Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1  11C554C/LB – Llofft Hwyliau, Porth  Amlwch

13.2  12C266K – ABC Power Marine, Porth Lafan, Biwmares

13.3  39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy

Cofnodion:

13.1  11C554C/LB – Cais adeilad rhestredig ar gyfer addasu ac ehangu The Sail Loft, Porth Amlwch

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio y byddai’r cais uchod yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

13.2  12C266K Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu dyluniad y ac addasiadau cyffredinnol i unedau 2 i 5 yn A.B.C. Power Marine, Porth Lafan, Biwmares

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor oedd biau’r tir. Roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi cymeradwyo’r cais ym mis Mehefin 2013.

 

Roedd y cais yn ymwneud ag unedau 2-5 yn unig ac nid oedd yn cynnwys uned 1 fel y dywedwyd yn yr adroddiad i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2013. Cymeradwywyd mân-newid i ddyluniad uned 1 gan yr Awdurdod Lleol yn 2011. Bydd angen caniatâd cyfreithiol newydd yn hytrach nag amrywio’r cytundeb cyfredol a gwblhawyd mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 12C266C. Mae geiriad yr amod arfaethedig hefyd wedi ei ddiwygio fel bod unrhyw nwyddau a werthir neu unrhyw wasanaethau a ddarperir yn ymwneud yn bennaf â materion cychod, arforol neu bysgota.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

13.3  39C285D Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lon Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2014 wedi penderfynu gwrthod y newid i’r penderfyniad a wnaed yn flaenorol mewn perthynas â’r anheddau fforddiadwy, a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf fel bod modd i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.

 

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2013 penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gymeradwyo’r cais ar yr amod bod chwech o’r unedau yn fforddiadwy ar 85%. Mae’r cais cynllunio am 17 o anheddau a byddai 30% o unedau fforddiadwy yn cyfateb i 5.1 o anheddau. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Swyddogion cytunwyd i ostwng nifer y tai fforddiadwy mewn perthynas â’r datblygiad hwn i 3. Cysylltwyd gydag Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy’r Cyngor yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan yr Aelodau ac mae hi wedi dweud bod sicrhau 3 o anheddau fforddiadwy ar 85% o’u gwerth ar y farchnad yn ganlyniad llwyddiannus o gofio’r amcangyfrif o bris gwerthu’r anheddau, sef £116,000.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio hefyd fod yr ymgeisydd wedi datgan y bydd yn apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais. Adroddwyd nad oedd y Swyddog Cynllunio na’r Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy yn gallu cynrychioli’r Cyngor mewn apêl o’r fath.

 

Yn dilyn ystyriaethau PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: