Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy

 

13.2 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

13.1    39C285D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio - yn unol â thelerau’r cytundeb Adran 106 y caniatawyd y cais yn wreiddiol yn unol ag ef, roedd 6 uned tai fforddiadwy i’w ddarparu.  Yn dilyn cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas ag ymarferoldeb y datblygiad arfaethedig ac yn dilyn ymgynghori gyda Swyddog Tai Fforddiadwy’r Cyngor, cafwyd cytundeb y byddai tair uned tai fforddiadwy’n cael eu darparu ac felly yn ostyngiad i’r ddarpariaeth wreiddiol o 3.  Hefyd roedd cynnig y dylai amod cynllunio (23) ar y caniatâd gwreiddiol gael ei newid i ddweud y byddai asesiad llygredd tir yn cael ei wneud wrth i’r datblygiad fynd yn ei flaen yn hytrach na cyn dechrau’r datblygiad. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans pam nad oedd yn bosibl i’r datblygwr fynd yn ei flaen gyda’r bwriad gwreiddiol o 6 uned tai fforddiadwy.  Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn deall bod angen darpariaeth 30% o dai fforddiadwy ac roedd yn bryderus y byddai caniatáu’r gostyngiad yn y ddarpariaeth o unedau tai fforddiadwy ar y cais hwn yn gosod cynsail i ddatblygwyr yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts yn cytuno ac yn gwrthwynebu’r gostyngiad o ystyried nad oedd unrhyw leihad cyfatebol yn nifer y tai oedd i’w darparu ar y datblygiad. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid gwrthod y newid ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai gostwng nifer yr unedau tai fforddiadwy yn gosod cynsail ac er bod y polisi yn darparu canllaw o 30% y mae hefyd yn caniatáu peth hyblygrwydd i adlewyrchu’r ffaith y bydd datblygiadau gwahanol mewn gwahanol leoliadau yn golygu y gall yr anghenion tai fforddiadwy newid oherwydd ffactorau lleol a hynny’n golygu na ellir mynnu ar y ddarpariaeth 30%.  Roedd y mater wedi ei drafod gyda Swyddog Tai Fforddiadwy’r Cyngor ac felly roedd sail gadarn i’r argymhelliad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y newid i amod cynllunio (23) yn cael ei ganiatau ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd -

 

  Gwrthod y newid i’r cytundeb 106 ynghylch darparu cartrefi fforddiadwy

  Cymeradwyo’r newid i Amod (23) yn y caniatâd cynllunio fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

13.2    46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

 

Tynnwyd sylw at ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 7 Mawrth 2014 yn nodi ei resymau dros beidio â galw’r cais hwn i mewn, er gwybodaeth y Pwyllgor.  Gofynnwyd i’r Aelodau nodi bod manylion manwl yr ymrwymiad cynllunio yn awr i’w setlo gyda’r amodau’n cael eu cwblhau a bydd adroddiad ar hynny’n cael ei ddarparu cyn rhyddhau’r penderfyniad cynllunio. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones fel Aelod Lleol ei fod yn dymuno iddo gael ei nodi nad oedd y Gweinidog Tai ac Adfywio wrth iddo ddod i’w benderfyniad i beidio â galw’r cais i mewn wedi ystyried rhinweddau’r datblygiad arfaethedig a bod Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y dylai’r cais fod wedi cael ei alw i mewn.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

Dogfennau ategol: