Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 19C1136 – Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi

 

7.2 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona

 

7.3 38C237B – Careg y Daren, Llanfechell

 

7.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

 

7.5 – 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

ADRODDIAD I DDILYN

Cofnodion:

7.1       19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Kingsland

 

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r drafodaeth ar y cais gael ei gohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym Mai 2014 oherwydd materion priffyrdd.  Roedd y materion hynny bellach wedi eu datrys gyda llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan Caban Kingsland yn cadarnhau’r trefniadau parcio.  Ers derbyn y llythyr o gefnogaeth, mae’r Adran Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig.  Yr argymhelliad felly yw un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2       22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system trin carthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn i’r Pwyllgor gan ddau o’r Aelodau Lleol.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth Mr. John Alun Rowlands, Technegydd Priffyrdd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr. Ifan Rowlands oedd wedi gofyn am gael siarad yn y cyfarfod i gefnogi’r cais, yn bresennol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones oedd yn annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol ei fod yn siarad i gyfleu safbwyntiau nifer o breswylwyr pryderus yn Llanddona yn ogystal â safbwynt unfrydol y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais hwn am annedd fawr ar safle arfordirol o fewn AHNE.  Dygodd sylw at y materion canlynol fel rhai a oedd yn peri pryder.

 

           Mae cadw cymeriad y dirwedd hanesyddol o amgylch Traeth Baner Las Llanddona yn bwysig i gymuned Llanddona ac i’r Cyngor Cymuned.  Mae’r ardal arfordirol yn gyforiog o glytwaith o gaeau gyda bythynnod yma ac acw; roedd Cae Maes Mawr yn un o’r hen fythynnod hyn cyn iddo gael ei addasu’n fyngalo.

           Bydd y datblygiad ar y maint a fwriedir gydag annedd â 5 o ystafelloedd gweled gyda 5 ystafell ymolchi ensuite a garej a stablau yn difetha’r olygfa o’r traeth a byddai’n ddolur llygad.

           Mae llethrau Traeth Llanddona yn ardal lle ceir llithriadau tir ac fe gafwyd enghraifft ddifrifol o hyn rhyw ddwy flynedd yn ôl.  Mae rhan o’r llwybr arfordirol wedi ei gau yn ddiweddar ac mae Adran Priffyrdd yn ymchwilio ar hyn o bryd i graciau yn y ffordd i lawr i’r traeth.  Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r posibilrwydd y ceir mwy o lithriadau tir o ganlyniad i’r datblygiad mawr hwn.

           Mae’r ymgeisydd yn dymuno cloddio i gryn ddyfnder oherwydd bod y datblygiad arfaethedig yn sylweddol uwch na’r byngalo gwreiddiol gydag effeithiau posibl i’r ffordd uwchben sydd ar lethr serth.

           Mae safle’r cais i’w weld yn glir o draeth Llanddona hyd at Draeth Coch a bydd hefyd i’w weld yn blaen pan fydd ymwelwyr yn eistedd y tu allan i Westy’r Ship ac yn mwynhau’r golygfeydd.

           Mae Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru yn rhoi'r un statws i AHNE ag i barciau cenedlaethol o ran eu harddwch, tirwedd a golygfeydd a rhaid diogelu’r ddau rhag datblygiadau amhriodol.  Mae’r statws cyfartal hwn yn golygu bod yn rhaid trin y ddau ddynodiad yn yr un ffordd yn ein polisïau a’n penderfyniadau rheoli datblygu.

           Mae Adran 5 o Bolisi Cynllunio Cymru yn delio â diogelu a gwella AHNE ac yn dweud mai prif nod y dynodiad AHNE yw diogelu a gwella eu harddwch naturiol.  Dylai polisïau a phenderfyniadau rheoli datblygu sy’n cael effaith ar yr AHNE dybio o blaid eu harddwch naturiol a dylai roi pwysau ar ddiogelu a gwella’r harddwch, y bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd hyn.

           Gofynnir i’r Pwyllgor ystyried barn unfrydol Cyngor Cymuned Llanddona yn gwrthwynebu’r cynnig hwn a gofynni’r i’r Pwyllgor wrthod y cais a diogelu’r AHNE a fydd, unwaith y caiff ei ddifetha, yn amhosibl i’w adfer.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r prif fater yn codi yng nghyswllt y cais hwn yw ei effaith debygol ar yr AHNE.  Roedd yr Awdurdod Cynllunio yn ymwybodol o gryfder teimladau yn lleol mewn gwrthwynebiad i’r cynnig ac nid oedd yn diystyru hynny.  Roedd y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig yn cydnabod bod angen dod i farn gytbwys iawn gyda’r cais hwn a gan roi sylw i ystyriaethau polisi, roedd y Swyddog o’r farn bod yr annedd newydd arfaethedig o ansawdd a dyluniad uchel fydd yn gweddu gyda’r pethau naturiol o’i chwmpas a hynny heb iddo niweidio harddwch naturiol yr ardal.  Yr argymhelliad felly oedd y dylid caniatáu’r cais.

 

Yn dilyn bod yn bresennol ar yr ymweliad safle, nid oedd y Cynghorydd Jeff Evans yn gallu gweld unrhyw broblemau yn codi fel y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais er y gallai ddeall bod rhai materion yn lleol o ystyried harddwch yr ardal.  Roedd yn credu bod yn rhaid rhoi sylw dyledus i safbwyntiau unfrydol y Cyngor Cymuned fel rhai oedd yn adlewyrchu teimladau’r ardal ac sydd yn aml yn hollbwysig.  Ei dueddiad felly oedd pleidleisio yn erbyn y cynnig a hynny oherwydd y gwrthwynebiadau cyhoeddus, gwrthwynebiadau’r Cyngor Cymuned a hefyd oherwydd y ffin denau oedd rhwng cymeradwyo a gwrthod oherwydd ystyriaethau’r AHNE.

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Lleol am ategu’r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â maint, uchder a dwysedd y datblygiad arfaethedig; y tebygrwydd o gael llithriadau tir pellach yn ardal y datblygiad a’i effeithiau o ran effaith weledol ar yr AHNE ac yn dilyn o hynny, yr argraff anffafriol i ymwelwyr ar ochr arall Traeth Coch.  Cyfeiriodd hefyd at y fynedfa is-safonol a’r tebygrwydd o gael damweiniau ar lôn gul sydd yn arbennig o brysur yn ystod y tymor ymwelwyr.  Pwysleisiodd nad oedd cymuned Llanddona yn gwrthwynebu’r egwyddor o gael datblygiad ar y safle ond yn hytrach i faint y cynnig presennol fydd yn ymwthiol yn yr AHNE. Rhaid hefyd roddi ystyriaeth i safbwynt arbenigol y Swyddog AHNE sy’n cyfeirio at effeithiau andwyol y cynnig ar y dirwedd oddi amgylch yn arbennig yn y gaeaf pan y bydd yn arbennig o weladwy.  Awgrymodd y dylid ailystyried dyluniad y cynnig a’i ddiwygio i gael annedd unllawr fyddai’n toddi i mewn yn well i dirwedd hanesyddol yr AHNE oddi amgylch.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Victor Hughes a fyddai’n briodol gosod amod cynllunio i gyfyngu’r datblygiad i annedd unllawr.  Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd hynny yn bodloni’r meini prawf ar gyfer amod oherwydd ei fod yn cyfateb i newid a fyddai’n rhy sylweddol o gymharu â’r cynnig gwreiddiol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod o’r farn nad oedd rhesymau digonol wedi eu lleisio fel y gellid gwrthod y cais ac y byddai’n anodd amddiffyn ei wrthod mewn apêl.  Roedd y cynnig yn welliant ar y sefyllfa bresennol. Mae yna nifer o anheddau eraill ar y llethr yn yr ardal hon er nad ydynt i’w gweld mor amlwg â’r datblygiad arfaethedig ond roedd y sefyllfa hon yn cael ei lliniaru gan yr ystod o amodau llym oedd yn cael ei gynnig gan y Swyddogion.  Er bod y tir yn un lle roedd tueddiad i gael llithriadau, gall anheddau newydd fod wedi eu hangori’n fwy cadarn i’r ddaear na hen strwythurau.  Am y rhesymau hynny, roedd yn cefnogi’r cais.

 

Roedd y Cynghorydd John Griffith yn rhannu’r pryderon ynglŷn â maint a graddfa’r annedd a gofynnodd a oedd datblygiad a oedd cymaint yn fwy na’r annedd wreiddiol ar y safle yn dderbyniol.  Dangosodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cynlluniau datblygu oedd yn darlunio graddfa’r annedd newydd arfaethedig fel un oedd yn uwch ond yn is ei sylfaen o’i chymharu â’r gwreiddiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod oherwydd ei faint a’i effeithiau ar yr AHNE.  Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig ar sail maint annerbyniol y datblygiad arfaethedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorydd Victor Hughes a Raymond Jones o blaid caniatáu’r cais a phleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans a John Griffith i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.  Ni wnaeth y Cynghorydd W. T. Hughes bleidleisio ar y mater oherwydd nad oedd wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle ac felly nid oedd yn teimlo bod ganddo ddigon o wybodaeth i allu dod i farn.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd yr effeithiau andwyol ar yr AHNE oherwydd maint a dyluniad yr annedd newydd arfaethedig ac a byddai’n amlwg yn y dirwedd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

7.3       38C237B – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa  i geir ar dir ger Careg y Daren, Llanfechell

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor ar gais Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod ym mis Mai, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y cyfnod o fis oedd ei angen ac roedd yn ymateb i’r penderfyniad a wnaed a’r rhesymau amdano.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod argymhelliad y Swyddog yn parhau i fod yn un o wrthod am y rhesymau a roddwyd cyn hynny.  Fodd bynnag, pe bai’r Pwyllgor yn cadarnhau ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais, roedd y Swyddog yn cynnig y dylid rhoi amod benodol ychwanegol yn ogystal â’r amodau cynllunio safonol i ofyn am i safle’r cais gael ei wahanu gan wrychyn oddi wrth y cae cyfagos er mwyn adfer y terfyn i’r pentref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais yn cael ei gadarnhau ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais ac yn ychwanegol i’r amodau cynllunio safonol, bod amod penodol yn cael ei roi ar y penderfyniad yn gofyn am sefydlu gwrychyn i rannu safle’r cais oddi wrth y cae cyfagos.

 

7.4       44C294B – Cais llawn i godi tyrbin gwynt 20kW gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor oherwydd y cytunwyd y byddai’r holl geisiadau am dyrbinau gwynt yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i’w penderfynu.  Yn ei gyfarfod ym mis Mai, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Roedd yr adroddiad felly’n cael ei gyflwyno yn dilyn y cyfnod o fis oedd ei angen mewn ymateb i resymau a roddwyd dros wrthod y cais. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod argymhelliad y Swyddog yn parhau yn un o ganiatáu am y rhesymau oedd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ysgrifenedig ac oherwydd y safbwynt na ellid cefnogi’r rhesymau dros wrthod mewn apêl.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol at un o’r rhesymau a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol fel sail dros wrthod mewn perthynas ag agosrwydd safle’r cais i’r AHNE, a dywedodd bod y safle 3km i ffwrdd oddi wrth yr AHNE ac felly nid oedd unrhyw sail polisi i gyfiawnhau hynny fel rheswm noeth dros wrthod.  Mae’r CCA ar dyrbinau gwynt yn cyfeirio at bellter o 2km yn unig.  Felly nid yw’r rheswm arbennig hwnnw yn atgyfnerthu achos y Pwyllgor dros wrthod pe bai’n dymuno glynu wrth y sefyllfa honno ac fe allai hyd yn oed dynnu oddi wrtho.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn dal i fod o’r farn bod y cynnig yn ychwanegu at effaith gronnol negyddol tyrbinau gwynt yn yr ardal a’i fod yn cael effaith andwyol ar y dirwedd.  Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod cais oherwydd effeithiau cronnol negyddol y cynnig ar y dirwedd ac ar olygfeydd o Mynydd Parys.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn seiliedig ar effeithiau negyddol cronnol y cynnig ar y dirwedd ac ar olygfeydd o Fynydd Parys.

 

7.5       46C38S/ECON – Cais llawn ar gyfer codi bwyty ar dir ger Sea Shanty House, Lôn St. Ffraid, Trearddur

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio Gorchmynion oherwydd bod rhan o safle’r cais ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Roedd Aelod Lleol hefyd wedi galw’r cais i mewn. 

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Eric Roberts annerch y cyfarfod i wrthwynebu’r cais.

 

Gwnaeth Mr. Eric Roberts y pwyntiau canlynol ar ran preswylwyr a Chyngor Cymuned Trearddur:

 

           Materion cyfreithiol ynglŷn â pherchnogaeth y tir.  Ceir ar ddeall i’r tir gael ei roi mewn ymddiriedolaeth dan reolaeth Cyngor Dosbarth Gwledig Y Fali gyda’r amod ei fod yn cael ei ddefnyddio fel amwynder i’r cyhoedd.  Roedd ymholiadau i gael eglurhad ar y sefyllfa ac i wirio cyfreithlondeb yr Ymddiriedolaeth yn parhau.

           Roedd safle’r cais yn agos i’r arfordir ac yn dioddef o lifogydd yn arbennig yn ystod stormydd y gaeaf.  Roedd y cynnig yn y lle anghywir.

           Ni fyddai cais am ddatblygiad preswyl ar y safle’n cael ei ganiatáu oherwydd ei fod wedi ei leoli mewn Parth Llifogydd.

           Roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r datblygiad ac yn gofyn am iddo gael ei ailystyried oherwydd y risg llifogydd.

 

Roedd y Cynghorydd Victor Hughes am egluro i’r siaradwr bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda lefelau llawr gorffenedig y cynnig oherwydd eu bod uwchben y trothwy llifogydd ac roedd yntau yn cyd-fynd â’r farn hon.  Dywedodd Mr. Eric Roberts bod lefelau’r safle oedd gyferbyn yn mynd i gael eu codi rhyw 3-4 troedfedd ac y byddai hynny’n gwneud y sefyllfa yn waeth o ran cadw dŵr ar safle’r cais.  Ceisiodd y Cynghorydd John Griffith gael mwy o wybodaeth gan y siaradwr ynglŷn â’r mater o berchnogaeth y tir.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans fel Aelod Lleol bod yn rhaid datrys y sefyllfa gyfreithiol ddyrys.  Serch y cwestiwn o berchnogaeth y tir, roedd safle’r cais ar orlifdir difrifol sydd yn debygol o waethygu ymhellach wrth i’r tywydd a stormydd cysylltiedig waethygu.  Dywedodd na fyddai cais am ddatblygiad preswyl yn cael ei ganiatáu a dywedodd na allai ef weld y gwahaniaeth rhwng hynny a chynnig masnachol.  Er y dylai’r sefyllfa gyda’r llifogydd ynddo’i hun gyfiawnhau gwrthod y cais, roedd materion eraill ynglŷn â’r fynedfa o safle’r cais i’r briffordd yn ogystal â materion parcio oddi amgylch.  Dywedodd ei fod yn gwrthwynebu’r cais.

 

Siaradodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE gerbron y Pwyllgor ar ran Aelod Lleol, y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes gan ddweud fel a ganlyn –

 

           Mae pryderon mawr yn Nhrearddur ynglŷn â’r gorlifdir ac y mae safle’r cais wedi’i leoli yn ei ganol.  Mae’r gwaith o ddatblygu’r cae criced yn union ar draws y ffordd i safle’r cais wedi ychwanegu at y problemau llifogydd a bydd y sefyllfa’n cael ei gwaethygu ymhellach gan ddatblygiad arall o 80 o dai y tu ôl i’r cae criced gyda’r tir yn cael ei lenwi i mewn i lefel uchel iawn.

           Mae’r datblygiadau hyn gyda’i gilydd yn rhwystro i ddŵr lifo i’r Lasinwen lle bydd yn cael ei gludo allan tua 2 awr yn ddiweddarach ar lanw uchel o’r safle lle bwriedir lleoli’r datblygiad Sea Shanty.  Roedd ffotograffau oedd yn dangos y safle ac yn dangos yn glir mor ddifrifol oedd llifogydd yn yr ardal.

           Mynegwyd siom gyda’r sylwadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn dweud ei fod yn fodlon gyda lefelau llawr gorffenedig y cynnig ar 4.65m gyda’r Cynghorydd Hughes yn teimlo nad oeddent yn ddigonol.

           Byddai’n herio’r honiad y bydd y cynnig yn dod â buddsoddiad a chyfleon am waith i’r ardal o ystyried bod busnesau tebyg yn Nhrearddur ar werth ac/neu yn ailagor ar hyn o bryd yn dilyn eu cau o’r blaen.

           Llai o le i’r cyhoedd barcio ceir a hynny’n arwain at barcio ar y ffordd gyda’r peryglon posibl y mae hynny’n debygol o’u hachosi. 

           Bod yr ystyriaethau canlynol yn hollbwysig

 

           Bod y lleoliad ar orlifdir

           Colli cyfleusterau parcio ceir yn un o’r cyfleusterau traeth yr ymwelir ag ef fwyaf ym Môn ac a ddylai fod yn bryder i’r Awdurdod Priffyrdd ond na wneir unrhyw gyfeiriad ato yn yr adroddiad ysgrifenedig.

           Yr angen i gael cyfarfod gyda’r holl asiantaethau i edrych ar yr holl faterion o lifogydd yn Nhrearddur.

           Pe bai’r tir yn cael ei werthu i’r datblygwr yna rhaid ceisio cael cyngor ynglŷn â thalu iawndal i breswylwyr Trearddur ar ffurf mantais gynllunio i’w roi i’r Cyngor Cymuned ar gyfer mwynderau’r preswylwyr hynny.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd, ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor, wedi cyflwyno cynlluniau newydd sy’n codi lefelau’r llawr gorffenedig o 4.6m i 4.65m.  Oherwydd mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 6 Mehefin 2014, byddai caniatâd cynllunio yn amodol ar beidio â derbyn unrhyw wybodaeth newydd neu faterion newydd yn cael eu codi cyn y daw’r cyfnod ymgynghori i ben.  Roedd y prif bryderon yn ymwneud â risg llifogydd a cholli cyfleusterau parcio.  Roedd yr adroddiad ysgrifenedig yn rhoi sylw i’r materion hynny ac yn dangos na fydd y datblygiad arfaethedig mewn perygl o lifogydd ac na fydd yn gwaethygu’r sefyllfa yn yr ardal. Cyfeiriodd y Swyddog at TAN 15  a dyfynnu o’r cyngor lle y mae’n diffinio’r gwahaniaeth rhwng parth C1 a C2 a’r defnyddiau yn ymwneud â hwy.  Y cyngor a geir yn y TAN yw peidio â lleoli datblygiadau bregus iawn fel rhai preswyl neu lefydd gwyliau o fewn ardaloedd o’r fath.  Fodd bynnag, ystyrir bod datblygiad masnachol fel y bwyty arfaethedig yn llai bregus na datblygiad preswyl.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi ei farn ar y cynnig yn seiliedig ar ei arbenigedd.  Roedd asesiad canlyniadau llifogydd wedi ei wneud ar gais Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r cais wedi ei ddiwygio o ganlyniad.  Yn seiliedig ar y dystiolaeth, yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn ei flaen wedyn i ddangos ffotograffau o’r maes parcio oedd dan lifogydd mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Lewis Davies a dywedodd bod y cais wedi ei ddylunio er mwyn sicrhau na fydd lefel y llifogydd yn y maes parcio yn uwch na lefel llawr y datblygiad ac na fydd y datblygiad chwaith yn crwydro i mewn i’r maes parcio a thrwy hynny yn gostwng ei gapasiti i ddal dŵr llifogydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies na allai gefnogi’r cais oherwydd ei leoliad mewn parth llifogydd ac yn arbennig oherwydd bod y safle wedi ei leoli mewn lle unigryw rhwng Môr Iwerddon a’r Lasinwen yng Nghaergybi a’i fod mewn perygl o lifogydd wrth i’r llanw ddod i mewn a mynd allan ddwywaith y dydd.  Cyfeiriodd at nodweddion daearyddol a meteorolegol sy’n gwneud y safle’n arbennig o fregus i lifogydd a dywedodd bod y sefyllfa yn debygol o waethygu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a’r stormydd dwysach a ddaw’n sgil hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu oherwydd ei fod yn credu y byddai’r datblygiad wedi ei ddiogelu rhag llifogydd a hefyd er mwyn bod yn gyson oherwydd bod datblygiad o fflatiau yn yr ardal ar lefel is na’r cais cyfredol wedi ei gymeradwyo yn y cyfarfod blaenorol.  Eiliodd y Cynghorydd John Griffith ei gynnig i ganiatáu.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Victor Hughes a John Griffith o blaid caniatáu’r cais a phleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans a Raymond Jones i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.  Ni wnaeth y Cynghorydd W. T. Hughes bleidleisio ar y mater gan nad oedd wedi bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle.

 

Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd colli cyfleuster parcio ceir i’r cyhoedd, iechyd a diogelwch y fynedfa i’r briffordd a risg o lifogydd yn seiliedig ar y ffaith bod safle’r cais mewn ardal unigryw wedi ei leoli rhwng y môr agored ar y naill ochr a’r Lasinwen ar yr ochr arall a thrwy hynny yn creu amgylchiadau sy’n ei wneud yn arbennig o fregus i lifogydd.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd. 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

Dogfennau ategol: