Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2013/14

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes a oedd yn nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol yn y meysydd Rheoli Pobl, Rheoli Perfformiad a Gwasanaethau Cwsmer ar ddiwedd Chwarter 4 2013/14 fel y crynhowyd hynny yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol.

 

Adroddodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes i’r Pwyllgor ar welliannau a / neu ddirywiad mewn perfformiad o gymharu â’r chwarter blaenorol a, lle 'roedd hynny’n berthnasol, o gymharu â’r sefyllfa ar ddiwedd blwyddyn 2012/13.  Tynnodd sylw hefyd at y camau cywiro / lliniarol a oedd wedi cyfrannu at y cynnydd.  Gwnaed sylwadau hefyd ar y perfformiad corfforaethol o gymharu â’r dangosyddion cenedlaethol lle 'roedd hynny’n berthnasol.

 

Yn y drafodaeth ddilynol cyflwynodd yr Aelodau sylwadau ar y materion a ganlyn

 

  Diffyg gwybodaeth ariannol ar gyfer Chwarter 4 - cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio busnes fod trafodaethau a gwaith yn digwydd o ran gwireddu’r gofyn bod raid adrodd ar y flwyddyn gyfredol.

  Bwriadau o ran adolygu’r dangosyddion ar gyfer 2014/15 – cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod Cerdyn Sgorio’n cael ei fireinio ar gyfer adrodd ar y flwyddyn gyfredol a bod gwaith wedi cychwyn i nodi dangosyddion ar gyfer eu tracio.  Cynhelir gweithdai yn y pythefnos nesaf i ddwyn sylw at y dangosyddion mwyaf arwyddocaol.

  Absenoldeb salwch a’r tanberfformiad mewn perthynas â chynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith.  O gofio bod cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith wedi eu nodi fel teclyn i reoli absenoldeb salwch pwysleisiwyd y disgwylir i’r perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn fod yn 100%.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cymuned adroddiad yn benodol ar berfformiad mewn perthynas â’r Gwasanaethau Oedolion, a chan gyfeirio at y ganran o ofalwyr oedolion a gafodd adolygiad / asesiad o’u hanghenion.  Dywedodd bod yr Adran yn uchelgeisiol iawn o ran ei wasanaethau a dangosyddion i ofalwyr a gellir cymryd sicrwydd o’r ffaith ei fod yn perfformio’n sylweddol well yn hyn o beth na’r norm yn genedlaethol.  Mae’r broses yn cael ei hadolygu.  Bu rhaglenni hefyd yn parhau drwy gydol y flwyddyn gyda grwpiau gofalwyr i adolygu’r mathau o wasanaethau y mae defnyddwyr eu hangen ac a fwriadwyd i ychwanegu gwerth.  O ran absenoldeb salwch cadarnhaodd bod rheolwyr ar draws yr Adran wedi cael cais i adolygu a mireinio trefniadau absenoldeb salwch er mwyn cael cysondeb drwy’r Adran gyfan.  Bu mewnbwn y cydlynwr absenoldeb salwch corfforaethol o ran hwyluso’r adroddiadau a gwybodaeth i reolwyr yn hynod o werthfawr.  Roedd yn rhagweld y byddai ffigyrau perfformiad gwell yn y dangosyddion hyn y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) y bu gwelliant o bron i 15% mewn lefelau absenoldeb salwch erbyn diwedd y flwyddyn ariannol o gymharu â data cyfatebol yn 2012/13 oedd yn golygu 2.28 dydd ar gyfer pob Gweithiwr Amser Llawn cyfartaleddog.  Roedd y perfformiad gyda chynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith hefyd wedi gwella gyda’r ganran yn cynyddu o 34% (Ch1) i 59% ar ddiwedd Ch4.  Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelodau bod yr UDA wedi gofyn am gynllun gwella absenoldeb salwch tair blynedd ac mae’r Adain Adnoddau Dynol yn y broses o’i lunio.  Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y bydd swydd y Cydlynydd Absenoldeb Salwch Corfforaethol yn dod i ben ym Mawrth 2015 a bod yr adnodd hwn wedi bod yn greiddiol gyda chefnogi gwasanaethau ar draws y Cyngor i reoli a lleihau lefelau absenoldeb salwch.

 

Dywedodd y Cydlynydd Absenoldeb Salwch mai’r bwriad oedd, yn amodol ar gael caniatâd yr UDA, i’r cynllun gwella tair blynedd gynnwys y mesurau canlynol-

 

  Targedau newydd o fewn gwasanaethau.  Bydd y targed corfforaethol yn parhau yn 10 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

  Polisi absenoldeb salwch diwygiedig lle y bydd unrhyw dri absenoldeb yn gyffredinol (yn hytrach nag o fewn cyfnod o ddau fis) yn golygu y ceir adolygiad presenoldeb.  Bydd hyn yn ceisio mynd i’r afael â’r mater o absenoldebau tymor byr sydd wedi eu nodi fel rhywbeth sy’n fwy amlwg nag absenoldebau tymor hir.

  Bydd y Panel Galluogrwydd Salwch yn cyfarfod er mwyn brysio’r broses i gael adolygiad achos.

  Meddygfeydd absenoldeb salwch i’w cynnal gydag adrannau y mae eu perfformiad yn parhau yn is na’r targed.

  Gwneud gwell defnydd o System Rheoli Gwybodaeth Northgate i nodi patrymau o ran absenoldeb salwch.

 

O ran cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith roedd y Swyddog am bwysleisio y gellir priodoli’r targed oedd wedi ei fethu i’r ffaith bod yr Awdurdod wedi dechrau o sylfaen isel o 32% yn Ch1.  Cafwyd gwelliant o ran perfformiad yn Ch4 ac mae’r adran AD yn hyderus y byddir yn cyfarfod â’r targed ar ddiwedd Ch1 2014/15.

 

Roedd y Pwyllgor yn derbyn yr eglurhad yng nghyswllt y targed a fethwyd ar gyfer cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a cheisiwyd cael eglurhad pellach o sawl cyfweliad Dychwelyd i’r Gwaith sy’n cael eu cynnal o fewn y cyfnod amser 5 diwrnod ac a yw adrannau’n ymgymryd â’r dadansoddiad hwn.  Nodwyd hefyd y mater y byddai’r cyllid yn dod i ben yn 2015 ar gyfer swydd y Cydlynydd Absenoldeb Salwch Corfforaethol ac roedd yr arian hwnnw yn fenter werthfawr o fuddsoddi i arbed.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn fwriad bod y Pwyllgor yn sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini i edrych ar y mater o absenoldeb salwch fel adlewyrchiad o’i ddiddordeb arbennig yn y maes hwn a’i fwriad i fonitro’r agwedd hon o berfformiad yn agos.  Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) y byddai’n ddoeth aros hyd nes bod yr UDA yn rhoi cyfeiriad o safbwynt y cynllun gwella absenoldeb salwch tair blynedd, ac fe ddisgwylir hynny ym mis Mehefin.  Nododd hefyd na fydd y wybodaeth ar gyfer Ch1 2014/15 ar gael hyd fis Gorffennaf ac y bydd yn rhaid trefnu’r cyfarfod o’r Panel i gydfynd gyda’r amser pryd y bydd y data ar gael.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch4 2013/14 a’r sylwadau a wnaed arno.

  Sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini o’r Pwyllgor i archwilio ac i fonitro lefelau absenoldeb salwch a sut y cant eu rheoli o fewn yr Awdurdod ac i gynnwys y Cynghorydd G.O. Jones fel Cadeirydd, Cynghorydd Jim Evans a’r Cynghorydd Peter Rogers ynghyd ag un Aelod arall.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Sgriwtini i gadarnhau’r pedwerydd Aelod o’r Panel yn dilyn ymgynghori gyda’r Aelodau ac i gydlynu cyfarfodydd y Panel.

Dogfennau ategol: