Eitem Rhaglen

Ceisiadau’n Codi

7.1 14C135A – Glasfryn, Tyn Lon

 

7.2 19C1046C/LB – Soldiers Point, Caergybi

 

7.3 33C302 – Penffordd, Gaerwen

 

7.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

Cofnodion:

7.1       14C135A – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol ar 5 Mawrth 2014 wedi penderfynu ymweld â’r safle i asesu’r cynnig ac yn arbennig y fynedfa arfaethedig i’r safle, cyn gwneud ei benderfyniad. Roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu’r fynedfa fel ag yr oedd yn wreiddiol a hynny oherwydd gwelededd is-safonol.  Ymwelwyd â’r safle ar 19 Mawrth 2014. Yn y cyfamser, ac yn dilyn trafodaethau gyda’r Awdurdod Priffyrdd, cyflwynwyd cynnig newydd er mwyn dod dros y gwrthwynebiad o ran diogelwch y briffordd ac y mae’r cynnig hwnnw yn awr yn destun ymgynghori hyd 10 Ebrill.  Dywedwyd wrth yr Aelodau am y cynnig newydd tra roeddent ar y safle.  Roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn cadarnhau ei fod bellach wedi tynnu ei wrthwynebiad i’r cynnig yn ôl.  Mae’r argymhelliad felly yn un o gymeradwyo ar yr amod na cheir unrhyw faterion newydd yn codi cyn y daw’r cyfnod ymgynghori i ben ac yn amodol ar wneud cytundeb Adran 106 fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ar yr amod na fydd unrhyw faterion eraill yn codi cyn daw’r cyfnod ymgynghori i ben nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais; yn amodol ar gytundeb adran 106 i gyfyngu’r defnydd o’r annedd i bobl leol sydd angen tŷ fforddiadwy yn unol â gofynion Polisi PT2 ac yn amodol ar unrhyw ofynion ychwanegol mewn perthynas â threfniadau mynediad a’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  19C1046C/LB – Cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel rhan or tŷ yn Soldiers Point, Caergybi

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth wedi penderfynu y dylid cynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais hwn ac i hynny ddigwydd ar 19 Mawrth 2014.  Roedd Tîm Atal Tân Bwriadol Llywodraeth Cymru wedi ymweld â’r safle ac wedi nodi bod yr adeilad sy’n destun y cais yn rhoi mynediad i’r prif dŷ.  Roedd y tîm yn argymell y byddai dymchwel yr adeilad oedd yn destun y cais yn rhoi diogelwch yn y tymor hir i’r prif dy.  Dywedodd y Swyddog - ers i’r adroddiad gael ei ddrafftio, fe gafwyd ymatebion gan y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, y Grŵp Georgaidd, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a hefyd Swyddog Cadwraeth y Cyngor ei hun i gyd yn dweud eu bod yn fodlon gyda’r cynnig. Ni chredir y byddai gwaith dymchwel arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar bwysigrwydd pensaernïol na hanesyddol yr adeilad a bydd yn cyfrannu tuag at wella diogelwch y safle a sicrhau y bydd y tŷ gwreiddiol yn goroesi.  Yr argymhelliad felly yw caniatáu, ar yr amod na cheir unrhyw sylwadau gwrthwynebus gan CADW.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn siarad fel Aelod Lleol y byddai’n hoffi gweld yr Awdurdod Cynllunio’n dweud wrth yr Aelodau Lleol sut y bydd y broses o ddymchwel yn cael ei heffeithio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn hapus i gefnogi’r cais o ystyried yr amgylchiadau a hefyd yr angen i gadw ffabrig y tŷ gwreiddiol, a chynigiodd bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ar yr amod na fydd unrhyw sylwadau anffafriol yn cael eu gwneud gan CADW a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.  (Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Ann Griffith ar y mater oherwydd nad oedd yn bresennol yn yr ymweliad safle).

 

7.3  33C302 – Cais llawn i newid defnydd o annedd (C3) i fod yn rhan o (A3) siop i werthu prydau poeth i’w bwyta allan a rhan annedd (C3) ynghyd â chreu lle parcio ychwanegol yn Penffordd, Gaerwen

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2014 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 19 Mawrth 2014.

 

Siaradodd Mr. Elfed Williams gerbron y Pwyllgor yn cefnogi’r cais gan wneud y pwyntiau canlynol:

 

  Mae’r cais wedi ei newid a’i ddiweddaru dros y 6 mis diwethaf yn dilyn gwaith ymgynghori gyda Swyddogion Cynllunio.

  Mae’r swyddogion yn derbyn bod y fynedfa a’r gosodiad newydd yn darparu lle parcio i 7 o gerbydau yn dderbyniol a bod digon o le o fewn cwrtil safle’r cais i gerbydau droi.

  Y cwestiwn i’w ofyn oedd a fydd yna unrhyw beryglon yn codi o ran diogelwch y briffordd ac a oes yna dystiolaeth o’r fath beryglon.  Barn yr ymgeisydd yw nad oes unrhyw dystiolaeth y gellir ei gadarnhau na’i amddiffyn.

  Roedd y cais wedi cael ei graffu’n ofalus gan swyddogion a bernir ei fod yn dderbyniol.

  Nid oes unrhyw beryglon yn codi y gellir eu profi, ac nid oes chwaith unrhyw resymau polisi, technegol na chyfreithiol dros wrthod y cais.

  Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan unrhyw gorff cyhoeddus na gan Heddlu Gogledd Cymru. 

  Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod yr Awdurdod Cynllunio yn ystyried y byddai penderfyniad i wrthod y cais yn un anodd i’w gynnal pe ceid apêl. 

 

Soniodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio am effaith y cynnig ar yr eiddo o’i gwmpas gan ddweud bod safle’r cais wedi ei leoli mewn ardal fasnachol o’r pentref a’i bod yn annhebyg y bydd y cynnig yn cynhyrchu effeithiau mwynderol fyddai’n annerbyniol.  Roedd y trefniadau parcio wedi eu haddasu yn dilyn trafodaethau gyda’r Awdurdod Priffyrdd ac nid oes unrhyw wrthwynebiad ar sail diogelwch y briffordd.  Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw wrthwynebiad gan Heddlu Gogledd Cymru ac nad oedd unrhyw sail dros wrthwynebu o ran defnydd tir.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatáu.

 

Roedd y Cynghorydd Victor Hughes, Aelod Lleol yn cydnabod bod barn broffesiynol Swyddogion Priffyrdd a Chynllunio yn nodi bod safle’r cais wedi ei leoli ar groeslon brysur iawn gyda dwy arosfan bws gerllaw.  Roedd yn credu y byddai’r arosfan bws ar yr A5 yn cael ei defnyddio fel lle stopio a hynny’n golygu y byddai rhaid i fysus stopio ar y briffordd gyhoeddus a thrwy hynny wneud y groeslon yn un fwy peryglus byth.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn credu bod y trefniadau parcio oedd yn cael eu hawgrymu yn annigonol yn arbennig ar nosweithiau Gwener a Sadwrn prysur.  Roedd yn derbyn y byddai darpariaeth i gludo bwydydd poeth i ffwrdd yng Ngaerwen yn lleihau’r troedbrint carbon yn yr ardal ac y byddai rhai’n croesawu’r ddarpariaeth.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Lewis Davies gael eglurhad o sefyllfa’r Awdurdod Priffyrdd.  Eglurodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) y cafwyd pryderon ynglŷn â’r cynlluniau gwreiddiol gan nad oeddent yn cyd-fynd â’r gofynion technegol.  Roedd y cynlluniau diwygiedig yn cydymffurfio ac felly nid oedd unrhyw sail dros wrthwynebu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4  44C294B - Cais llawn i godi tyrbin gwynt 20kW gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol.

 

Adroddwyd ar y cais i’r pwyllgor oherwydd y penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyol yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt. Ymwelodd Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r safle ar 16 Hydref, 2013.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol am i’r Aelodau ailymweld â’r safle oherwydd yr amser oedd wedi pasio ers cynnal yr ymweliad safle blaenorol ac er mwyn caniatáu i’r Aelodau ddod yn gynefin â thopograffi’r ardal, a hefyd oherwydd mai cais yw hwn am un tyrbin gwynt yn hytrach na dau dyrbin yn y cais gwreiddiol.  Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn cefnogi’r cais i gynnal ymweliad safle.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd yna unrhyw newidiadau o ran mesuriadau’r tyrbin a fwriedir o’r cais blaenorol ac mai’r unig newid i’r cynnig oedd ei fod yn awr am un tyrbin yn hytrach na dau. 

 

Roedd y Cynghorydd Victor Hughes yn credu nad oedd angen ailymweld â’r safle a dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn rhannu’r farn honno.  Mewn pleidlais wedyn ar y mater, pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans a Richard Owen Jones o blaid ailymweld â safle’r cais tra roedd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Victor Hughes a Nicola Roberts yn pleidleisio yn erbyn cynnal ail ymweliad safle.

 

O safbwynt yr egwyddor o ddatblygu, eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cael ei gefnogi gan bolisi; roedd effaith weledol y cynnig ar y dirwedd wedi ei asesu ac ystyrir na fydd y cynnig yn cael effaith annerbyniol ar y dirwedd. Tra bod anheddau o fewn y pellter gwahanu 500m rhwng tyrbinau maint canolig ac aneddau sy’n cael ei awgrymu yn y CCA Ynni Gwynt ar y Tir, oherwydd natur y dirwedd a sgrinio, nid oedd yn cael ei ystyried y byddai yna niwed gormodol i’r eiddo hyn.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatáu.

 

Roedd gan rai Aelodau’r Pwyllgor eu pryderon ynglŷn â’r effaith gronnol a gâi tyrbinau gwynt yn yr ardal hon a cheisiwyd cael gwybodaeth am gyfanswm nifer y tyrbinau gwynt y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddynt yn yr ardal.  Ceisiwyd cael eglurhad hefyd ynglŷn ag agosrwydd safle’r cais i’r AHNE a’r SDdGI.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr effaith gronnol wedi ei hasesu gan y Swyddogion Cynllunio a hefyd asesiad yn seiliedig ar yr hyn sydd i’w weld ar safle’r cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn ymddangos bod unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau gwrthod y cais a chynigiodd y dylid ei ganiatáu.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Tynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones sylw at y cyfeiriad a wnaed mewn adran yn yr adroddiad ysgrifenedig ar Fferm Wynt Trysglwyn a nododd nad yw’r adroddiad yn ehangu ar faint nac effaith Trysglwyn mewn perthynas â’r cais.  Nid yw’r adroddiad chwaith yn ehangu ar ofynion y CCA Ynni Gwynt ar y Tir mewn perthynas ag agosrwydd tyrbinau gwynt i anheddau.  Er mwyn cael tryloywder, roedd yn credu ei bod yn bwysig y dylai Aelodau gael gwybod beth oedd nifer y tyrbinau gwynt yn yr ardal a beth oedd eu hagosrwydd i safle’r cais a gofynnodd i’r Swyddogion Cynllunio ystyried hyn fel ymarfer safonol gyda phob cais o’r fath i godi tyrbinau gwynt.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu amser i Swyddogion ddarparu’r wybodaeth ychwanegol i’r Aelodau fel oedd wedi ei awgrymu gan yr Aelod Lleol.  Eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig i ohirio.  Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Richard Owain Jones a Victor Hughes o blaid gohirio’r cais.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r cais fel bod modd i’r Swyddogion Cynllunio gyflwyno rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch faint o dyrbinau gwynt eraill sydd yn ardal y cynnig cyn belled â Fferm Wynt Trysglwyn a’u heffaith gronnol, ynghyd â lleoliad a ffin yr AHNE a’r SDdGR o gymharu â ffin y safle hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: