Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 29LPA996/CC – Maes Maethlu, Llanfaethlu

 

12.2 30C392A – Maes Parcio Cyhoeddus a Thir Agored Cyfagos, Ffordd Bangor, Min yr Afon, Benllech

 

12.3 32LPA920A/CC – Ysgol y Tywyn, Llanfihangel yn Nhowyn

 

12.4 46C535 – Toiledau Cyhoeddus  Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi

 

ADRODDIAD I DDILYN

Cofnodion:

12.1    29LPA996/CC - Cais amlinellol ar gyfer codi 5 annedd newydd ar dir yn Maes Maethlu, Llanfaethlu

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Adran wedi derbyn deiseb gyda 59 wedi ei harwyddo a hynny ers i’r adroddiad ysgrifenedig gael ei ddrafftio, a hefyd lythyr yn gwrthwynebu a chynlluniau eraill oedd wedi eu comisiynu gan y gymuned.  Roedd y prif faterion yn ymwneud â chydymffurfio â pholisi ac effeithiau ar y dirwedd.  Ystyrir bod safle’r cais yn addas ar gyfer ei ddatblygu o safbwynt polisi a bydd y cynnig yn adlewyrchu’r datblygiad presennol sydd yno a bydd yr effaith yn un niwtral ar yr AHNE dynodedig.  Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Huws yn siarad fel Aelod Lleol bod holl breswylwyr Maes Maethlu wedi arwyddo’r ddeiseb yn gwrthwynebu’r cynnig presennol ac roedd ganddynt bryderon mawr mewn perthynas â’r dyluniad a’r trefniadau parcio.  Nidydynt yn gwrthwynebu’r egwyddor o ddatblygu ar y safle ond maent yn teimlo bod y dyluniad yn amhriodol yn y ffordd y mae’n defnyddio’r safle ac oherwydd y ddarpariaeth o lefydd parcio. Felly, roedd y preswylwyr wedi comisiynu cynlluniau eraill ac aeth y Cynghorydd Huws ymlaen i’w disgrifio.  Soniodd hefyd am y mater o ddarparu tai fforddiadwy gan fynegi pryder mai dim ond dau o’r 5 annedd yn y cais oedd wedi eu dynodi fel tai fforddiadwy ac roedd yn teimlo nad oedd hynny’n ddigonol o ran cyfarfod â’r angen am dai fforddiadwy ar yr Ynys.  Gofynnodd i’r Pwyllgor ymweld â’r safle i weld y cynlluniau eraill hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith i’r cynlluniau newydd a ddrafftiwyd gan y gymuned leol fod ar gael i’r Pwyllgor.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yn rhaid i’r Pwyllgor ddelio â’r cais fel yr oedd wedi ei gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais a wnaed gan Aelod Lleol.

 

12.2    30C392A – Codi canolfan gofal cychwynnol deulawr ynghyd â pharcio cysylltiedig, man agored, tirlunio mynedfa newydd i gerbydau yn y Maes Parcio Cyhoeddus ar dir agored gyferbyn â Ffordd Bangor, Min yr Afon, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod rhan o’r safle ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y prif faterion yn ymwneud â’r egwyddor o ddatblygu, materion priffyrdd a materion mwynderau.  Mae safle’r cais wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Benllech yn y Cynllun Lleol a’r CDU a stopiwyd.  Mae wedi ei leoli yn dda i leihau’r galw am gludiant preifat ac y mae yn ffurf o ddatblygu fydd yn help i wasanaethu anghenion iechyd y gymuned tra’n defnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol.  Ystyrir bod dyluniad cyfoes yr adeilad arfaethedig yn addas i’r lleoliad hwn, ac o ystyried ei berthynas a’i bellter oddi wrth eiddo preswyl cyfagos, y gred oedd na fyddai unrhyw niwed gormodol yn cael ei greu i fwynderau preswylwyr y tai. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau priffyrdd i’r cynnig ac roedd cynlluniau i wella’r ddarpariaeth barcio yn y llyfrgell gerllaw a byddai hynny yn lliniaru unrhyw golli llefydd parcio fyddai’n digwydd ar y safle hwn.  Pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yw gosod y 3 amod ychwanegol canlynol ar y caniatâd

 

           Bod y cynllun rheoli traffig yn cael ei weithredu tra bod y datblygiad yn cael ei wneud.

           Y bydd rheolaeth agos ar y defnydd o oleuadau allanol ar yr adeilad

           Y byddir yn defnyddio gwydr tywyll lle bo hynny’n briodol rhag edrych dros adeiladau cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, a oedd yn siarad fel yr Aelod Lleol bod y cynlluniau i greu canolfan gofal sylfaenol yn yr ardal wedi bod ar y gweill ers 5 mlynedd a bod y ganolfan yn ased y mae mawr alw amdani yn yr ardal.  Nid oedd y sefyllfa gyfredol yn gynaliadwy a chyda’r cynnydd yn y boblogaeth ym Menllech, bu pwysau ar y gymuned i gael canolfan iechyd.  Roedd y lleoliad o fewn ffin ddatblygu’r Cynllun Lleol a’r CDU a stopiwyd ac felly mae’r egwyddor o ddatblygu wedi’i fodloni.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a’r tri amod ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

12.3    32LPA920A/CC   Cais llawn ar gyfer lleoli dosbarth symudol yn Ysgol y Tywyn, Llanfihangel yn Nhowyn

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ac ar ran y Cyngor ac ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Cynllunio yn ystyried ei fod yn dderbyniol rhoi caniatâd am gyfnod dros dro o 5 mlynedd.

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a chyn belled ac na cheir unrhyw sylwadau croes cyn diwedd y cyfnod rhybuddio.

 

12.4    46C535 – Cais llawn ar gyfer newid y toiledau cyhoeddus yn annedd breswyl ynghyd â'i ehangu yn Toiledau Cyhoeddus Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: