10.1 19C452E – Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi
10.2 27C95C – Plas Llanfigael, Llanfigael
10.3 33C125L – Cynlas, Gaerwen
Cofnodion:
10.1 19C452E –Cais amlinellol ar gyfer codi 18 o anheddau ar dir yn Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y byddai caniatáu tai ar safle’r cais sydd wedi ei ddyrannu ar gyfer defnydd busnes yn un fyddai’n tynnu’n groes i Bolisi 2 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisïau B2 a B4 Cynllun Fframwaith Gwynedd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais o fewn ffin ddatblygu Caergybi ond ei fod wedi ei ddyrannu ar gyfer defnydd busnes/diwydiannol yn y Cynllun Lleol. Fodd bynnag, roedd cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Canada Gardens wedi ei ganiatáu ar apêl yn 2009 ac roedd y Swyddogion o’r farn nad oedd unrhyw newid mawr wedi bod yn y sefyllfa ers yr amser hwnnw ac a fyddai’n arwain at benderfyniad gwahanol. Pe bai unrhyw newid mewn pwyslais i’w weld, byddai’r pwyslais hwnnw yn ymwneud â lleoli datblygiadau diwydiannol ac/neu fusnes y tu allan i’r dref gyda datblygu Parc Cybi. Roedd dynodiad busnes/cyflogaeth safle’r cais wedi ei wneud yn wreiddiol yn 1996. Nid oedd lle i gredu y byddai caniatáu’r cais yn cael effaith niweidiol ar y cynllun datblygu. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau ar sail dechnegol i’r datblygiad gan unrhyw un o’r ymgynghorwyr statudol ac roedd y materion hyn i’w hystyried ar y cyfnod apêl. Yr argymhelliad oedd cymeradwyo’r cais gyda Chytundeb Adran 106 i ddarparu tai fforddiadwy a chyfraniad terfynol tuag at le chwarae ar Ffordd Llundain a threfniadau cynnal a chadw ar gyfer y ffens acwstig.
Mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones oedd yn siarad fel Aelod Lleol bryderon ynglŷn â’r sefyllfa draffig o fewn ac o amgylch safle’r cais a gofynnodd i’r Swyddog Priffyrdd gadarnhau bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon na fydd unrhyw broblemau’n codi o ganlyniad i’r datblygiad. Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y cais yn cydymffurfio â’r gofynion technegol. Roedd effeithiau’r cynnig ar y briffordd wedi ei sgriwtineiddio ar apêl ac roedd yr Arolygwr yn fodlon nad oedd y pryderon a leisiwyd yn ddigonol i warantu gwrthod y cais, ac roedd y Swyddogion Priffyrdd yn cyd-fynd â’r farn honno.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gais na diddordeb busnes ar hyn o bryd yn y tir dan sylw. Ceisiodd gael eglurhad o beth yr oedd dynodiad tai fforddiadwy yn ei olygu yn yr amgylchiadau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Cytundeb Adran 106 safonol gan Awdurdod Lleol am dai fforddiadwy yn dweud na ddylai annedd fforddiadwy gael ei gwerthu am fwy na chyfran benodol o werth yr annedd ar y farchnad agored yn amodol ar drafod gyda’r ymgeisydd yn seiliedig ar yr ystadegau tai yn ardal y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu bod yr ardal yn addas ar gyfer datblygiad o’r fath a dywedodd ei fod yn credu ei bod yn annhebygol y byddai’r tir yn mynd yn ôl i ddefnydd busnes trwy fod datblygiadau busnes bellach yn cael eu hadeiladu y tu allan i’r dref. Er gwaethaf y sefyllfa draffig, roedd y Swyddogion Priffyrdd yn fodlon gyda’r cais. Cynigiodd felly bod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn amodol ar gytundeb adran 106 ynghylch darparu cartrefi fforddiadwy, ynghyd â chyfraniad ariannol tuag at lecyn chwarae ar Ffordd Llundain a’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 27C95C – Cais llawn ar gyfer ailgodi’r annedd a ddifrodwyd gan dân ynghyd â chodi estyniad yn Plas Llanfigael, Llanfigael
Roedd y cynnig wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau Cynllun Lleol Ynys Môn gyda’r Swyddogion yn bwriadu cymeradwyo’r cais.
Er bod y cais yn un oedd yn tynnu’n groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol roedd y rheolwr Datblygu Cynllunio o’r farn bod amgylchiadau’r achos hwn yn caniatáu iddo gael ei gymeradwyo. Roedd y cynnig yn achub adeilad rhestredig oedd â diogelwch statudol ac yn ei ailfywiogi i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol mewn ffordd fyddai’n ail greu edrychiad yr adeilad gwreiddiol. Nid oedd lle i feddwl chwaith y byddai’r cynnig yn cael effeithiau niweidiol ar fwynderau deiliaid yr eiddo cyfagos. Roedd y cynnig hefyd yn cynnwys estyniad unllawr yn y cefn ac roedd addasrwydd hwnnw wedi ei ystyried o ran ei ddyluniad a’i edrychiad a barnwyd ei fod yn dderbyniol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod yr annedd a ddinistriwyd gan dân yn cael ei hailadeiladu a chynigiodd bod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.3 33C125L – Cais llawn i ddymchwel modurdy presennol, codi annedd newydd sydd yn cynnwys balconi ar yr ochr ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chadw’r fynedfa i’r annedd bresennol yn Cynlas, Gaerwen
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol a Pholisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais y tu allan i ffin y cynllun datblygu fel y mae ym Mholisi 49 y Cynllun Lleol ond yn gorwedd o fewn y ffin ddatblygu yn y CDU a Stopiwyd. Roedd caniatâd cynllunio wedi ei roi yn flaenorol ar sail y pwysau sylweddol oedd yn cael ei roi i’r CDU a Stopiwyd. Roedd y safle yn rhan o’r safle cyfan oedd yn cael ei danddefnyddio a byddai’n safle mewnlenwi fyddai’n gorffen y stad breswyl i gyd. Rhoddwyd caniatâd amlinellol yn 2012 am fyngalo newydd ac annedd ddeulawr ar y safle mewn gosodiad tebyg i’r hyn a geir gyda’r cais hwn. Roedd y cynsail o gael annedd ddeulawr ar y safle felly wedi ei dderbyn. Ni fydd unrhyw effeithiau traffig ychwanegol yn cael ei greu ar ddiwedd y cul-de-sac na’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatáu.
Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes oedd yn siarad fel Aelod Lleol bod pryderon pobl leol ynglŷn ag effeithiau traffig ychwanegol wedi eu lliniaru drwy gael y newid yn y trefniadau mynediad oedd wedi eu bwriadu’n wreiddiol. Cwestiynodd y byddai’r trefniadau draenio dŵr wyneb yn ddigonol i gefnogi’r datblygiad newydd arfaethedig. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod manylion draenio yn dal i gael eu trafod.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod y bydd y manylion draenio’n cael eu datrys a bod unrhyw amodau ychwanegol angenrheidiol yn cael eu cynnwys.
Dogfennau ategol: