Eitem Rhaglen

Cyllideb 2014/15

Cyflwyno’r Gyllideb am 2014/15. (I Ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn amlinellu’r canlyniadau amodol ar gyfer 2013/14 ynghyd ag argymhellion ynghylch dyraniadau cyllidol ar gyfer 2014/15.

 

Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro fod y canlyniadau rhagamcanedig fel y cawsant eu diweddaru a’u crynhoi yn nhabl 2.5 yr adroddiad yn dangos fod gan gronfeydd refeniw’r Ymddiriedolaeth warged o £210k ar 31 Mawrth, 2014 a bod modd rhagamcanu canlyniadau 2014/15 a 2015/16 yn seiliedig ar amcangyfrif o dwf o 3% ar yr incwm a fuddsoddir.

Rhagwelir felly y bydd £471k ar gael i’w wario yn 2014/15 a £484k yn 2015/16.

 

Roedd y gyllideb ar gyfer 2014/15 fel y cafodd ei hadlewyrchu yn yr adroddiad ysgrifenedig yn cynnig yr isod

 

·           Dyraniad o 200k i Oriel Ynys Môn yn unol â’r strategaeth i ostwng cyllid ar gyfer yr Oriel a fabwysiadwyd fel rhan o’r broses o bennu cyllideb 2013/14.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda Mr Hywel Eifion Jones ac yn wyneb sefyllfa ariannol yr Oriel dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro ei bod yn argymell y dylid codi’r dyraniad o £215k i £220k.

 

·           Dyraniad o £66k i neuaddau pentref.

 

Yn dilyn trafodaethau dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro ei bod yn argymell codi’r dyraniad hwn i £80k.

 

·           Dyraniad o £50k i gyfleusterau cymunedol ac ar gyfer mân-grantiau

 

Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro ei bod, ar ôl iddi gael trafodaethau, yn argymell glynu wrth y dyraniad o £50k ond y dylid codi lefel pob grant unigol o £6k i £10k y flwyddyn.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod y penderfyniad i fabwysiadu strategaeth i ostwng cyllid ar gyfer Oriel Ynys Môn wedi ei wneud yn rhannol i greu gwahaniad clir rhwng darpariaeth a wneir gan y Cyngor a chyfrifoldebau'r Ymddiriedolaeth fel endid elusennol. Ar hyn o bryd mae Oriel Ynys Môn

yn cael rhai anawsterau o ran cwrdd â’i thargedau incwm ac mae perygl o orwariant. Mae Mr Hywel Eifion Jones yn cynnig gwyro oddi wrth y strategaeth ar gyfer eleni i ganiatáu ar gyfer gwneud dyraniad uwch i’r Oriel. Fodd bynnag, rhaid i'r Ymddiriedolaeth ddod i benderfyniad ar lefel y cyllid i’r Oriel yn annibynnol ar bersbectif y Cyngor.

 

Mewn perthynas â’r dyraniad arfaethedig ar gyfer cyfleusterau cymunedol a mân-grantiau, dywedodd yr Ysgrifennydd wrth yr Ymddiriedolwyr yr amcangyfrifir bod cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau, sef 9 Mai (cyn iddynt gael eu harchwilio ar gyfer cydymffurfiaeth gyda meini prawf cyllido’r Ymddiriedolaeth) yn £137k, sydd yn bell y tu hwnt i’r £50k a

argymhellwyd fel cyllideb i’w dirprwyo i'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i’r pwrpas hwn. Yn ogystal, mae ceisiadau eraill am gyllid wedi dod i law neu yn yr arfaeth, gan gynnwys ceisiadau gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac Urdd Gobaith Cymru sy'n cael sylw yn y cyfarfod heddiw. Fodd bynnag, mae gwario y tu allan i ffiniau’r gyllideb yn golygu defnyddio cyfalaf yr Ymddiriedolaeth o £18m ac mae hynny’n rhywbeth y gall yr ymddiriedolwyr ei wneud os ydynt yn dymuno. Fel ymddiriedolwyr, mae angen i’r Aelodau gadw mewn cof fod gwerth y gronfa yn medru gostwng yn ogystal â chodi gan ddibynnu ar berfformiad y farchnad.

 

Rhoddodd aelodau'r Ymddiriedolaeth sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd gan nodi bod ganddynt awydd cynyddu’r gyllideb ar gyfer cyfleusterau cymunedol i gydnabod angen cymunedau am gyllid ac oherwydd bod yr erthyglau yn dweud “y gall Ymddiriedolwyr, ar unrhyw adeg neu adegau yn ôl eu disgresiwn, dalu neu weithredu’r cyfan neu unrhyw ran neu rannau o'r cyfalaf yng nghronfa’r Ymddiriedolaeth i hyrwyddo dibenion elusennol mewn unrhyw fodd y gwêl yr Ymddiriedolwyr yn ddoeth”. Nodwyd hefyd y gallai gwerth y ceisiadau ostwng ar ôl i’r broses o’u didoli ddod i ben oherwydd bod ceisiadau nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf cyllido yn cael eu hanwybyddu.

 

Roedd Mr Kenneth Hughes yn dymuno nodi, o gofio’r rheoliadau mewn perthynas â llywodraethu’r Ymddiriedolaeth ac er gwaethaf y ffaith ei fod yn cefnogi Oriel Ynys Môn, ei fod yn anghyfforddus gyda defnyddio arian yr Ymddiriedolaeth i gefnogi'r Oriel oherwydd ei fod yn credu fod hynny’n

tynnu’n groes i'r rheoliadau.

 

Cynigiodd Mr Alun Mummery y dylid awdurdodi’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo’r holl geisiadau sy'n cydymffurfio gyda’r meini prawf cyllido sydd gan yr Ymddiriedolaeth, gan wneud yn glir y byddai hynny heb ragfarn i unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol a bod rhan o gronfa

gyfalaf yr ymddiriedolaeth yn cael ei defnyddio i’r perwyl hwn os bydd angen. Eiliwyd ei gynnig gan Mr Lewis Davies.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod rheolaeth ariannol dda yn golygu pennu cyllideb ac yna ymdrechu i lynu wrthi. Oni fydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol yn gallu cydymffurfio gyda'r gyllideb a ddyrannwyd dylai roi gwybod i’r Ymddiriedolaeth

a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw wariant ychwanegol. Os oedd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn dymuno cymeradwyo'r ceisiadau a dderbyniwyd yn eu cyfanrwydd, yna fe awgrymodd y dylid rhoi sylw i addasu cyllideb 2014/15 i £137k fel bod modd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol gyllido’r holl geisiadau os bydd yn dymuno gwneud hynny. O ran sefydlu cynsail ar

gyfer blynyddoedd y dyfodol, er gwaethaf cynnwys amod, mae cam o’r fath yn gosod cynsail.

 

Cynigiodd Mr Aled Morris Jones welliant, sef bod y dyraniad ar gyfer cyfleusterau cymunedol a mân-grantiau yn codi i £100k ar gyfer 2014/15 yn unig ar y sail bod sefyllfa cronfa’r Ymddiriedolaeth yn iach ar hyn o bryd ac yn caniatáu ar gyfer cymryd cam o’r fath. Cefnogwyd ei gynnig gan Mr W.T.Hughes. Yn dilyn pleidlais ar y mater cafodd y cynnig gwreiddiol a wnaed gan Mr Alun Mummery ei gario.

 

Mewn perthynas ag Oriel Ynys Môn, roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Ymddiriedolaeth yn cytuno y dylid codi’r dyraniad i £215k yn 2014/15 oherwydd yr anawsterau yr oedd yr Oriel yn eu cael o ran cyrraedd targedau incwm, ond pwysleisiwyd y dylid rhoi mwy o sylw i’r trefniadau cyllido ar gyfer

Oriel Ynys Môn gyda golwg ar ddatrys y materion sydd wedi codi, gan ddychwelyd y flwyddyn nesaf i’r strategaeth o ostwng y cyllid ar gyfer yr Oriel.

 

Yn dilyn trafodaeth lawn penderfynwyd

 

·           Mabwysiaducyllideb ar gyfer 2014/15 fel a ganlyn:

 

·        £215k ar gyfer Oriel Ynys Môn (pleidleisiodd Mr Kenneth Hughes yn erbyn y cynnig hwn am y rheswm a roddwyd uchod)

·        £80k ar gyfer Neuaddau Pentref

·        Cyfleusterau Cymunedol a Mân-grantiaugweler isod

 

·        Mewn perthynas â chyfleusterau cymunedol a mân-grantiau, awdurdodi’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo’r holl geisiadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau os ydynt yn cydymffurfio gyda’r meini prawf cyllido sydd gan yr Ymddiriedolaeth, a hynny heb ragfarn i unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol a bod rhan o’r gronfa gyfalaf yn cael ei defnyddio i’r pwrpas hwn os bydd angen.

 

·        Dychwelyd i’r strategaeth ariannol a’r trefniadau cyllido ar gyfer Oriel Ynys Môn yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.

Dogfennau ategol: