion hyn; ar beth y maent yn seiliedig a beth oedd y rhagolygon o ran costau TGCh ychwanegol yn sgil gweithio’n gallach.

·         O ystyried pwysigrwydd Adnoddau Dynol, onid yw’r gostyngiad yng nghyllideb hyfforddi ganolog AD yn ffôl a gofynnwyd sut y bydd y gostyngiad yn amlygu ei hun yn ymarferol yn arbennig o ran cael gweithlu wedi ei hyfforddi’n briodol.

·         Lleihad mewn mentrau Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ac effeithiau posibl hynny o ran y gefnogaeth a roddir i staff ar amser pan y gall moral staff o bosibl gael ei effeithio mewn hinsawdd o doriadau a newid.  Gofynnodd yr Aelodau am gael gwybodaeth am gyllideb y Mentrau Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn ei chyfanrwydd.

·         Uno rheolaeth y Gwasanaethau Pwyllgor a Sgriwtini yn nhermau sicrhau y bydd gwasanaeth dwyieithog yn cael ei gadw o safbwynt cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.  Codwyd a chwestiynwyd beth oedd yr effaith ar y Gwasanaethau Democrataidd o fethu â chyfarfod â’r angen hwn.  (Datganodd y Rheolwr Sgriwtini ddiddordeb mewn perthynas â’r mater hwn a’r  mater i ddilyn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arnynt).

·         Heriwyd y bwriad i ddileu swydd wag y Swyddog Sgriwtini yng nghyd-destun cynnal gwasanaeth sgriwtini effeithiol a pherthnasol ar amser pan fo Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn gweld pwysau mawr ar y proses sgriwtini. Awgrymwyd y dylid ailystyried ac/neu newid y cynnig hwn.

·         Dileu’r cyllidebau ar gyfer dyletswyddau sifig a seremonïaidd ac i Sioe Amaethyddol Môn o ran ei effaith bosibl ar broffil cyhoeddus a delwedd yr Awdurdod a’i allu i amlygu ei hun i’r gymuned yn ogystal â’r goblygiadau i swydd Cadeirydd y Cyngor.  Awgrymwyd y dylid ailystyried ac/neu newid y cynnig i leihau’r gyllideb hon.

·         Y risgiau a amlygwyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) o barhau gyda’r bwriad i rewi swydd y Swyddog Ymweld a hynny oherwydd yr effaith a gâi ar y Gwasanaeth ac ar ei ddefnyddwyr.  Nodwyd a chydnabuwyd hynny.

·         Roedd pryder ynglyn ag i ba raddau y byddai toriadau mewn gofal cymdeithasol i oedolion yn nhermau cwtogi pecynnau gofal yn cael effaith bosibl ar fywydau pobl mewn cymhariaeth â chynigion eraill i arbed.

·         Roedd pryder ynglyn â’r lefel o risg oedd ynglyn â lleihau cefnogaeth i blant mewn angen yn arbennig gostyngiad 120 awr mewn cefnogaeth i blant ag anableddau. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant natur y risgiau o ran methu meintioli neu ragweld y galw; o ran methu â chwrdd â dyletswyddau statudol neu waethygiad yn ansawdd y gwasanaeth yn effeithio ar y canlyniadau i blant mewn angen, rhywbeth a allai o bosib arwain at gwynion a heriau cyfreithiol.  Er hynny, rhaid moderneiddio’r gwasanaeth yn arbennig mewn perthynas â phlant ag anableddau er mwyn hyrwyddo agwedd o ailalluogi.

·         Nodwyd bod y cynigion i arbed a roddwyd ymlaen gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn fyr o’r targed a osodwyd a bod angen gwneud gwaith pellach yn hyn o beth.

 

Yn ystod y cyflwyniad a wnaed gan Swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gymunedol, tynnodd y Cadeirydd sylw’r Aelodau at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn rhedeg am dair awr, ac yn unol â gofynion para 4.1.10 y Cyfansoddiad gofynnodd i’r Aelodau oedd yn bresennol a oeddent yn dymuno i’r cyfarfod barhau.  Dywedodd yr Aelodau oedd yn bresennol eu bod am i’r cyfarfod barhau.

 

Rhoddodd y Swyddogion eglurhad pellach mewn perthynas â’r cwestiynau a godwyd.  Soniodd y Dirprwy Brif Weithredwr am y sgôp cyfyngedig o ran nodi arbedion mewn meysydd gwasanaeth llai a dywedodd y manteisiwyd ar gyfleon a oedd wedi codi i wneud arbedion e.e. lle bo swyddi’n wag.  Roedd y cynigion oedd wedi eu cyflwyno ar gyfer Adran y Dirprwy Brif Weithredwr wedi eu rhoi ymlaen oherwydd y bernir eu bod yn gyrraeddadwy.  Gan gyfeirio at ddileu’r swydd sgriwtini sy’n wag awgrymodd y Dirprwy Brif Weithredwr y gellid cael cyfarfod o’r Cadeiryddion Sgriwtini a’r Pennaeth Swyddogaeth Busnes y Cyngor i ystyried ateb a fyddai’n gyfaddawd ac y gellid hefyd ystyried cael llai o doriadau yng nghyllideb y gweithgareddau sifig / seremoniol ac yn y gefnogaeth i Sioe Amaethyddol Môn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau - pe bai rhai cynigion yn cael eu gwrthod yna byddai’n rhaid nodi ffyrdd eraill o gwtogi’r gyllideb. Roedd yn rhaid i’r Pwyllgor fod wedi ei fodloni bod y cynigion i arbed oedd wedi eu cyflwyno yn rhai a dargedwyd yn briodol a gyda’r effaith leiaf lle 'roedd hynny’n bosibl. 

 

Oherwydd cyfyngiadau amser, cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r cynigion i arbed ynglŷn â’r Gwasanaethau Hamdden a’r Gyfadran Gynaliadwyaeth gael eu hystyried gan y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio y diwrnod canlynol a gyda chaniatâd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio, eu bod yn cael eu cynnwys yn nhrafodaethau’r Pwyllgor hwnnw ar y cynigion cyllidebol.  Byddai angen i’r Rheolwr Sgriwtini a Chadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod yn bresennol i friffio’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio ac i roi atborth i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Pendefynwyd –

 

·         Nodi cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor 2014/15.

·         Gyda chaniatad Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio, y dylai’r cynigion i arbed mewn perthynas â’r Gwasanaethau Hamdden a’r Gyfadran  Cynaliadwyaeth gael eu cynnwys yn nhrafodaethau’r Pwyllgor hwnnw ar y cynigion cyllidebol yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr, a

·         Bod cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cael ei alw i dderbyn adroddiad yn ôl gan y Cadeirydd a’r Rheolwr Sgriwtini ar y trafodaethau o’r cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio o safbwynt y cynigion i arbed yn ymwneud â’r Gyfadran Cynaliadwyaeth a’r Gwasanaethau Hamdden ac i gadarnhau’r Adroddiad Sgriwtini drafft ar y Gyllideb i’w anfon ymlaen i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar y 10 Chwefror.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI

 

·         Rheolwr Sgriwtini i gynnwys y safbwyntiau a fynegwyd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn yr Adroddiad Sgriwtini drafft ar y Gyllideb i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 10ed Chwefror.

·         Y Dirprwy Brif Weithredwr i ddarparu gwybodaeth i’r Rheolwr Sgriwtini am y gyllideb Mentrau Iechyd a Diogelwch Corfforaethol i’w dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

·         Y Rheolwr Sgriwtini i gysylltu â Chadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i drefnu cyfarfod i adrodd yn ôl i’w Pwyllgor.

Dogfennau ategol: