Cofnodion:
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Y Fali ar eu llwyddiant gyda’r gân a recordiwyd ganddynt ar gyfer eu Sioe Nadolig. Gwelwyd y fideo a wnaethpwyd ohonynt gan nifer fawr o bobl o amgylch y byd ar “YouTube” ac roedd yn siŵr fod y plant i gyd wrth eu boddau o fod wedi cymryd rhan mewn rhywbeth mor arbennig a bythgofiadwy. Diolchodd y Cadeirydd i’w hathro Mr Iolo Evans am ei waith yn eu cynorthwyo gyda’r recordiad a llongyfarchodd nhw ar eu llwyddiant gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at glywed y gân nesaf.
Cyn y Nadolig, cafodd disgyblion a staff Ysgol Y Graig y fraint a'r pleser o fod yn rhan o gystadleuaeth 'Carol yr Ŵyl' a gynhelir yn flynyddol gan y rhaglen deledu 'Pnawn Da' ar S4C. Nod y gystadleuaeth yw annog staff a disgyblion ysgolion cynradd Cymru i gyfansoddi a recordio carolau newydd sbon. Manteisiodd yr ysgol ar y cyfle yma gan fynd ati ym mis Tachwedd i greu recordiad o'r garol newydd 'Daeth y Dolig/ Christmas is Here o waith Miss Catrin Angharad Roberts, aelod o'r staff. Rob Nicholls a Sioned James oedd y beirniaid a dderbyniodd yr orchwyl o bennu rhestr fer o 10 carol o blith y 35 ymgais.
Dewiswyd carol Ysgol Y Graig yn un o'r deg uchaf. Daeth criw teledu i'r ysgol i ffilmio a recordio'r garol; profiad amhrisiadwy, bythgofiadwy i blant côr yr adran iau a'r staff. Darlledwyd carol Ysgol Y Graig ynghyd â'r naw carol arall ar y rhestr fer tros gyfnod o bythefnos cyn y Nadolig a chyhoeddwyd ar ddydd Gwener olaf y tymor mai carol Ysgol Y Graig oedd yn fuddugol.
Ni ellir pwysleisio cymaint oedd balchder a chynnwrf y plant ar ddiwrnod y cyhoeddi, ac roedd y cwbl yn benllanw a chlo perffaith i flwyddyn lewyrchus. Hoffai staff yr ysgol ddiolch o galon i bawb am eu llongyfarchiadau, a phleser oedd cael yr anrhydedd o gynrychioli Môn mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Llongyfarchiadau am lwyddiant ysgubol Band Ieuenctid Biwmares ym
Mhencampwriaeth Bandiau Ieuenctid Prydain 2014 a gynhaliwyd yn Blackpool yn ddiweddar. 'Roedd disgwyl i bob band gynnig rhaglen amrywiol o hanner awr. Gwelwyd 11 band ieuenctid (dan 18 oed) yn cystadlu. Pan gyhoeddwyd y canlyniadau dyma beth a enillwyd:-
Tlws a Gwobr Pencampwyr Bandiau Ieuenctid Prydain 2014
Tlws Adran Ewffoniwm Gorau’r Bencampwriaeth
Tlws Cornedydd Soprano Gorau’r Bencampwriaeth
Tlws am y dewis o Raglen Gerdd Orau yn y Bencampwriaeth
Tlws Unawdydd Gorau yn y Bencampwriaeth (Pippa Scourse)
Tlws Arweinydd Gorau’r Gystadleuaeth - (Gwyn Evans)
Dyma'n sicr achlysur i ddathlu a chadw mewn cof griw o bobl ifanc galluog, gweithgar sydd yn cael eu hyfforddi gan griw o bobl sy'n barod i roi o'u hamser.
Dywedodd y cadeuirydd y byddai, nos yfory, yn mynychu perfformiad gan Alleni Môn o’r Sioe Gerdd ‘Y Fordaith Fawr’ yng Nghanolfan Hamdden Biwmares.
Grŵp Cymunedol sy’n rhoi blas ar bob agwedd o waith Theatr i blant a phobl ifanc o bob rhan o Ynys Môn yw Alleni. Fe’i sefydlwyd yn Awst 2012, ac eleni maent wedi bod yn ddigon ffodus i allu gweithio o dan gyfarwyddyd Tim Baker ac Emyr John o Theatr Clwyd, yn ogystal â’r tîm arferol o diwtoriaid - Helen Barton o Gaergybi a Nia Efans o Dalwrn sy’n eu dysgu’n wythnosol.
Maer’ sioe ‘Y Fordaith Fawr’ yn mynd â ni’n ôl gan mlynedd i ddilyn hanes Mari a Tomos, gan ein tywys ar siwrne o fywyd cefn gwlad Cymru i erchylltra’r wyrcws ac ymlaen ar fordaith llawn gobaith i’r Amerig.
Ar nodyn trist, ar ddydd Sadwrn, Chwefror 1 bu farw’r cyn-aelod William Emyr Jones, Gaerwen, a fu’n aelod o’r Cyngor Sir am dymor rhwng 1999 a 2004. Cofiwn am Emyr am ei waith dros etholaeth Llanfihangel Esceifiog ac, wrth gwrs, am ei gyfraniad dros y blynyddoedd i’r maes amaethyddol.Cydymdeimlwyd â’i briod Olwen a’r teulu yn eu colled.
Cydymdeimlwyd â’r cyn-Aelod Cynulliad a chyn-Arweinydd Plaid Cymru,
Mr Ieuan Wyn Jones, yn ei brofedigaeth drist o golli ei briod, Eirian Llwyd. Yn wreiddiol o Brion ger Dinbych, bu’n gweithio i hybu lle merched mewn gwleidyddiaeth yn yr 80au, gan sicrhau lle amlycach i ferched ym mhrif bwyllgorau Plaid Cymru. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu Cangen y Rhyl o Gymorth i Fenywod yn y 1970au a 1980au. Ond, ar ôl newid gyrfa, fe sefydlodd gwmni Y Lle Print Gwreiddiol a fu’n dod â phrintiau gwreiddiol nifer o artistiaid blaenllaw Cymru i sylw cynulleidfa ehangach.
Anfonwyd cydymdeimlad dwysaf i Ieuan, i’r plant Gerallt, Gwenllian ac Owain
a’r teulu oll yn eu colled enfawr o golli gwraig, mam a nain annwyl.
Esynnwyd cydymdeimlad â’r Cynghorydd T. Victor Hughes a’i wraig
Margaret, sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Ar y llaw arall, maent
hefyd wedi cael newyddion da o fod yn nain a thaid eto.
Cydymdeimlwyd ag unrhyw aelod o’r Cyngor neu staff sydd wedi colli perthynas, Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.