Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – 11C554B – The Sail Loft, Porth Amlwch

12.2 – 19C1136 – Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi

12.3 – 19C5R – Ffordd y Traeth, Caergybi

12.4 – 19C792G – Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

12.5 – 19LPA997/CC – 5 Stryd Stanley, Caergybi

12.6 – 20C277G/VAR – Tai Hen, Rhosgoch

12.7 – 34LPA998/CC – 1 Isgraig, Llangefni

12.8 – 39C72E – Clwb Rygbi Porthaethwy, Porthaethwy

12.9 – 43C32D/DA – To Gwyrdd, Pontrhydybont

12.10 – 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur

12.11 – 46C397D – Bryniau, Lôn Penrhyn Garw, Trearddur

12.12 – 46C66J/FR – Garej Progress, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

Cofnodion:

12.1  11C554B – Cais llawn i addasu ac ehangu yn The Sail Loft, Porth Amlwch

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Gynradd Kingsland, Kingsland, Caergybi

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Jeff M. Evans y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio y dylid gohirio’r cais oherwydd materion parcio a phriffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd cael trafodaethau ynghylch materion priffyrdd.

 

12.3  19C5R – Cais llawn diwygiedig ar gyfer adeiladu cofeb ffisegol ar dir i’r gorllewin o’r heneb i goffau’r ymweliad Brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 12 Mai 2014. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.4  19C792G – Cais llawn ar gyfer adeiladu storfa biniau yn Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 9 Mai 2014. Argymhellir cymeradwyo’r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.5  19LPA997/CC – Cais llawn ar gyfer amnewid pedwar o’r ffenestri presennol i’r llawr cyntaf a’r ail o’r edrychiad blaen gyda ffenestri traddodiadol dalennog pren yn 5 Ffordd Stanley, Caerybi

 

Roedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor oedd yn gwneud y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  20C277G/VAR – Cais i amrywio amod (13) (Goleuo) ar ganiatad Cynllunio 20C277 yn Tai Hen, Rhosgoch

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd W. T. Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer y cais hwn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio wedi penderfynu peidio â defnyddio grym a ddirprwywyd iddo mewn perthynas â Datblygiadau Ynni Gwynt ar y Tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff M. Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  34LPA998/CC – Cais llawn ar gyfer creu mynedfa newydd a man parcio yn 1 Isgraig, Llangefni

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y Cyngor yn berchen ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8  39C72E – Cais llawn ar gyfer codi storfa a ystafell fitrwydd a cysgodfa yn Clwb Rygbi Porthaethwy, Porthaethwy

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, gadawodd Mr. Huw M. Percy, Prif Beiriannydd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.9    43C32D/DA – Cais am faer a gadwyd yn ôl ar gyfer gwedd yr adeilad(au) ynghyd a materion diwygiedig a gadwyd yn ôl ar gyfer gosodiad a graddfa yr adeilad(au) ar gyfer codi annedd a modurdy preifat ar dir ger To Gwyrdd, Pontrhydybont

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Dr. W. Roberts annerch y cyfarfod fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais.

 

Dywedodd Dr. Roberts ei fod yn aelod o Gyngor Cymuned Rhoscolyn ac nad oedd wedi bod yn bresennol pan drafodwyd y cais hwn mewn cyfarfodydd o’r Cyngor Cymuned. Dywedodd fod trigolion yr eiddo gyferbyn â’r safle a’r Cyngor Cymuned wedi bod yn erbyn y cais hwn o’r cychwyn. Ystyriwyd bod swyddogion y Cyngor wedi anwybyddu’r sylwadau a wnaed gan y gymuned a’r Cyngor Cymuned. Y prif bryderon oedd bod y cynlluniau newydd yn wahanol iawn i’r caniatâd amlinellol a roddwyd, yn arbennig felly o ran maint yr adeiladau. Yn ail, roedd pryderon ynghylch mynediad oherwydd bod y ffordd o flaen y safle yn gul ac oherwydd defnydd mawr gan draffig o’r ffordd i Roscolyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T. Ll. Hughes, fel Aelod Lleol, at bryderon trigolion lleol ynghylch maint yr annedd arfaethedig, ynghyd â’r traffig trwm sy’n mynd heibio’r fynedfa i’r safle. Dywedodd bod nifer o ddamweiniau wedi digwydd ar y ffordd o Bontrhydybont i Roscolyn. Dywedodd mai cais am annedd dwy ystafell wely oedd y cais amlinellol ond bod y cais erbyn hyn yn un am dŷ teulu sylweddol.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod y caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roi yn 2011. Roedd yn cydnabod bod y cynlluniau diwygiedig yn wahanol a bod arwynebedd llawr yr annedd arfaethedig a’r garej wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r canllawiau yn Nodyn Canllaw 8: Canllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor sy’n ymwneud ag Agosrwydd Datblygiadau. Ystyrir felly bod y cais yn dderbyniol. Dywedodd hefyd nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T. V. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10  46C38S/ECON – Cais llawn ar gyfer codi bwyty ar dir ger Sea Shanty House, Lôn St. Ffraid, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod rhan o safle’r cais ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor. Galwyd y cais i mewn gan un o’r Aelodau Lleol.

 

Fel un o’r Aelodau Lleol gofynnodd y Cynghorydd T.Ll. Hughes am ymweliad â’r safle i asesu goblygiadau llifogydd posib yn yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ymweld ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais a wnaed gan un o’r Aelodau Lleol.

 

12.11  46C397D – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir yn Bryniau, Lon Penrhyn Garw, Bae Treaddur

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Paul O’Loughlin annerch y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr. O’Loughlin fod maint yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol ar y safle wedi cynyddu rhyw ychydig. Bydd uchder yr annedd 1m yn is na’r annedd gyfagos. Mae’r ymgeisydd wedi trafod y cais gyda’i gymdogion yn ystod gwyliau’r Pasg ac roedd yn fodlon eu bod, i bob golwg, yn fodlon gyda’r annedd arfaethedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd T. Ll. Hughes mai maint yr annedd yw’r prif bryder yn yr ardal.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod digon o le ar y safle ar gyfer y cynnig heb amharu ar anheddau cyfagos.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.12  46C66J/FR – Cais llawn ar gyfer codi bloc o chwech o fflatiau a chwech o fodurdai gyda phanelau solar PV ar eu tô ynghyd a gwellianau i’r fynedfa a pharcio yn safle’r hen Garej Progress, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Elfed Williams annerch y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr. Williams mai cais am floc o chwech o fflatiau ar dir llwyd oedd hwn yng nghanol pentref Trearddur. Dywedodd bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar y safle. Y cais a oedd gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oedd un i wella dyluniad y fflatiau ynghyd â chodi lefel y llawr i 4.25m i ddiogelu’r datblygiad rhag unrhyw risgiau o lifogydd posib yn y dyfodol.

 

Roedd Aelod Lleol, sef y Cynghorydd T.Ll. Hughes, yn fodlon bod y datblygwr yn bwriadu codi lefel llawr y datblygiad. Fodd bynnag, dywedodd fod llifogydd mawr wedi digwydd yn Nhrearddur dros fisoedd y Gaeaf. Roedd yn ystyried y dylai’r asiantaethau perthnasol gyfarfod ar fyrder i drafod materion llifogydd yn ardal Trearddur.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: