Eitem Rhaglen

Cais am Arian Cyfatebol ar gyfer Grant y Gymuned Ewropeaidd mewn Ardaloedd Gwledig

Derbyn cyflwyniad gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Dywedodd yr Ysgrifennydd bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi dyrannu arian cyfatebol i Menter Môn dros y blynyddoedd. Roedd yr arian cyfatebol hwn yn hollol ar wahân i’r broses gyllido grant blynyddol i gaeau chwarae, neuaddau pentref/cymuned ac ati.

 

O fewn Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fe geir Pwyllgor Adfywio a fu’n ystyried cyllid economaidd a Grantiau Ewropeaidd i Ardaloedd Gwledig.

 

Cafwyd cyflwyniad gan Mr. Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn mewn perthynas â chais am arian cyfatebol o £330,000 ar gyfer derbyn Grant y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru Wledig 2014 – 2019.

 

Dywedodd Mr. Jones y byddai’r cyllid yn denu £2,805,000 o arian yr EARDF a chyllid arall drwy raglen LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig UE i helpu gydag ailstrwythuro economaidd Ynys Môn.  Byddai’r cyllid hwn yn cynnwys y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2014 a 31 Rhagfyr 2017. Roedd ffigyrau’n nodi y byddai cyllid yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cyfateb i 10.5% o gyfanswm cronfa o

£3,135,000.

 

Rhoddodd Mr. Jones fraslun o gefndir Menter Môn o’i sefydlu yn 1995. Nid yw’r cwmni’n dosbarthu elw; mae iddo’r bwrpasau hollol anhunanol o ychwanegu gwerth economaidd a chreu swyddi. Mae Annog Cyf., yn gwmni masnachol atodol i Menter Môn ac mae’r ddau yn cyflogi 65 aelod staff ac yn 2013 fe ddychwelwyd trosiant o £7m.

 

Cytunodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i ddarparu £300k o arian i Menter Môn i gynhyrchu cyfanswm cyllidebol o £3m ar gyfer 2010 - 2014ac yn ystod y cyfnod fe ganolbwyntiwyd ar wneud Gwelliannau mewn Pentrefi a Gwella Mentrau a Gwasanaethau Cymunedol. Cwblhawyd 18 o brosiectau cyfalaf, derbyniodd 15 o gymunedau tref/pentrefi fuddsoddiad, cynghorwyd 25 o grwpiau cymunedol a 219 o unigolion, derbyniodd 41,600 o boblogaeth yr ardaloedd fantais ac elwodd 1,212

o blant o weithiau.

 

Bydd Rhaglen Grant y Gymuned Ewropeaidd 2014 – 2019 yn cael ei dargedu tuag

at :-

·           Ddefnyddio technoleg digidol

·           Hwyluso datblygiad cyn fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwad byr

·           Ymchwilio i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol

·           Ynni Adnewyddadwy ar Lefel Gymunedol

·           Ychwanegu gwerth i hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol

 

Rhai materion a godwyd gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth :-

 

·           Gofynnwyd cwestiynau am y ganran o’r dyraniad grant a dreulir ar weinyddu. Dywedodd Mr. Gerallt Jones y byddai llai na 10% o’r grant yn cael ei ddefnyddio i bwrpasau gweinyddol.

·           Gofynnwyd cwestiynau a oedd yn bosibl i sefydliadau gael grant gan Menter Môn a chan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ar gyfer yr un prosiect. Dywedodd Mr. Gerallt Ll. Jones y byddai angen i’r cais am grant fod ar wahân h.y. am fenter wahanol o fewn y prosiect.

·           Yr angen i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai Tref Amlwch wneud cais am gyllid grant o gronfeydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Nodwyd nad yw Amlwch ar hyn o bryd yn gallu gwneud cais am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel oedd wedi ei nodi yng Ngweithredoedd yr Ymddiriedolaeth.

·           Ceisiodd Aelodau’r Ymddiriedolaeth gael gwybod a oedd cyfrifon terfynol Menter Môn ar gael i’w harchwilio. Dywedodd Mr. Gerallt Jones fod cyfrifon yn cael eu hanfon i’r Adran Ddatblygu Economaidd yn flynyddol. Nododd y byddai’n fodlon iawn i roi copi o gyfrifon ariannol Menter Môn am 2013 i Aelodau’r Ymddiriedolaeth lawn.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach, PENDERFYNWYD :-

 

·           I gefnogi, mewn egwyddor, y cais am arian cyfatebol am Grant Cymuned Ewropeaidd yng Nghymru Wledig;

 

·           Y bydd y Pwyllgor Adfywio yn trafod y mater mewn manylder ynghyd â’r canllawiau ar gyfer dyrannu grantiau arian cyfatebol ac yn adrodd yn ôl i’r cyfarfod llawn nesaf o’r Ymddiriedolaeth Elusennol.