Eitem Rhaglen

Diweddariad y Cadeirydd

Y Cadeirydd i ddiweddaru’r Pwyllgor ar faterion perthynol.

Cofnodion:

3.1 Mudiad Ysgolion Meithrin - Cynnig i Ostwng Cymorth i MYM a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru (Y Gymdeithas)

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod cais wedi ei wneud gan bedwar Aelod i’r mater uchod gael sylw yn dilyn pryderon a fynegwyd mewn perthynas ag un o’r cynigion ar gyfer arbedion a gyflwynwyd gan yr Adran Dysgu Gydol Oes fel rhan o’r ymgynghoriad ar Gyllideb 2014/15 ac fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 14 Ionawr i ostwng cymorth i’r Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru.  Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes roi eglurhad pellach ar y cynnig o ran ei effaith a’i risgiau posib ac i friffio’r Aelodau ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r datblygiadau diweddar.

 

Gwnaed y pwyntiau isod gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes;

           Yr angen i gydbwyso gofynion statudol yn erbyn darpariaeth ddewisol wrth nodi arbedion posib fel rhan o’r broses ar gyfer llunio Cyllideb 2014/15.  O ran y ddarpariaeth Addysg, rhaid i’r AALl roi 10 awr o addysg i blant 3 oed yn unol â’r gyfraith.

           Gwneir y ddarpariaeth hon yn Ynys Môn trwy gyfuniad o gylchoedd/grwpiau sy’n caniatáu mynediad i blant 3 oed, ac i raddau llai mewn ysgolion cynradd sy’n caniatáu mynediad i blant 3 oed o’r mis Medi yn dilyn eu pen blwydd yn 3 oed gan olygu bod peth dyblygu yn y ddarpariaeth. 

           Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn rhoi grant i’r Mudiad Ysgolion Meithrin a’r Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol ar gyfer y ddarpariaeth hon.

           Mae’r cynnig ar gyfer arbedion yn golygu gostwng oed mynediad i ysgolion er mwyn caniatáu mynediad i blant yn y tymor yn dilyn eu pen blwydd yn 3 oed ac mae’n ceisio rhoi sylw i’r elfen o ddyblygu.  Nid yw’r cynnig yn golygu gostwng y ddarpariaeth ond ei chyflwyno mewn lleoedd gwahanol.

           Er y cydnabyddir y gall bod gan y cynnig oblygiadau mewn perthynas â chyflogaeth leol, fe all, ar y llaw arall, gynhyrchu mwy o gyfleon mewn rhai ysgolion.

           Gall y cynnig hefyd fod yn risg i’r ddarpariaeth ar gyfer plant sy’noed yn yr ystyr y byddai’r cyllid i grwpiau MYM dan y trefniadau arfaethedig newydd ar gyfer plant 3 oed yn cael ei ostwng a byddai hynny’n codi cwestiwn ynghylch ymarferoldeb y Cylchoedd o ran eu gallu i gynnal darpariaeth ar gyfer plant 2½ oed yn unig.  Tynnwyd sylw at yr elfen risg hon pan gyflwynwyd y cynnig yn wreiddiol.

           Mae ystyriaethau heblaw am ystyriaethau ariannol hefyd yn berthnasol i’r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar.  Mae’r rhain yn ymwneud ag ansawdd y ddarpariaeth a’r Iaith Gymraeg a sefydlu sylfaen yn y Blynyddoedd Cynnar lle gall pobl ifanc ffynnu yn eu defnydd o’r iaith.

           O ganlyniad i’r pryderon a godwyd ynghylch y mater hwn, cynhaliwyd cyfarfod gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin ar y dydd Iau blaenorol pryd cytunodd y ddau barti nad yw’r status quo yn gynaliadwy ac mae’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a’r MYM yn awyddus i weithio gyda’i gilydd i gyrraedd dealltwriaeth gyffredin o’r hyn y bydd angen ei wneud.

           Trafodwyd cynllun tymor byr ynghyd â gwerth cael trafodaeth bellach i ddatblygu cynllun tymor hir i sicrhau dyfodol darpariaeth Blynyddoedd Cynnar sy’n effeithiol ac yn effeithlon.  Bydd angen i’r cynllun tymor byr roi blaenoriaeth i arbedion ariannol.  Bydd y Gymdeithas Cylchoedd Meithrin hefyd yn rhan o’r trafodaethau hynny.

           Mae’r cynnig i ostwng oed mynediad i ysgolion yn un y mae’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn dymuno parhau i’w ystyried.

 

Gwahoddwyd Mr Hywel Jones, Prif Weithredwr y Mudiad Ysgolion Meithrin i annerch y cyfarfod a gofynnodd i’r Aelodau ystyried sut y gellir diogelu’r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar trwy weithio mewn partneriaeth, yn arbennig felly ar gyfer plant 2-3 oed.  Cyfeiriodd at waith y Cylchoedd yn paratoi plant ifanc yn gymdeithasol ar gyfer yr ysgol ac o bersbectif y cyfraniad y maent yn ei wneud o ran cyflwyno plant ifanc i’r iaith Gymraeg.  Pwysleisiodd ansawdd y ddarpariaeth gan y Cylchoedd ac fe gefnogwyd hynny mewn adolygiad gan Estyn.  Gofynnodd am i’r trafodaethau gyda’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes barhau er mwyn edrych ar wahanol ffyrdd o drefnu’r ddarpariaeth a gofynnodd am i’r penderfyniad terfynol ar y mater gael ei ohirio hyd nes yr oedd y trafodaethau llawn hynny wedi eu cynnal.   Ategodd Miss Carys Gwyn, MYM y sylwadau a wnaed gan Mr Hywel Jones ynghylch gwerth parhau gyda’r trafodaethau a oedd wedi cychwyn y dydd Iau cynt a dywedodd mai nod MYM yn y trafodaethau hynny yw sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar ar gyfer plant ifanc Ynys Môn gan mai nhw yw dyfodol yr Ynys.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau er eglurhad ac amlygwyd ganddynt y byddai wedi bod o fudd pe baent wedi cael eu briffio’n eglurach ynghylch yr hyn yr oedd y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn ceisio ei gyflawni gyda’r cynnig i ostwng cefnogaeth i’r MYM a’r Gymdeithas Cylchoedd Chwarae fel y byddant wedi medru ymateb yn well i’r pryderon a godwyd wedyn.  Cydnabu’r Aelodau fod trafodaethau’n parhau ac roeddent yn cefnogi parhad y trafodaethau hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a gyflwynwyd a hefyd fod trafodaethau yn parhau.

 

3.2       Yn unol â bwriad y Cadeirydd bod cynrychiolwyr sgriwtini sy’n gwasanaethu ar fyrddau Rhaglen / Prosiect y Rhaglen Drawsnewid yn diweddaru’r Pwyllgor yn rheolaidd ar gynnydd gyda’r rhaglen drawsnewid, dywedodd y Cynghorydd Llinos Huws, fel aelod o’r Bwrdd Prosiect Moderneiddio Ysgolion, fod y prosiect hwnnw wedi cyrraedd sefyllfa lle 'roedd cynlluniau moderneiddio arfaethedig wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a disgwylir ymateb ar ddiwedd mis Chwefror.