Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  12C431C/LB – Gwynfa, Biwmares

 

12.2  19C792H – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

12.3  19LPA434B/FR/CC – Canolfan Jesse Hughes, Caergybi

 

12.4  19LPA999/CC – 1 Market Hill, Caergybi

 

12.5  19LPA1000/CC – 42-44 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

12.6  19LPA1001/CC – Sinema yr Empire, 39 Stryd Stanley, Caergybi

 

12.7  31C14V/1 – 34 Cil y Graig, Llanfairpwll

 

12.8  36C328A – Bodafon, Llangristiolus

 

12.9  46C168A/FR – Trearddur House, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

Cofnodion:

12.1   12C431C/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestr bresennol yn Gwynfa, Biwmares.

 

Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands, Aelod Lleol i’r cais gael ei gyflwyno’r flwyddyn ddiwethaf.  Roedd rhan o’r cais yn un i addasu ystafell ym mlaen ac ar ochr yr adeilad fel y gellid cael mynediad i’r anabl.  Roedd yr allanfa bresennol drwy’r drws ffrynt a’r bwriad yw gosod drws Ffrengig lle ceir ffenestr ar hyn o bryd.  Roedd y drws o’r union batrwm a gytunwyd ar gyfer blaen y tŷ yn y cais blaenorol ar 7 Chwefror y flwyddyn hon.  Nid yw gwaelod y ffenestr ond un droedfedd o’r llawr.  Roedd Cyngor Tref Biwmares yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i symud y ffenestr sydd yno ar hyn o bryd a rhoi drws yn ei lle.  Eglurodd nad oedd hwn yn gais cynllunio ond yn gais caniatâd adeilad rhestredig lle byddai CADW yn gwneud penderfyniad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid caniatáu’r cais yn amodol ar newid chwareli’r drws yn unedau gwydro bychan fyddai’n gweddu gyda’r ardal.  Eiliodd y Cynghorydd Raymond Jones y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD argymell i CADW fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog ac yn unol â’r amodau y cytunwyd arnynt gan yr Aelodau.

 

12.2   19C792H - Cais llawn i newid defnydd garej a stordy yn llety byncws ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3   19LPA434B/FR/CC – Cais llawn i atgyweirio’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cysylltiedig a chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.

 

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac arhosodd yn y cyfarfod ond heb bleidleisio na chymryd rhan yn y mater.

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am i’r Pwyllgor ohirio’r cais oherwydd na chafwyd unrhyw ymgynghori ar y dechrau gyda’r Aelodau Lleol perthnasol ac roedd yn disgwyl hefyd am ymateb i gais am wybodaeth a oedd yn berthnasol i’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gohirio’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn disgwyl am ymateb i gais am wybodaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fel Aelod Lleol. 

 

12.4   19LPA999/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn 1 Market Hill, Caergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor ei hun oedd yn gwneud y cais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5   19LPA1000/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn  42-44 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor ei hun oedd yn gwneud y cais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6   19LPA1001/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn Sinema’r Empire, 39 Stryd Stanley, Caergybi

 

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais ac arhosodd yn y cyfarfod ond heb bleidleisio na chymryd rhan yn y mater.

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7   31C14V/1 - Cais llawn i addasu ac ymestyn 34 Cil y Graig, Llanfairpwll

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn Aelodau Lleol.

 

Cafwyd adroddiad llafar gan Mrs Jenny Evans, gwrthwynebydd lleol, i gefnogi ei gwrthwynebiad i’r datblygiad yn Cil y Graig, Llanfairpwll.

 

Dywedodd y byddai’r datblygiad yn cyfyngu ar breifatrwydd oherwydd bod gan y rhan fwyaf o’r anheddau ffenestri sy’n wynebu ei gilydd. Bwriad Butterworth pan oedd yn cynllunio a dylunio’r byngalos oedd diogelu preifatrwydd.

 

Darllenodd Mrs Evans lythyr o wrthwynebiad gan Mr Peter Ogen a Chris Frazer oedd yn cyfeirio at olygfeydd y mwyafrif o’r preswylwyr lleol:-

 

·         Mae dyluniad eiconig i’r byngalos yn Cil y Graig, yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 70au ac nid ydynt wedi eu diweddaru.

·         Mae pob byngalo wedi ei osod yn bwrpasol fel y ceir preifatrwydd ac i ganiatáu golygfeydd.

·         Mae’r byngalos wedi eu hadeiladu mewn siâp anarferol, a byddai adeiladu estyniadau ar flaen y byngalos yn difetha’r bensaernïaeth unigryw.

·         Byddai’r estyniad yn ymestyn i’r ffordd ac ni fyddai’n gweddu oherwydd bod y byngalos mewn cul-de-sac.

·         Nid yw ffryntiadau’r byngalos wedi eu haddasu hyd yn hyn, ac mae’r cynlluniau gwreiddiol gan Butterfield Group, adeiladwyr y byngalos yn dweud:-

 

“that any extension requires the vendor’s approval in addition to the normal planning approval.  If you intend to build any extension, we would be pleased to receive a copy of the plan.  Our objective is to maintain a good standard of appearance for the benefit of everyone.”

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau edrych ar safle’r cais a gwerthuso’r effaith a gâi’r cynnig ar y stad ac ar dai eraill ar y stad.  Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â'r cais a wnaed gan y Cynghorydd Davies. 

 

12.8   36C328A – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn Aelod Lleol. Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid ymweld â’r safle oherwydd bod y safle y tu allan i’r ffin ddatblygu.  Cyfeiriodd at gais blaenorol a wrthodwyd rhai misoedd yn ôl a bod y fynedfa arfaethedig yn fater oedd yn achosi pryder.

 

Penderfynodd Miss Sioned Edwards, siaradwr cyhoeddus, o blaid y cais, na fyddai’n siarad oherwydd materion technegol, ond dywedodd y byddai’n dychwelyd ar ôl yr ymweliad safle i gyflwyno ei hachos.  Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid caniatáu i Miss Edwards siarad yn gyhoeddus yn y cyfarfod cynllunio nesaf.

 

PENDERFYNWYDymweld â’r safle yn unol â'r cais a wnaed gan un o'r Aelodau Lleol. 

12.9   46C168A/FR - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw yn ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn Trearddur House, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod rhan o’r safle yn cynnwys tir  a oedd ym mherchnogaeth y Cyngor ac yr oedd rhybudd wedi ei roi i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies hynny.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: