Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 3 2013/14

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol am Chwarter 3 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Busnes a Rhaglen yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn dangos perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer diwedd Chwarter 3 2013/14.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys sylwebaeth ar ddangosyddion mewn perthynas â Rheoli Pobl, Rheoli Perfformiad a Gwasanaethau Cwsmer.

 

Cafwyd crynodeb o’r prif negeseuon ynghylch perfformiad yn Chwarter 3 gan y Rheolwr Cynllunio Busnes a Rhaglen fel y cawsant eu hadlewyrchu yn y Cerdyn Sgorio.  Tynnodd sylw at welliant a gwaethygiad mewn perfformiad lle 'roedd y rheini wedi digwydd ynghyd â’r rhesymau amdanynt; perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol lle 'roedd yn rhagori ar y perfformiad lleol; camau a gymerwyd i reoli perfformiad a phatrymau sy’n dod i’r wyneb mewn meysydd gwasanaeth allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Aelodau sylw i’r Cerdyn Sgorio a’r dystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd a thynnwyd sylw at y materion isod fel rhai yr oeddent yn dymuno cael eglurhad pellach arnynt:

 

           Holwyd pam nad oedd unrhyw ddata rheoli perfformiad ariannol ar gael ar gyfer Chwarter 3.  Nododd yr Aelodau bod angen cydamseru’r amserlenni ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth ynghylch rheoli perfformiad ariannol gyda’r amserlenni ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth rheoli perfformiad am feysydd eraill.  Cytunodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Rheolwr Busnes a Rhaglen gan awgrymu y byddai’r fath amserlen wedi ei sefydlu ar gyfer y dyfodol i adrodd ar reolaeth ariannol ochr yn ochr â meysydd eraill.

           Nifer y dyddiau a gollir i absenoldeb salwch ar gyfartaledd.  Gyda’r pwysau cynyddol ar y gweithlu mewn amgylchedd o newid a thoriadau, nodwyd bod hwn yn faes y mae angen ei fonitro’n agos.  Awgrymwyd y byddai dadansoddiad manylach o’r rhesymau am absenoldeb salwch o fudd i’r Aelodau ddeall y sefyllfa ac fel bod modd rhoi gwell sylw i’r mater er budd y gweithwyr.

           Mynegwyd pryder ynghylch perfformiad a oedd yn is na’r targed mewn perthynas â’r ganran o gyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd, yn arbennig o gofio eu pwysigrwydd fel ffordd o reoli salwch ac i ddwyn sylw at batrymau o absenoldeb.  Roedd y perfformiad gwirioneddol o ran cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith, sef 50% o gymharu â tharged o 90%, yn annerbyniol yn nhyb yr Aelodau a phwysleisiwyd, er gwaethaf cryfder neu wendid  y profforma Dychwelyd i’r Gwaith, dylai cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith gael ei weld fel dyletswydd y mae’n rhaid i reolwyr ei chyflawni, yn arbennig os yw’n ddisgwyliad polisi - nododd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) bod perfformiad yn y maes hwn wedi gwella yn y cyfnod o fis Medi i fis Tachwedd 2013 a bod y Cydlynydd absenoldeb salwch wedi bod yn cefnogi adrannau i reoli absenoldebau salwch.  Os oes polisïau a chanllawiau disgwylir bod rheolwyr yn cydymffurfio â nhw.  Awgrymodd y Cynghorydd Llinos Huws y gallai Aelodau’r Pwyllgor adolygu’r ffurflen cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a’u dychwelyd wedyn i’r Swyddogion am ystyriaeth bellach .

           Nodwyd y diffyg cydberthynas rhwng absenoldeb salwch ac anafiadau yn y lle gwaith ac awgrymwyd y dylid bod cyswllt rhwng y ddau faes er mwyn darparu darlun cywirach o absenoldebau salwch - dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) y gellid cael y data o’r System Northgate ar gyfer Rheoli Gwybodaeth ac y byddai’r Gwasanaeth AD yn cydgysylltu gydag Arweinydd y Tîm Iechyd a Diogelwch i sefydlu’r posibiliadau yn hyn o beth.

           Mewn cysylltiad â Gwasanaeth y Cwsmer ac yn benodol yr amser a gymerir i ateb galwadau ffôn awgrymwyd bod system y prif switsfwrdd yn feius oherwydd nad oes iddo gyfleuster i nodi a yw swyddog yn y swyddfa ai peidio ac ar gael i gymryd galwad a thrwy hynny yn ei gwneud yn amhosibl ymateb i’r cyfnodau amser ar gyfer ymateb i alwadau - dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y dechnoleg ar gyfer gwneud hynny yn cael ei dreialu gyda’r nod o’i ymestyn ymhellach yn y man drwy’r Prosiect Gweithio’n Gallach.

