Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. – ADRODDIAD HWYR
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w ystyried – yr adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch trefniadau cydbwysedd gwleidyddol yn y Cyngor.
Dywedwyd bod angen i’r Cyngor adolygu’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar ei bwyllgorau yn dilyn rhybudd fod un Aelod wedi gadael y Grŵp Annibynnol, a bod Grŵp newydd wedi cael ei sefydlu yn dilyn hynny, sef y Grŵp Chwyldroadwyr ac arno 2 Aelodau a rhybudd fod un Aelod digyswllt wedi ymuno gyda’r Grŵp Annibynnol. Cylchredwyd yn y cyfarfod fatrics newydd a oedd yn nodi nifer y seddau yr oedd gan bob un o’r grwpiau hawl iddynt a nifer y seddau a ddyrennir i Aelodau digyswllt yn ôl yr arfer yn lleol fel y cafodd ei gadarnhau gan y Cyngor ar 5 Rhagfyr 2013.
Dygodd y Cynghorydd Aled Morris Jones sylw at y ffaith bod ei ddynodi ef fel Aelod digyswllt yn gamgymeriad oherwydd mae’n aelod o grŵp gwleidyddol cenedlaethol - y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, a gofynnodd i hynny gael ei adlewyrchu yn y matrics.
Eglurodd dy Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) bod defnydd o’r ymadrodd “digyswllt” yn cael ei dynnu o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac mae’n cyfeirio at y ffaith bod Aelodau, i bwrpas cydbwysedd gwleidyddol, yn rhai digyswllt oni bai eu bod yn aelodau o grŵp ar y Cyngor p’un a ydynt yn aelodau o blaid wleidyddol y tu allan i’r Cyngor ai peidio. Awgrymodd fod y cywiriad yn cael ei gofnodi a bod troednodyn esboniadol yn cael ei ychwanegu at y matrics cydbwysedd gwleidyddol. Cytunwyd y byddai troednodyn yn cael ei gynnwys yn y matrics safonol ar gyfer y dyfodol yn egluro fod “digyswllt” yn golygu’r rheiny nad ydynt yn rhan o’r grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir ar y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at gofnodion y cyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr 2013 a oedd yn adlewyrchu’r ffaith ei fod wedi gofyn i’r Arweinydd a oedd yn arfer dda i gael y ddau Aelod Llafur ar y Pwyllgor Gwaith yn wyneb y ffaith mai nhw oedd yr unig ddau Gynghorydd Llafur allan o gyfanswm y Cyngor o dri deg. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’n darparu ymateb ysgrifenedig i’r cwestiwn ac nad oedd wedi cael yr ateb hwnnw, cadarnhaodd y Cynghorydd Rees ei fod wedi trafod y mater gyda’r Arweinydd a oedd wedi dweud ei fod eisiau sicrhau sefydlogrwydd cyn ystyried unrhyw newidiadau i gydbwysedd gwleidyddol. Gan fod hynny bum mis yn ôl, gofynnodd y Cynghorydd Rees a yw’r Arweinydd yn awr yn bwriadu gweithredu ynglŷn â’r diffyg cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor Gwaith?
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi rhoi sylw difrifol i’r mater ac ail-ddatganodd ei fod yn credu fod sefydlogrwydd yn bwysig. Eglurodd fod y grwpiau Annibynnol a Llafur wedi sefydlu partneriaeth ac fel rhan o’r bartneriaeth honno, penderfynwyd y byddai’r ddau Aelod Llafur yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ac maent wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr. Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd.
Penderfynwyd –
• Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o’r Grwpiau dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1989, a nifer y seddau a roddwyd i Aelodau nad yw cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt yn ôl y matrics.
• Yn unol â’r uchod, bod y Cyngor yn penodi aelodau digyswllt i seddau nad ydynt wedi eu dyrannu ar Bwyllgorau ac yn dirprwyo’r awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gydag Arweinwyr y Grwpiau, i benodi Aelodau digyswllt i unrhyw seddi gweigion a allai godi’n achlysurol yn ystod y flwyddyn.
• Cadarnhau y dylai Aelodau digyswllt, lle mae ganddynt hawl, gadw eu seddau cyfredol ar bwyllgorau am y tro a bod y Cynghorydd Aled Morris Jones yn cael ei benodi i’r sedd wag ar yr Is-Bwyllgor Indemniadau.
• Gofyn i Arweinyddion y Grwpiau ddarparu manylion am aelodaeth pwyllgorau i Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag sy’n bosibl a hynny’n unol â’r newidiadau i aelodaeth a nodwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: