Eitem Rhaglen

Gwiriad Ffitrwydd Caffael ar gyfer Ynys Môn - KPMG

Derbyn cyflwyniad gan y Pennaeth Caffael Dros Dro.

Cofnodion:

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 10 Ebrill, rhoddodd y Pennaeth Dros Dro Caffael gyflwyniad i’r Pwyllgor ar brif ganfyddiadau gwaith gwirio ffitrwydd caffael ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn gan KPMG ynghyd â chamau gweithredu oedd wedi eu cynllunio ar gyfer gwella’r meysydd lle'r oedd diffygion wedi eu nodi fel rhan o raglen gynhwysfawr ar gyfer gwella caffael.

 

(Roedd adroddiad KPMG ar gael i Aelodau’r Pwyllgor fel dogfennau cefndirol)

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Dros Dro Caffael ar y materion canlynol fel rhan o’r cyflwyniad:

 

           Y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan KPMG i gynnal y gwaith gwirio ffitrwydd sydd yn fodel asesu aeddfedrwydd caffael safonol a ddefnyddir ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i werthuso effeithlonrwydd.  Roedd yr agwedd yn cynnwys holiadur ar lein y gofynnwyd i staff perthnasol ei gwblhau ac roedd KPMG wedi paratoi asesiad cychwynnol yn seiliedig ar yr holiaduron o allu caffael yr awdurdod yn unol â model aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru. Cafodd yr asesiad wedyn ei brofi a’i gymedroli mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb a gynhaliwyd ar safle’r Awdurdod gyda rheolwyr caffael allweddol a chydranddeiliaid ar draws yr Awdurdod.

           Roedd hyd a lled y pethau a aseswyd yn cynnwys y canlynol a rhoddwyd graddfa aeddfedrwydd i Gyngor Sir Ynys Môn ar raddfa yn ymestyn o fethu â chydymffurfio fel y raddfa isaf i lefel uwch fel y raddfa uchaf, gyda pherfformiad ar gyfer pob mesur yn cael ei feincnodi yn erbyn nifer gyfartaleddog o awdurdodau Cymru a meincnod sector cyhoeddus y DU.

 

           Arweinyddiaeth a llywodraethiant caffael

           Strategaeth ac amcanion caffael

           Diffinio’r angen cyflenwi

           Strategaethau nwyddau/prosiectau a chaffael at y cyd

           Rheoli contractau a chyflenwyr

           Prosesau a systemau pwrcasu allweddol

           Pobl

           Rheoli perfformiad

 

           Crynodeb o’r camau yr oedd KPMG yn eu hargymell yn erbyn pob dimensiwn o’r model.

           Trosolwg manwl KPMG o’r canlyniadau yn ôl dimensiwn yn cynnwys sylwadau eglurhaol i gefnogi’r canfyddiadau a’r cyfleon ar gyfer gwella.

           Rhaglen yr Awdurdod ar gyfer gwella caffael a’r agweddau o asesiad KPMG y bydd y rhaglen yn rhoi sylw iddynt a sut.

           Y gallu i greu arbedion o ran y gwariant y gellir dylanwadu arno; amcangyfrif o’r arbedion cyffredinol a’r dulliau o ddarparu’r rhain drwy’r rhaglen i wella caffael yn cynnwys nodi arbedion effeithlonrwydd o £2m i £4m dros gyfnod o ddwy flynedd gyda buddsoddiad o £98k yn y swyddogaeth gaffael. 

           Esiampl o broffil o’r gwariant cyfredol yn ôl categori am wasanaethau cynnal a chadw cyffredinol a’r posibilrwydd ar gyfer creu arbedion (yn amodol ar wneud dadansoddiad manwl) o dan y pennawd hwn y gallai agwedd fwy systematig ei sicrhau yn cynnwys camau all arwain at ‘enillion sydynar unwaith.

           Arbedion caffael allweddol mewn meysydd ar draws y Cyngor a’r arbedion tebygol i’w sicrhau.

 

Dilynwyd hyn gyda sesiwn o gwestiynau ac atebion lle rhoddwyd cyfle i’r Aelodau gael gwybodaeth eglurhaol am rai meysydd nad oeddent yn glir yn eu cylch neu eglurhad manylach ynghylch sut y byddid yn rhoi sylw i agweddau arbennig yn cynnwys y canlynol -

 

           Methodoleg a chadernid yr arfarniad

           Gwahaniaethau yn yr ymagwedd sylfaenol tuag at gaffael yn y sectorau preifat a chyhoeddus a sut y gallai’r anghenion am gynhwysedd, tryloywder a thegwch yn y drefn gyhoeddus ei gwneud yn broses fwy cymhleth.

           Diffyg buddsoddiad yn hanesyddol ym maes caffael fel ffactor oedd yn cyfrannu at ddiffyg aeddfedrwydd y swyddogaeth o fewn yr Awdurdod.

           Uwch sgilio staff allweddol fel rhan hanfodol o raglen wella.  Awgrymwyd y dylai’r cynllun gwella nodi’r staff perthnasol a’r amserlen ar gyfer gweithredu hyn.

           Awgrymwyd y dylid defnyddio adnoddau hapddigwyddiad o fewn y gyllideb gorfforaethol i gefnogi’r rhaglen wella.

           Awgrymwyd y dylai’r gwaith o ddatblygu’r swyddogaeth gaffael a gweithredu ar adroddiad KPMG gael ei fonitro gan yr UDA.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod caffael yn faes risg a bydd yn cael ei gynnwys ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ac fe fydd felly’n cael ei dracio a’i fonitro.

           Y camau sydd angen eu cymryd ar unwaith i gaelenillion sydyn”.

           Sut y gall mabwysiadu agwedd fwy cynlluniedig tuag at gaffael leihau’r angen i wneud toriadau mewn ffordd dameidiog trwy alluogi i’r Awdurdod ganolbwyntio ar feysydd o wariant a gostwng y gwariant drwy broses fwriadol.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd yn rhaid i’r buddsoddiad £98k a fwriedir yn y Swyddogaeth Gaffael ar sail gwario i arbed gael ei gefnogi gan Achos Busnes fydd yn nodi’r rhesymeg dros wariant ychwanegol yn erbyn yr arbedion sydd i’w gwneud, a chael ei gymeradwyo wedi hynny gan y Pwyllgor Gwaith.  Cadarnhaodd y Pennaeth Caffael Dros Dro bod yr Achos Busnes yn y broses o gael ei ffurfio.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn cydnabod y byddent yn gallu monitro statws caffael o fewn yr Awdurdod drwy’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac roeddent am nodi eu bod yn dymuno cael eu diweddaru’n barhaus ynglŷn â’r arbedion fyddai’n cael eu gwneud.  Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Caffael y bydd y Model Gwireddu Manteision arfaethedig yn dangos y meysydd oedd dan sylw a’r arbedion a gynhyrchir.

 

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a chydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Pennaeth Dros Dro Caffael. 

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i roi diweddariad i’r Pwyllgor Archwilio yn rheolaidd ar y cynnydd gyda gwneud arbedion yn gysylltiedig â datblygu a gwella trefniadau caffael corfforaethol.