           P’un a oedd y gostyngiad bychan iawn mewn perfformiad yn erbyn dangosydd SCC/01 12a a SCC/43a yng nghyswllt y Gwasanaethau Plant yn awgrymu bod y Gwasanaeth o dan bwysaudywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ei bod yn bosibl dehongli’r data mewn gwahanol ffyrdd.  Dywedodd iddi wneud dau ddadansoddiad o ran cymharu perfformiad gydag un yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf a hefyd yn erbyn y perfformiad cyfartaleddol yng Nghymru y flwyddyn ddiwethaf. Trwy ddefnyddio’r canllawiau hynny fel hidlydd, y dangosydd ynglyn ag asesiadau craidd (SCC/43a) yw’r unig un sy’n dangos gwaethygiad o ran perfformiad o gymharu â sefyllfa’r flwyddyn ddiwethaf a’r cyfartaledd Cymreig.  Mae mater y cynnydd mewn atgyfeiriadau yn cael ei ymchwilio i geisio sefydlu’r cysylltiadau ac mae hyn wedi dangos patrwm yn amrywio dros gyfnod o amser o ran cysylltiadau h.y. y cyswllt cyntaf gyda’r gwasanaeth ac wedyn drosglwyddo’r cysylltiadau hyn yn atgyfeiriadau go iawn.  Roedd y dadansoddiad yn awgrymu bod cwestiwn a oedd y cynnydd mewn atgyfeiriadau yn deillio o gynnydd cyfatebol mewn galw neu a oedd oherwydd ymarfer unigol ar y ddesg flaen.  Fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y plant y gofelir amdanynt, y rhai sy’n destun achos gofal ac yn nifer y plant ar y Gofrestr Diogelu Plant.  Mae’r cerdyn sgorio ym mlwyddyn gyntaf ei weithredu yn erfyn defnyddiol er mwyn amlygu’r materion hyn.

           Mynegwyd siom oherwydd methu’r targed gyda dangosydd SCA/018c ynglyn â % gofalwyr oedolion a gafodd asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn ystod y flwyddyn. Nodwyd y bydd cefnogaeth ariannol y Cyngor i allgyrraedd gofalwyr yn cael ei ostwng 5.2% ac mae hynny yn achos pryder o ran perfformiad i’r dyfodol - dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y gostyngiad 5.2% mewn cefnogaeth wedi ei wneud yn gyson ar draws y trydydd sector.  Mae’r dyraniad o gyllid yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol, ac y mae cyfarfod â’r galw mewn cyd-destun o adnoddau sy’n lleihau yn parhau i fod yn sialens ar draws y sector gofal.  Bu perfformiad Ynys Môn o safbwynt gofalwyr yn eithaf da a thra ei fod yn perfformio’n dda mewn asesiadau mewn perthynas â darpariaeth i ofalwyr, mae lle i wella o hyd yn arbennig o ran cefnogaeth o fewn gofal cymunedol ac ysbaid.

           Awgrymwyd y gellid rhoddi ystyriaeth i gynnwys y raddfa casglu rhent fel un o’r meysydd i’w fesur am berfformiaddywedodd y Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes y bydd y rhaglen gyfredol o ddangosyddion yn cael sylw eto mewn paratoad ar gyfer 2014/15.

           Cwestiynwyd y raddfa casglu Treth Gyngor gyda chyfeiriad arbennig at y targed oedd wedi ei nodi.  Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau mai’r ffigwr oedd wedi ei nodi fel targed oedd y perfformiad ar yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf a bod y raddfa gasglu gyfredol ar y blaen i berfformiad y flwyddyn ddiweddaf dros yr un cyfnod.

           Cyfeiriwyd at danberfformio yng nghyswllt ymweliadau twristiaeth a gofynnwyd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth mewn ffordd sy’n gyraeddadwy o ystyried ei fod yn ddiwydiant mawr ym Môn - dywedodd y Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes bod y data yn y cerdyn sgorio cyfredol wedi dyddio a’i fod yn adlewyrchu’r sefyllfa ym mlwyddyn calendr 2012.  Bydd y data ar gyfer 2013 fel gweddill y DU yn cael ei ryddhau yn yr haf 2014.

 

Penderfynwyd nodi sefyllfa’r perfformiad ar gyfer Chwarter 3 2013/14 fel yr oedd i’w weld yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol.

 

CAM GWEITHREDU’N CODI :  Y Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes i adrodd sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini ynglŷn â’r meysydd oedd yn achosi pryder a chamau lliniaru posibl, i’r Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: