7.1 15C116E – 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
7.2 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona
7.3 38C237B – Careg y Daren, Llanfechell
7.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol
Cofnodion:
7.1 15C116E – Cais llawn i addasu ac ehangu yn 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Ebrill 2014 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 16 Ebrill 2014.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig yn un i godi estyniad mawr yng nghefn yr eiddo ynghyd â chreu llawr cyntaf ar gyfer yr adeilad allanol presennol. Bydd yr eiddo dair gwaith yn fwy na’r annedd bresennol ac oherwydd maint yr estyniad argymhellwyd gwrthod y cais.
Gan annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol yn unig, dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith fod y teulu yn dymuno cael lle i’w wyrion a fydd yn aros gyda nhw dair gwaith yr wythnos. Mae dau o’r plant yn awtistig ac maent angen llawer o ofal gan aelodau o’r teulu ac mae’n rhaid gwneud trefniadau ar wahân i ddarparu ystafelloedd gwely ar gyfer y ddau fachgen i gwrdd â’u hanghenion ymddygiadol. Dywedodd hefyd y byddai modryb oedrannus yn symud i fyw gyda’r teulu yn y dyfodol agos. Nid yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynderau ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau, dim ond llythyrau sy’n cefnogi gan y cymdogion.
Ategodd Aelod Lleol, y Cynghorydd P. S. Rogers y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Griffith gan ddweud bod gwir angen i’r ymgeiswyr gael lle mwy i fyw oherwydd bod ganddynt rôl fel nain a thaid i blant gydag anghenion arbennig.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn cydymdeimlo gyda’r ymgeiswyr a’u hangen dybryd i gael eiddo mwy ar gyfer eu hwyrion a’r fodryb. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Roedd y Cynghorydd K. P. Hughes hefyd yn cydymdeimlo gyda’r ymgeiswyr ond dywedodd nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes felly y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd y cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Alwyn Rowlands.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
7.2 22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system garthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, gadawodd Mr J.A. Rowlands, Technegydd (Priffyrdd) y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.
Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.
Dywedodd Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Lewis Davies, fod Cyngor Cymuned Llanddona wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â’r safle i bwyso a mesur yr effaith ar yr AHNE a Llwybr yr Arfordir.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid ymweld â’r safle ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â dymuniad un o’r Aelodau Lleol.
7.3 38C237B – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i geir ar dir ger Careg y Daren, Llanfechell
Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Ebrill 2014 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 16 Ebrill 2014.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Miss Sioned Edwards annerch y cyfarfod
i gefnogi ei chais.
Dywedodd Miss Edwards bod y safle’n ffinio’n uniongyrchol â’r rhan o’r pentref oedd wedi ei datblygu a bod modd ystyried y cais felly dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol. Mae Polisi 50 y Cynllun Lleol yn caniatáu eiddo unigol o fewn neu ar gyrion pentrefi ar yr amod na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol ar nodweddion cymdeithasol neu ffisegol yr ardal. Mae tai yn agos i safle’r cais. Dywedodd fod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi dweud mai dim ond 6 o anheddau sydd wedi eu cwblhau yn Llanfechell yn y 10 mlynedd diwethaf. Roedd Miss Edwards yn credu nad oedd y safle yn y cefn gwlad agored ac y dylid ei gymeradwyo.
Dywedodd Aelod Lleol, sef y Cynghorydd J. Griffith, fod yr annedd hon yn un ar gyfer person lleol sy’n dymuno byw yn ei gymuned a dechrau teulu yn y dyfodol. Roedd yn ystyried y dylid cefnogi pobl ifanc leol. Dywedodd y Cynghorydd Griffith hefyd ei fod yn cytuno nad yw safle’r cais yn y cefn gwlad agored ac y dylid ei gefnogi.
Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y posibilrwydd y byddai angen lle pasio ar y ffordd sy’n mynd heibio’r safle. Dywedodd y Prif Beiriannydd nad oeddent yn ystyried yr angen am leoedd pasio fel Awdurdod Priffyrdd.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff M. Evans y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir bod y cais yn estyniad rhesymol i’r pentref.
Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.
7.4 44C294B – Cais llawn i godi tyrbin gwynt 20kW gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y penderfynwyd na fyddai pwerau dirprwyol yn cael eu defnyddio mewn perthynas â datblygiadau tyrbinau gwynt.
Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod y cais wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf fel bod modd i’r Swyddogion gyflwyno rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch nifer y tyrbinau gwynt eraill yn yr ardal. Mae 14 o dyrbinau gwynt a’r ddatblygiad Trysglwyn ac maent yn mesur oddeutu 14m i ben uchaf y llafn. Byddai’r tyrbin arfaethedig wedi ei leoli fwyaf agos i grŵp o 10 o dyrbinau i’r gogledd safle Trysglwyn. Hefyd, byddai effaith gronnol ar dirwedd Mynydd Parys gydag ychwaneg o dyrbinau yn cael eu lleoli i’r de.
Rhoddwyd cynllun o’r safle i’r Pwyllgor yn dangos lleoliad y tyrbinau yn yr ardal. Roedd y cynllun hefyd yn dangos lleoliad safle’r cais o gymharu â’r AHNE a’r SDGA.
Dywedwyd hefyd mai cais yw hwn bellach am un tyrbin ac nid dau fel a gyflwynwyd yn wreiddiol gan yr ymgeisydd. Cafwyd ar ddeall bod y pryderon a fynegwyd yn wreiddiol gan CADW wedi eu datrys o ganlyniad i sylwadau a wnaed gan Wasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd.
Roedd y Cynghorydd A.M. Jones fel yr Aelod Lleol yn cwestiynu faint mwy o dyrbinau y gallai’r rhan hon o’r Ynys eu cymryd. Dywedodd y dylai pob adroddiad ar geisiadau am dyrbinau gynnwys manylion am y tyrbinau eraill yn yr ardal cyn y gallai’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arnynt.
Cefnogwyd sylwadau’r Cynghorydd Jones gan y Cynghorydd R.O. Jones a chynigiodd y dylid gwrthod y cynnig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir y byddai gan y cais effaith gronnol negyddol ar y dirwedd a’r golygfeydd o Fynydd Parys ac oherwydd ei agosrwydd i’r AHNE.
Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad caiff y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
Dogfennau ategol: