12.1 15C116E – 3 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
12.2 19C967C – Cyfleusterau Chwaraeon Millbank, Caergybi
12.3 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona
12.4 34LPA121R/VAR/CC – Ysgol y Bont, Llangefni
12.5 38C237B – Careg y Daren, Llanfechell
Cofnodion:
12.1 15C115E – Cais llawn i wneud y gwaith addasu ac ehangu yn 3 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers gerbron y Pwyllgor fel Aelod Lleol gan wneud y pwyntiau canlynol i gefnogi’r cais –
• Mae safle’r cais mewn lle amlwg iawn ar y ffordd arfordirol rhwng Niwbwrch ac Aberffraw ym mhentref Malltraeth.
• Roedd caniatâd i ddatblygu’r safle arferai fod yn fferm a thir ond gyda’r adeiladau wedi mynd a’u pen iddynt yn gynnar yn 2000.
• Mae’r unedau ar y safle bellach wedi eu cwblhau i safon uchel a byddai’r cais, pe gâi ei ganiatáu, yn cwblhau’r datblygiad ac yn gwella’r ardal sydd i’w gweld yn blaen.
• Roedd llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan ddeiliaid y ffermdy gwreiddiol yn cefnogi’r cynigion.
• Mae angen cael yr estyniad o’r maint a fwriedir er mwyn darparu ystafelloedd gwely ychwanegol i ganiatáu ar gyfer darparu gofal ysbaid i ddau blentyn awtistig y teulu sydd wedi elwa o aros yn y cefn gwlad ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau.
• Mae datblygiad tebyg wedi ei ganiatáu yn flaenorol yn yr ardal mewn lle unig lle rhoddwyd caniatâd cynllunio am hyd at 5 uned. Roedd yr egwyddor o gysondeb yn berthnasol.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol i ateb datganiad a wnaed gan yr ymgeiswyr, ac na fyddai’n pleidleisio ar y mater. Cyfeiriodd at yr ystyriaethau a ganlyn –
• Mae’r adeilad penodol dan sylw yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel gweithdy
• Mae’r ymgeiswyr ar hyn o bryd yn byw mewn bwthyn un ystafell welygydag ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi.
• Mae ganddynt dri o wyrion ac un wyres. Mae dau o’r bechgyn yn
awtistig sy’n golygu bod ganddynt anghenion ymddygiadol.
• Mae’r plant yn byw gyda nain a thaid o leiaf dair gwaith yr wythnos ac
mae angen trefniadau ar wahân i ddarparu ystafelloedd cysgu i’r ddau
fachgen awtistig er mwyn cyfarfod â’u hanghenion ymddygiadol; yr
wyres a hefyd modryb oedrannus fydd yn symud i fyw gyda’r teulu yn
y dyfodol agos ac un y mae’r ymgeiswyr yn gofalu amdani. Mae’n
bwysig ei bod yn cael preifatrwydd er mwyn hyrwyddo ei
hannibyniaeth.
• Mae tŷ presennol yr ymgeiswyr yn rhy fychan ac yn golygu bod yn
rhaid defnyddio’r ystafell fyw ar gyfer trefniadau cysgu.
• Nid yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynderau ac ni chafwyd
unrhyw wrthwynebiadau. Mae yna lythyrau gan gymdogion yn cefnogi.
• Bydd yr estyniad yn ychwanegu at ac yn cwblhau’r gyfres o
fythynnod.
• Mae’r cynnig yn un o 5 bwthyn ac un o 15 mewn clwstwr o anheddau
o wahanol siapiau a meintiau. Gofynnir i’r Pwyllgor gymryd golwg
gadarnhaol ar y cais gan y bydd yn cyfoethogi’r teulu, ac yn fanteisiol
iddynt.
Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn cydnabod yr amgylchiadau personol oedd ynglŷn â’r cais ond roedd y prif faterion yn ymwneud â defnydd tir a chydymffurfio â pholisi. Mae Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn yn caniatáu ar gyfer estyniadau bychan ond gan ddibynnu ar faint, lleoliad a dyluniad ond bydd y cynnig hwn yn creu 255 metr sgwâr yn ychwanegol a hynny’n cyfateb i bron i dair gwaith yn fwy na’r adeilad presennol. Oherwydd maint y cynnig felly, ni all yr Adain Gynllunio gefnogi’r cais gan y bydd yn effeithio ar yr adeiladau allanol sydd yno ar hyn o bryd a bydd yn dominyddu’r ardal oddi amgylch. Gan nad oes unrhyw sail polisi i’r cais, mae’r argymhelliad felly yn un o wrthod.
Ceisiodd Aelodau’r Pwyllgor gael eglurhad o’r cynnig o fewn ei gyd-destun yn arbennig mewn perthynas â’r adeilad deulawr presennol ar y safle. Dangosodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio gynlluniau o’r safle i’r Aelodau a chadarnhaodd bod y cynnig wedi ei leoli o fewn cyfres o adeiladau gyda’r mwyafrif ohonynt yn fythynnod unllawr ond sydd hefyd yn cynnwys adeilad deulawr. Roedd safle’r datblygiad hefyd yn yr AHNE.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd John Griffith. Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn tybio y dylai’r cais gael ei wrthod ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Kenneth Hughes oherwydd y byddai’n torri polisïau cynllunio a hefyd oherwydd maint y cynnig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at amgylchiadau personol yr ymgeiswyr a dywedodd y dylai’r broses gynllunio ystyried pobl a’u problemau. Mae angen yr estyniad arfaethedig i gefnogi dau blentyn awtistig a pherson oedrannus ac efallai bod angen iddo fod yn fwy o faint. Dywedodd ei fod yn cefnogi’r cais oherwydd ei fod yn credu ei fod yn gyfleuster oedd ei angen.
Yn y bleidlais a ddilynodd ar y cais, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Victor Hughes, Richard Owain Jones a Nicola Roberts o blaid cynnal ymweliad safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle fel bod modd i’r Aelodau weld y cynnig yn ei gyd-destun ac fel y buasai’n cael ei weld o’r uned ddeulawr sydd eisoes ar y safle.
12.2 19C967C – Cais llawn i wneud gwaith addasu ac ehangu yng Nghyfleusterau Chwaraeon Millbank, Caergybi
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.
Eglurodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes nad oedd wedi gwneud sylw ar y cais fel Aelod Lleol oherwydd nad oedd wedi ei gynnwys yn y broses ymgynghori oedd wedi ei ymestyn mewn camgymeriad i Aelodau Etholedig ardal arall o Gaergybi.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 22C404A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd a’r modurdy sydd yno ar hyn o bryd a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system garthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod sylwadau Swyddog Cefn Gwlad y Cyngor wedi eu derbyn ers i’r adroddiad ysgrifenedig gael ei ddrafftio. Yng ngoleuni’r materion oedd yn cael eu codi yn sylwadau’r Swyddog, gofynnodd i’r Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gallai’r materion hyn gael eu hystyried.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid gohirio ystyried y cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir.
12.4 34LPA121R/VAR/CC - Cais i newid amod (05) ar ganiatâd cynllunio rhif 34LPA121Q\CC er mwyn newid lliw'r ffliw o wyrdd i ddur gwrthstaen yn Ysgol y Bont, Llangefni
Roedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn gwneud y cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 338C237B – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i geir ar dir ger Gareg y Daren, Llanfechell
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn Aelod Lleol.
Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.
Cyfeiriodd John Griffith, Aelod Lleol at ystyriaethau polisi ac yn benodol Polisi 50 y Cynllun Lleol sy’n caniatáu datblygiadau unigol ar ffin ardal a ddatblygwyd os yw hynny’n rhesymol ac nad yw’n cael effaith ar gymeriad ffisegol yr ardal. Dywedodd ei fod yn derbyn bod y pentref wedi ei ddatblygu cyn belled â safle’r cais ond roedd yn credu y byddai o fudd i aelodau weld safle’r cais drostynt eu hunain ac i weld ei agosrwydd i adeiladau eraill yn y parthau. Cynigiodd y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â'r cais a wnaed gan yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
Dogfennau ategol: