Eitem Rhaglen

Opsiynau ar gyfer Llety i Bobl Hyn - Garreglwyd

Cyflwyno adroddiad ynghylch yr uchod.

 

(Atodiad 1 – Adroddiad Trosolwg ar y Broses Ymgynghori i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn amlinellu camau arfaethedig mewn perthynas  â gwerthu Cartref Preswyl Garreglwyd ar ôl i’r broses ymgynghori ar y bwriad i werthu ddod i ben.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r rhesymeg a oedd wrth wraidd y cynnig i werthu Garreglwyd yn seiliedig ar asesiad o anghenion a wnaed gan y Gwasanaeth, yn ogystal â negeseuon allweddol a gafwyd yn sgil ymgynghori gyda  chydranddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb.  Atodwyd  adroddiad ar y Trosolwg o’r Ymgynghoriad.

 

Rhoddodd Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnwyd am ragor o eglurhad gan y Swyddogion mewn perthynas â’r materion isod -

 

  Y penderfyniad i beidio â gwneud unrhyw ymrwymiad comisiynu gyda’r gwerthiant.

  Y ffordd y mae’r Cyngor yn bwriadu sicrhau y bydd Garreglwyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer pobl sydd â dementia ac i gwrdd ag anghenion yr henoed bregus eu meddwl yn wyneb yr asesiad o anghenion sydd wedi dangos yn eglur bod angen datblygu’r ddarpariaeth o ran y gefnogaeth a’r llety sydd ar gael i’r rheini sy’n byw gyda dementia.  Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wireddu’r amod hwn yn y gwerthiant.

  Camau a gymerir i ddiogelu budd y staff a goblygiadau TUPE ar gyfer darpar brynwr.

  Yr angen hanfodol i flaenoriaethu gofal ar gyfer trigolion cyfredol Garreglwyd.

  Ar ôl ystyried y broses ymgynghori ar y bwriad i werthu Garreglwyd gyda’r amod ei fod yn cael ei werthu i’w ddefnyddio, gorau oll, fel cyfleuster dementia arbenigol, a yw’r Gwasanaeth wedi ei fodloni bod y trigolion a’u teuluoedd yn argyhoeddiedig mai hon yw’r ffordd orau ymlaen iddynt a’r opsiwn gorau ar gyfer eu gofal.

  P’un a yw’r ystod o ddarpariaethau gofal yn ardal Cybi yn ddigonol i gwrdd ag anghenion trigolion Garreglwyd ar hyn o bryd a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud.

  P’un a yw’r rhagolygon o fedru darparu dewis yn realistig ac wedi eu cefnogi gan amrediad o opsiynau cymorth.

  A oes unrhyw drefniadau wedi eu gwneud i sicrhau nad yw darpar brynwr wedyn yn gwerthu’r adeilad a’r safle i ddibenion ac eithrio darparu gofal.

  Cysylltiadau gydag Ysbyty Stanley mewn perthynas â gofal dementia.

  Yr angen i ddiogelu ethos Cymraeg cartref preswyl Garreglwyd i’r dyfodol.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a ofynnwyd gan nodi na fydd llawer o’r cynlluniau manwl yn cael eu cwblhau nes y bydd yr opsiynau pendant mewn perthynas â’r defnydd o Garreglwyd ar ôl ei werthu wedi eu cadarnhau.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn croesawu’r dull hwn o weithredu ar gyfer gwerthu Garreglwyd mewn perthynas â’r amod o ran y defnydd o’r cartref a fyddai’n cael ei ffafrio ac roeddent hefyd yn cefnogi’r cynnig yn yr adroddiad ar yr amod bod pwys arbennig yn cael ei roi ar ddefnyddio Garreglwyd fel cyfleuster dementia arbenigol ar ôl ei werthu ac i ystyriaethau mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg.

 

Penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn mabwysiadu argymhelliad yr adroddiad fod Garreglwyd yn cael ei werthu i’w redeg, gorau oll, fel cyfleuster dementia arbenigol neu ddarpariaeth gofal preswyl preifat neu nyrsio preifat yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad a chyda’r argymhelliad ychwanegol bod pwys yn cael ei roi ar y ddarpariaeth dementia ac ar ystyriaethau mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg.

 

DIM CAM GWEITHREDU YN CODI

Dogfennau ategol: