Cyflwyno Cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer strategaeth cyllideb refeniw tymor canol, cynllun cyfalaf dros dro a chyllidebau refeniw a chyfalaf am 2014-15.
Cofnodion:
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd H Eifion Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y strategaeth cyllideb refeniw tymor canol, y cynllun cyfalaf dros dro a chyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2014/15.
Diolchodd i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’i staff am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb dan amgylchiadau anodd. Diolchodd i'r Prif Swyddogion a’r Grwpiau Gwleidyddol a oedd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r her a hefyd i’r Aelod Portffolio Cysgodol, y Cynghorydd John Griffith am ei gefnogaeth. Byddai’r her ar gyfer y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn fwy a bwriedir cychwyn gwaith ar y gyllideb a’r broses ymgynghori yn llawer cynt eleni nag a ddigwyddodd y llynedd.
Adroddwyd – Bod cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllideb 2014-15 i’w gweld fel a ganlyn:-
· Tabl A – Strategaeth Cyllideb Refeniw y Tymor Canol
· Tabl B – Cyllideb Refeniw 2014/15 a’r newid o 2013/14
· Tabl C – Cyllideb Gyfalaf 2014/15
· Tabl CH – Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys
Roedd adroddiad y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys y manylion isod mewn perthynas â’r Rheolau Gweithdrefn Cyllidebol:-
· os ydyw’r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth gyllidebol, a yw’r gyllideb
flynyddol arfaethedig yn cydymffurfio gyda’r strategaeth honno, a manylion am
unrhyw wahaniaethau;
· y Dreth Gyngor arfaethedig am y flwyddyn;
· trosglwyddiadau arfaethedig i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt;
· crynodeb o’r gwariant arfaethedig fesul gwasanaeth;
· manylion am newidiadau sylweddol i gyflenwi gwasanaethau oherwydd y gyllideb;
· i ba raddau y mae’r cynigion yn cymryd adroddiadau Pwyllgorau i ystyriaeth;
· i ba raddau mae’r cynigion yn cymryd i ystyriaeth y gwaith ymgynghori a wnaed;
· manylion am wahaniaethau sylweddol eraill rhwng y cynigion cychwynnol a’r rhai
terfynol;
· cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer darpariaethau trosglwyddo arian yn ystod y flwyddyn;
· cynigion ar gyfer benthyca;
· unrhyw faterion statudol eraill i’w penderfynu gan y Cyngor llawn.
Diolchodd y Cynghorydd John Griffith, yr Aelod Portffolio Cysgodol ar gyfer Cyllid i’r Cynghorydd H. Eifion Jones a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’i thîm am eu cyfraniad gwerthfawr i’r gwaith o baratoi'r gyllideb. Roedd hon wedi bod yn gyllideb anodd iawn o gofio’r holl oblygiadau i’r Adrannau, staff, gwasanaethau a threthdalwyr. Roedd toriad o 5% i’r gyllideb yn cyfateb i oddeutu £7.5m yn llai i'w wario ar wasanaethau yn y flwyddyn i ddod.
Er ei fod yn cefnogi’r gyllideb, roedd ganddo rai pryderon oherwydd nifer o gyfeiriadau mewn adroddiadau blaenorol i risgiau a allai amharu ar y gyllideb arfaethedig. Er enghraifft, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai rhai o'r cynigion arbedion yn cychwyn ar 1 Ebrill a byddai hynny'n golygu y byddai pwysau ar unwaith i gadw o fewn y gyllideb. Roedd yn teimlo ei bod yn hollbwysig i’r Cyngor baratoi ar gyfer cyllideb 2015-16 mewn da bryd ac y dylai'r cyfnod ymgynghori gychwyn yn llawer cynt nag yn y gorffennol.
Cyfeiriodd at y materion isod a oedd yn destun pryder iddo o fewn y gyllideb:-
· cyflwr y rhwydwaith ffyrdd ar yr Ynys, yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig;
· bwriad i godi ffioedd parcio a phrisiau tocynnau tymhorol a fyddai'n cael effaith ar yr henoed ac ar fusnesau;
· toriadau yn y gwasanaethau bws a fyddai'n cael effaith ar y rhannau hynny o'r gymuned nad oeddent yn gallu fforddio car;
· yr angen i barhau i gyllido camerâu goruchwylio oherwydd eu bod yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion a phobl fusnes a’u bod yn rhwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol;
· yn falch o glywed na fyddai'r cynnig i ostwng yr oed mynediad i ysgolion yn cael ei weithredu ym mis Medi ac y byddai'r AALl yn ymgynghori ymhellach ar ei gynlluniau tymor hir yn y cyswllt hwn;
· yr angen i fenthyca llai a gostwng y costau llog i'r Awdurdod o ganlyniad.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Pwyllgor Gwaith Cysgodol am ei gymorth yn paratoi'r gyllideb. Byddai penderfyniadau yn anoddach byth yn y flwyddyn nesaf ac i'r perwyl hwn roedd dyddiadau eisoes wedi eu cynnig yn betrus ar gyfer cychwyn trafodaethau ar gyllideb 2015-16. Gobeithir gallu cychwyn ar y cyfnod o ymgynghori ym mis Hydref a fyddai’n rhoi digon o amser i sgriwtineiddio cynigion ar gyfer y gyllideb.
Dogfennau ategol: