Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  11C607 – Sgwâr Dinorben, Amlwch

12.2  23C309A – Bron Haul, Talwrn

12.3  34LPA991/CC – 44-52 Bryn Meurig, Llangefni

12.4  34LPA991A/CC – 53-62 Bryn Meurig, Llangefni

12.5  46C263M – Parc Carafannau Ty’n Towyn, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

12.6  47C102A – Clwchdernog Bach, Llanddeusant

Cofnodion:

12.1  11C607 Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o doiledau cyoeddus i uned arlwyo yn Sgwar Dinorben, Amwlch

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r tir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

12.2  23C309A Cais amlinellol gyda’r materion i gyd wedi’u cadw’n ôl ar gyfer annedd unllawr a garej ar dir ger Bron Haul, Talwrn

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd R.G. Parry OBE fel Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, fel Aelod Lleol, bod safle’r cais y tu allan i ffin pentref Talwrn a’i fod yn gyfagos i 12 annedd arall.  Roedd o’r farn y dylai’r cais hwn gael ei drin fel cais mewnlenwi a’i nodi fel clwstwr.  Roedd yr ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg a byddai caniatáu’r cais hwn o fudd i gymuned fechan fel Talwrn er mwyn diogelu’r iaith Gymraeg.  Roedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50 ac felly ni fyddai’n tarfu ar fwynderau’r ardal.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at wrthwynebiad yr Awdurdod Priffyrdd i’r cais oherwydd bod y gwelededd yn y fynedfa yn is-safonol.  Nododd bod 6 annedd arall a busnes sy’n defnyddio’r gyffordd hon; roedd o’r farn na fyddai un annedd arall yn cynyddu’r defnydd gan draffig yn sylweddol.  Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y ffordd breifat sy’n arwain i’r safle yn cael ei gwasanaethu gan gyffordd is-safonol a hefyd y gwelededd i’r briffordd gyhoeddus sydd ond tua 5 i 10m.  Awgrymodd y Swyddog y dylai’r ymgeisydd ystyried cael mynedfa arall i’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

12.3  34LPA991/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 44-52 Bryn Meurig, Llangefni

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

12.4  34LPA991A/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 54-62 Bryn Meurig, Llangefni

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

12.5  46C263M Cais llawn ar gyfer lleoli 11 caban coed i bwrpas gwyliau, creu mynedfa newydd a thirlunio yn Parc Crafannau Tyn Towyn, Lon St. Ffraid, Bae Trearddur

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd D.R. Thomas, Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod yr ymgeisydd wedi cytuno mewn egwyddor i gyfrannu tuag at y gost o wella’r llwybr troed i’r pentref ond nid oedd y trafodaethau hynny wedi eu cwblhau hyd yn hyn.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd T.Ll. Hughes annerch y cyfarfod. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T.Ll. Hughes at ymateb y Cynghorydd Thomas fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad, sef bod Cyngor Cymuned Trearddur wedi lleisio pryderon ynglŷn â’r ffordd fynedfa newydd ymlaen i Lôn St. Ffraid a hefyd faterion diogelwch traffig.  Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylai’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â’r safle.                           

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid ymweld â’r safle ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am resymau mynediad, cynefin a’r llwybr troed oedd yn cael ei awgrymu.

 

12.6  47C102A Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliad yn Clwchdernog Bach, Llanddeusant

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir y Cyngor.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: