7.1 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona
7.2 29LPA996/CC – Maes Maethlu, Llanfaethlu
7.3 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St.Ffraid, Trearddur
Cofnodion:
7.1 22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a’r modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system trin carthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Roedd y cais yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn gan ddau o’r Aelodau Lleol. Cynhaliwyd ymweliad safle ar 18 Mehefin 2014.
Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn aeth Mr John Alun Rowlands, Technegydd Priffyrdd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn bwriadu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog, ac roedd y cais yn awr gerbron y Pwyllgor i’w ailystyried. Dywedodd y Swyddog bod yr Adran Gynllunio wedi ymateb i’r rhesymau dros wrthod, ond gan barhau i argymell y dylid caniatáu’r cais.
Gofynnodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Carwyn Jones am i’r Pwyllgor lynu wrth y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf a gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:-
· Roedd Cyngor Cymuned Llanddona yn unfrydol yn ei farn yn erbyn codi tŷ mawr gyda 5 ystafell wely en-suite.
· Mae’r datblygiad arfaethedig o fewn ardal AHNE;
· Mae Polisi Cynllunio Cymru’n dweud y dylai’r AHNE gael yr un statws â Pharciau Cenedlaethol o ran materion tirwedd.
· Mae’r safle i’w weld yn amlwg o Draeth Coch wrth edrych tuag at Llanddona;
· Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod Aelodau Lleol o dan bwysau i wneud popeth o fewn eu pwerau i ddiogelu ardaloedd o fewn yr AHNE.
· Mae’r cais hwn 87% yn fwy na’r annedd bresennol.
· Mae’r traeth yn Draeth Baner Las.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones nad oedd y Cyngor Cymuned yn erbyn datblygu’r safle ond ei fod wedi dweud y dylai unrhyw annedd newydd weddu gyda’r ardal a’r dynodiad AHNE.
Rhoddodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Lleol grynodeb o’i gynnig o’r cyfarfod diwethaf i gefnogi’r penderfyniad fel yr oedd yn sefyll a gwrthod ailddatblygu oherwydd graddfa, uchder a dyluniad y datblygiad. Pwysleisiodd nad oedd yn erbyn datblygu’r safle, ond awgrymodd y dylid newid ac ailgyflwyno dyluniad a graddfa’r datblygiad arfaethedig. Dywedodd bod safbwyntiau Cyngor Cymuned Llanddona yn bwysig gan eu bod yn cynrychioli’r bobl leol a’r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Davies ymhellach bod Swyddog AHNE y Cyngor wedi lleisio pryderon am yr effeithiau gweledol o’r traeth a’r llwybr arfordirol. Mae’r llwybr arfordirol yn bwysig iawn i dwristiaeth ond gallai hyn greu’r argraff bod y drws yn agored i unrhyw ddatblygiad yn yr ardal gadwraeth hon. Roedd y datblygwr wedi dweud bod y cynnig 40% yn fwy na’r annedd wreiddiol, ond ym marn y Pwyllgor roedd yn fwy na 90%. Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y tebygrwydd y ceid tirlithriadau pellach o ganlyniad i erydu yn yr ardal a dywedodd y dylid archwilio pob cais mewn manylder. Dywedodd ymhellach bod cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid rhoi yr un statws i AHNE ag i Barciau Cenedlaethol. Gofynnodd y Cynghorydd Davies am i’r Pwyllgor lynu wrth yr un penderfyniad â’r un a wnaed yn y cyfarfod blaenorol a gwrthod y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd John Griffith nad oedd yn erbyn datblygu’r safle ond roedd yn gwrthwynebu oherwydd maint yr annedd newydd oedd yn sylweddol fwy.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei dderbyn ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ken Hughes.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Raymond Jones.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac am yr un rhesymau a roddwyd eisoes.
7.2 29LPA996/CC - Cais amlinellol i godi 5 annedd ar dir ymMaes Maethlu, Llanfaethlu
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor Sir yw perchennog y tir. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2014 roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi penderfynu cynnal ymweliad safle cyn dod i benderfyniad. Ymwelwyd â’r safle ar 18 Mehefin 2014.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes, Aelod Lleol y dylid gohirio’r cais fel y gellid cynnal trafodaethau pellach rhwng y Cyngor a’r gymuned leol ynglŷn â mater y fynedfa i’r safle.
Fel Aelod Lleol, eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i ohirio’r cais.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at drafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod diwethaf. Dywedodd bod yr Aelodau’n deall pethau o safbwynt polisi cynllunio, ac y dylid delio â’r cais yn y cyfarfod. Roedd y Swyddogion o’r farn nad oedd unrhyw reswm pam na allai’r cais gael ei gymeradwyo.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y Pwyllgor yn gwneud penderfyniad i ganiatáu neu wrthod y cynnig, a dywedodd nad oedd yn erbyn datblygu’r safle ac mai cais cynllunio amlinellol oedd hwn. Ni chafodd y cynnig ei eilio.
PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn caniatáu i'r ymgeisydd drafod y cynnig gyda'r gymuned leol.
7.3 46C38S/ECON – Cais llawn ar gyfer codi bwyty ar dir ger Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur
Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2014 penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrthod rhoi caniatâd cynllunio a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog, ac am y rhesymau a nodir isod. Ymwelwyd â’r safle ar 18 Mehefin.
Roedd adroddiad wedi ei gyflwyno gan Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio mewn ymateb i’r ddau brif reswm a roddwyd dros wrthod, yn unol â phrotocol y Cyngor.
1. Mewn ymateb i’r perygl o lifogydd, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn caniatáu’r math hwn o ddatblygiad mewn ardaloedd o’r fath. Roedd y datblygiad yn bodloni’r meini prawf ac roedd yr ymgynghorai statudol ar faterion perygl llifogydd yn fodlon gyda’r cynnig. Eglurodd y Swyddog y byddai’n anodd iawn ennill y ddadl mewn apêl heb fod â gwybodaeth i’r gwrthwyneb.
2. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at yr awgrym y byddai colli lleoedd parcio ceir yn creu problemau ar y ffyrdd yn yr ardal. Eglurodd y Swyddog y byddai rhan helaethaf y datblygiad ar y twyni tywod ac nid ar y maes parcio. Dywedodd ei bod yn annhebygol y byddai’r maes parcio yn orlawn yn aml; roedd rheolaeth ar barcio yn yr ardal ac roedd meysydd parcio eraill ar gael.
Mynegodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei bryderon gan ddweud pe bai apêl oherwydd diffyg gwneud penderfyniad neu pe gwrthodid y cais nad oedd y Swyddogion Cynllunio yn hyderus y gallent amddiffyn y penderfyniad ar apêl.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at lythyr gan yr ymgeisydd nad oedd wedi ei dderbyn mewn da bryd i’w gynnwys ar y rhaglen. Darllenodd y Swyddog y llythyr i’r Pwyllgor.
Cyfeiriodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Jeff Evans at yr adroddiad o’r Pwyllgor blaenorol gan wneud y sylwadau canlynol:
· Mae’r safle arfaethedig ar orlifdir
· Mae’r ardal y tu allan ac yn gyfagos i’r Sea Shanty yn broblemus gyda pharcio ceir eisoes yn achosi peryglon ar y ffordd.
· Mae defnydd cynyddol o’r briffordd eisoes yn achosi anawsterau mawr gyda swm y traffig sy’n defnyddio’r ardal
· Nid oes unrhyw wardeiniaid traffig yn yr ardal, neu maent yn brin iawn.
Dywedodd ei fod yn credu nad yw’r sefyllfa wedi newid ers i’r cynnig gwreiddiol gael ei gyflwyno, a bydd y broblem o geir yn parcio ar y ffordd yn cynyddu ymhellach os caiff y cais ei ganiatáu. Cynigiodd y dylid glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Trevor Lloyd Hughes, Aelod Lleol, nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf ond roedd yn cytuno gyda’r rhesymau dros wrthod y cais. Cwestiynodd y Cynghorydd Hughes a oedd y safle yn addas ar gyfer adeiladu a dywedodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon gyda’r cynnig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at adroddiad gan Ymgynghorydd Annibynnol, Brian Killingworth Cyf. dyddiedig Mawrth 2008. Mr. Killingworth oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymgynghoriad ar y cae gyferbyn â’r maes parcio a dyfynodd o’r adroddiad: ‘there is no evidence that the existing and proposed coastal defence works are designed to withstand a 1 in 1000 year storm event and it is clear that the application site would remain vulnerable from flooding even from a 1 in 50 year storm as experienced in Feburary, 2002’. Roedd Adran Priffyrdd y Cyngor yn cytuno bod problemau dwr wyneb yn effeithio ar y maes parcio.
Dywedodd y Cynghorydd Hughes bod Adran Priffyrdd y Cyngor yn cytuno bod y maes parcio yn dal dŵr. Pe bai hyn yn methu, yna byddai’r dŵr yn llifo i’r lôn. Cyfeiriodd at symud y twyni tywod fyddai yn achosi mwy o broblemau o ran llifogydd. Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn cytuno gyda’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd Richard O. Jones y cynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd Raymond Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: