Eitem Rhaglen

Rheoli Risg

Derbyn diweddariad ynghylch rheoli risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad yn rhoi diweddariad gan y Rheolwr Risg ac Yswiriant ar y sefyllfa rheoli risg.

 

Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant wrth yr Aelodau - oherwydd yr anawsterau gydag ymwreiddio arferion rheoli risg yn y Cyngor, bydd adolygiad o’r trefniadau rheoli risg cyfredol yn cael ei gynnal gan gwmni allanol fydd yn archwilio’r agweddau oedd wedi eu hamlinellu yn adran 2.2 yr adroddiad.  Cafodd y Gofrestr Risg Corfforaethol ei hadolygu gan y Penaethiaid a’r UDA ym Mehefin 2014 ac roedd y risgiau oedd wedi eu rhestru yn adran 3.1 yr adroddiad yn rhai a nodwyd fel rhai risg uchel.  Yn dilyn gwaith i liniaru’r risgiau, roedd y risgiau oedd wedi ei rhestru yn adran 3.5 yr adroddiad wedi eu gostwng i risgiau statws canolraddol.

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad a gwneud y sylwadau a ganlyn ar y wybodaeth a gyflwynwyd:

 

           Mynegwyd pryder a siomedigaeth nad oedd unrhyw gynnydd gweladwy wedi ei wneud ers y diweddariadau blaenorol o ran symud ymlaen ag arferion rheoli risg ar draws yr Awdurdod a gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r disgwyliadau o safbwynt ymwreiddio rheoli risg o fewn y Cyngor.

           Ceisiwyd cael eglurhad o’r rhesymau o symud risgiau cyllidebol YM08 ac YM33 at i lawr.  Awgrymwyd bod y rhain yn parhau i fod yn risgiau lefel uchel o ystyried eu bod yn dibynnu ar gyflawni’r rhaglen arbedion.

           Roedd pryder fod y risg YM31 mewn perthynas â diogelu data yn parhau i gael ei gategoreiddio fel risg uchel er iddo gael ei amlygu gan y Pwyllgor hwn fel maes oedd angen gweithredu adferol ar unwaith.  Awgrymwyd bod y cyfrifoldeb am sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw a’i ddatrys yn cael ei gymryd ar lefel gorfforaethol.

           Nodwyd y dylai rhoi sylw i risg YM49 mewn perthynas â chasglu incwm mewn ffordd effeithiol wrthbwyso risg YM47 mewn perthynas â bod heb ddigon o gyllideb i fodloni’r ymrwymiadau presennol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod cynnydd wedi ei wneud yn yr ystyr bod Cofrestr Risg Gorfforaethol wedi ei sefydlu a’i bod yn awr yn cael ei hystyried yn fisol gan y Pwyllgor Gwaith yn anffurfiol mewn ymgynghoriad â’r UDA.  O safbwynt diogelu data, mae Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth wedi ei sefydlu ac mae’n gweithio i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â risg YM31 ac mae llawer o gynnydd wedi ei wneud gyda hyn.  Dywedodd yr Arweinydd hefyd ei fod yn dymuno sicrhau’r Pwyllgor Archwilio bod gweithdrefnau bidio cyfalaf newydd wedi eu cyflwyno a phan fo angen adnoddau cyfalaf, yn ogystal â’r prosesau arferol, bydd y Gofrestr Risg Corfforaethol yn cael ei defnyddio i werthuso blaenoriaethau.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r diweddariad a’r sefyllfa y mae’n ei hadlewyrchu.

           Gofyn i’r Dirprwy Brif Weithredwr fynychu’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio i adrodd ar y sefyllfa mewn perthynas â rhoi sylw i faterion diogelu data a Llywodraethu Gwybodaeth gyda’r disgwyl y bydd cynnydd sylweddol wedi ei wneud mewn perthynas â’r mater hwn.

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Dirprwy Brif Weithredwr i roi adroddiad ar gynnydd ar y Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth i’r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod nesaf.

Dogfennau ategol: