Eitem Rhaglen

Ceisiadau’n Gwyro

10.1  13C141B – Llain y Delyn, Bodedern

 

10.2  30C759 – Fairacre, Benllech

 

10.3  31C134E – Cae Cyd, Llanfairpwll

Cofnodion:

10.1   13C141B - Cais llawn ar gyfer codi 3 phâr o dai pâr ar dir yn Llais y Delyn, Bodedern

 

Roedd y cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor oherwydd bod y safle yn un oedd wedi ei ddyrannu o dan Bolisi 14 a 38 Cynllun Lleol Ynys Môn. Roedd y cais yn un oedd yn groes i’r dynodiad hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig o fewn ffin ddatblygu Bodedern a’i fod wedi ei neilltuo ar gyfer grin bowlio yn 1996.  Dros y blynyddoedd, roedd hanner y cae wedi’i ddefnyddio fel tir datblygu ac roedd gweddill y tir yn addas ar gyfer adeiladu arno.  Roedd Swyddog Tai Gwledig y Cyngor wedi cadarnhau bod angen am y math hwn o dai yn ardal Bodedern.

 

Roedd y Cynghorydd Ken Hughes fel Aelod Lleol yn cefnogi’r cais yn amodol ar wneud Cytundeb Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

Nododd y Cynghorydd John Griffith, fel Aelod Lleol bod problemau carthffosiaeth yn Bron y Graig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2   30C759 - Cais llawn ar gyfer codi annedd newydd ar dir ger Fairacre, Benllech

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn groes i’r Cynllun Datblygu Unedol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.3   31C134E - Cais llawn i godi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Cae Cyd, Llanfairpwll

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor fel cais oedd yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn, ond fel un y gellid ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais tebyg am ganiatâd cynllunio amlinellol wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor ym mis Mai ac i ganiatâd gael ei roi.  Dywedodd bod y cynnig hwn yn gais llawn ond ei fod yn flaenorol yn gais oedd yn groes i bolisi ac yn un oedd y tu allan i ffin ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol, ond o fewn y ffin yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Aeth ymlaen i egluro bod y cais hwn fel cais llawn yn cael ei drin fel cais newydd a bod yn rhaid delio ag ef fel cais newydd. Cyfeiriodd at y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai pryd y gwnaed cais i gymeradwyo 5 tŷ.  Yr unig wahaniaeth yn awr yw edrychiad y tai a sut y byddent yn ffitio i mewn ar safle’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones fel Aelod Lleol y byddai rhai o’r anheddau newydd hyn yn edrych dros y tai eraill yn yr ardal. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at yr asesiad yn y cais amlinellol a hefyd yn y cais hwn.  Roedd yr eiddo agosaf yn Cae Cyd yn agos, ac roedd y Swyddog Cynllunio wedi nodi ac wedi delio â’r mater: nid oedd unrhyw ffenestri’n edrych dros y tŷ drws nesaf, ac ni fyddai’r cynnig yn niweidio’r mwynderau sy’n cael eu mwynhau ar hyn o bryd gan y deiliaid.  Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan y cymdogion.

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Alun Mummery bod y Cyngor Cymuned wedi crybwyll y mater o gael cylchfan yn y fynedfa i’r safle a byddai angen trafod hyn ymhellach gyda Swyddogion Priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Dogfennau ategol: