Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 17 Ionawr, 2014

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2014 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

           Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned wrth y Pwyllgor fod trefniadau hyfforddi mewn perthynas â materion diogelu plant a’r Polisi Gwirfoddoli wedi eu cadarnhau ar gyfer diwedd Ebrill a dechrau mis Mai. 

           Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch cychwyn yr ymgynghoriad ar Gyllideb 2015/16 cyn gynted ag y bo modd, esboniodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod y Prif Weithredwr a’r Dirprwy Brif Weithredwr wedi cyfarfod gyda Phenaethiaid Gwasanaeth yr wythnos gynt mewn perthynas â chychwyn y broses a bod cyfarfod wedi ei drefnu rhwng swyddogion ac Aelodau Portffolio ar gyfer Mawrth 24 i drafod y broses o lunio cyllideb gyda golwg ar sicrhau dull amgen o weithredu yn hytrach na gwneud yr un toriad canrannol i bob maes gwasanaeth.  Dywedodd y Cynghorydd Williams na chredir bod modd i’r Awdurdod wneud dim mwy o ran gostwng cyllidebau, ond ei fod yn ceisio bod yn greadigol yn y modd y mae’n rhoi sylw i’r sefyllfa gyllidol.

           Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch i ba raddau y cydgomisiynir gyda’r Adran Iechyd ar hyn o bryd, dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned fod trafodaethau yn parhau ynghylch meysydd sy’n gorgyffwrdd a bod rhaglen ranbarthol hefyd ar gyfer cydgomisiynu sy’n edrych ar wneud iddo ddigwydd mewn ffordd sy’n fwy strategol a strwythuredig.  Nid yw cydgomisiynu yn fater syml pob amser oherwydd bod y gyrwyr yn wahanol.  Mae canllawiau blaenorol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd yn llywio datblygiadau tuag at gryfhau cefnogaeth gymunedol fel bod y pwyslais yn symud i ffwrdd o ofal mewn ysbytai.  Yn Ynys Môn gwnaed ymdrechion i fynd â materion gam ymhellach trwy geisio hyrwyddo trefniadau rheoli integredig.  Dywedodd y Swyddog mai’r amcan yw bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd ar sail y wybodaeth sydd gan y sefydliadau ac yn unol â blaenoriaethau Ynys Môn.  Cyfyd yr anhawster mewn perthynas â sefydlu blaenoriaethau cyffredin ar draws y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru pan fo pob awdurdod yn gweithio o fewn trefniadau ariannol sydd ychydig yn wahanol a phan fo’r proffiliau poblogaeth a’r blaenoriaethau yn wahanol hefyd.  Fodd bynnag, mae’r ewyllys i symud ymlaen yn gryf ac mae trafodaethau yn parhau gyda golwg ar sicrhau bod systemau yn gallu gweithio gyda’i gilydd.  Bydd disgwyliad y bydd hyn yn digwydd mewn dull mwy cynlluniedig a phwrpasol.

           Gofynnodd cynrychiolydd y sector gwirfoddol am i restr o eitemau ar gyfer eu sgriwtineiddio gael ei rhyddhau i gynrychiolwyr y Trydydd Sector.  Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn y byddai’n anfon atynt restr o flaenoriaethau sgriwtini yr oedd ef wedi eu derbyn.  Dywedodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd y byddai ef hefyd yn rhoi sylw i’r mater.

 

Cam Gweithredu yn Codi: Y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd a/neu Prif Swyddog Medrwn Môn i drefnu bod rhestr o eitemau a blaenoriaethau ar gyfer sgriwtini ar gael i gynrychiolwyr y Trydydd Sector ar y Pwyllgor.

 

           Cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd fod bwriad o hyd i drefnu sesiwn friffio ar y broses sgriwtini ar gyfer cynrychiolwyr y sector gwirfoddol ar y Pwyllgor hwn.

           Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn nad yw canllawiau manwl wedi eu cyhoeddi hyd yma gan Lywodraeth Cymru ynghylch compactau lleol yng Nghymru ac unwaith y bydd y canllawiau hynny ar gael byddai’n adrodd arnynt i’r Pwyllgor Cyswllt.

Dogfennau ategol: