Eitem Rhaglen

Grantiau Blynyddol 2014/15

Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

(Adroddiad Hwyr)

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Gwneir y dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r categorïau canlynol o brosiectau:-

 

·         Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)

·         Grantiau Eraill (yn bennaf grantiau bychan unwaith yn unig)

 

Yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill, 2014 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn i awdurdodi’r Pwyllgor hwn i gymeradwyo’r holl geisiadau a dderbyniwyd erbyn yr amser cau ac a oedd yn cydymffurfio â meini prawf cyllido’r Ymddiriedolaeth heb ragfarn i unrhyw benderfyniadau mewn blynyddoedd i ddod a bod rhan o’r gronfa gyfalaf yn cael ei defnyddio i’r pwrpas hwn pe bai angen hynny.  Dywedodd yr Ysgrifennydd bod 5 cais wedi ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau am grant.  Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn na ddylid ystyried y ceisiadau hyn. 

 

Roedd y Swyddogion perthnasol o’r adrannau penodol wedi ystyried ac wedi blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd i’r graddau y gellid gwneud hynny ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, y meini prawf a sefydlwyd mewn blynyddoedd blaenorol ac o fewn swm y cyllid oed ar gael i bob dyraniad.  Roedd argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.   Roedd system gyfeirio ar y cyd wedi ei defnyddio ar gyfer y grantiau a roddwyd gerbron y pwyllgor hwn ac am geisiadau grant i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru; bydd unrhyw fylchau yn y rhifau cyfeirnod wedi eu hachosi oherwydd i’r grantiau hynny gael eu rhoi ymlaen i Gronfa’r  Eglwys yng Nghymru yn hytrach nag i’r Ymddiriedolaeth.  Nodwyd bod y ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol’ gyda chopi ohono ynghlwm fel Atodiad C i’r adroddiad.

 

Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf am 2014/15 fel a ganlyn:-

 

4.   Digwyddiadau Carnifal Llanfairpwll

Gwella safon yr ystafelloedd newid a chegin

(NIL)

(Nid y sefydliad yw perchennog yr adeilad ac nid oes ganddo brydles arno)

 

5.   Canolfan Gymuned      Brynsiencyn

I uwchraddio’r system wresogi am un sy’n fwy ynni effeithlon a rhatach i’w redeg

£1,844

(Yn amodol ar ymestyn eu prydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y cwôt ariannol hwn)

 

6.   Clwb Dinasyddion Hŷn Millbank

Addasu tolied i’r anabl a thrwsio wal derfyn y tu allan

 

£6,000

(Hyd at 70% o’r cwôt isaf, uchafswm dyraniad fydd £6,000)

 

7.   2474 Cadetiaid Awyr (Cefni)

Uwchraddio systemau cyfrifiadurol fel gall y cadetiaid astudio ac eistedd arholiadau ar y sylabws Cadetiaid Awyr, yn arwain at gymwysterau 4 BAETIWCH.  Hefyd i wella’r profiad hedfan

 

£2,320

 

10. Cyfeillion Pentraeth

 

Creu ardal chwarae saff i’r gymuned leol

(NIL)

(Byddai’r ardal ar libart yr ysgol, ac nid yw felly’n gymwys i dderbyn cyllid)

 

11. Ffederasiwn Sefydliad y Merched Ynys Môn

Uwchraddio’r neuadd yn Llanfairpwll (gorchudd rhag glaw i’r to)

£2,520

(Neuadd Llanfairpwll yw cartref Sefydliad y Merched cyntaf ym Mhrydain a byddant yn dathlu eu can mlynedd yn 2015)

 

13. Parc Ffrindiau Pandy

Llwybr a chylchfan i roi mynediad i gadair olwyn yn y lle chwarae

(NIL)

(Dim digon o wybodaeth gyda’r cais)

 

14. Clwb Rygbi Llangefni

Prynu a gosod dugouts

 

(NIL)

(Dim digon o wybodaeth gyda’r cais)

16. Neuadd Eglwys Gymunedol Moelfre

Uwchraddio’r system wresogi

(NIL)

(Dim yn gymwys oherwydd eu bod wedi derbyn)

 

18. Institiwt Pritchard Jones Cyf

Gosod ffenestri newydd ym mwthyn rhif 4

(NIL)

(Dim yn fath o gynllun y mae’r Ymddiriedolaeth wedi ei gefnogi o’r blaen)

 

19. Clwb Rygbi Porthaethwy

Adeiladu ystafell ffitrwydd / storio offer

£6,000

(Yn amodol ar iddynt ymestyn eu prydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon)

 

20. Malltraeth Ymlaen Cyf

I ddatblygu ardal chwarae yng nghymuned Bodorgan

(NIL)

(Dim yn gymwys oherwydd iddynt dderbyn grant yn 2012/2013)

 

22. Cymdeithas Chwaraeon Llanfairpwll

Ystafelloedd Newid

(NIL)

(Dim digon o wybodaeth gyda’r cais)

 

23. Neuadd Gymuned Bryn Teg

Uwchraddio’r ffenestri a’r drysau tân

 

£4,274

 

27. Cymdeithas Cae Cybi

Gwelliannau i’r ardal chwarae

70% o’r cwôt isaf, grant wedi’i chapio ar £3,720

 

28. Cyngor Cymuned Cwm Cadnant

Gwaith trwsio allanol

£6,000

(Cais i ail-rendro rhag i damprwydd ddod i mewn i’r eiddo sydd yn un Restredig Graddfa 2)

 

29. Canolfan Gymuned Llanfaes

Gwelliannau i’r Ganolfan yn cynnwys ffenestri, dau ddrws a gwterydd

£4,935

(Yn amodol ar adnewyddu’r brydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon.  Y rhagamcan isaf a gyflwynwyd yw am £7,050)

 

30. Neuadd Bentref Talwrn

Prynu offer, teledu Fawr, Chwaraewr DVD a System Gemau Cyfrifiadur i’r Ystafell Ysgol Feithrin ac OHP a Sgrin Fawr i’r Brif Neuadd.  Ysgoldy’r Feithrinfa yw’r enw a roddwyd i’r ystafell a byddai defnydd cymunedol i’r offer

 

£1,284

32. Cymdeithasol Lenyddol Leinws

Cyllid ar gyfer Siaradwyr / Darlithwyr

(NIL)

(Dim yn gymwys a’u cyfeirio at ffynonellau eraill o gyllid)

 

33. Canolfan Gymuned Moelfre

Uwchraddio’r cyfleusterau i’r gymuned leol – y safle 5 bob ochr

70% o’r cwôt isaf, y grant wedi’i chapio ar £4,756

(yn amodol ar dderbyn ail gwôt)

34. Gwasanaeth Gwirfoddoli Arforol

Prynu deunyddiau hyrwyddol, addysgol, i hyfforddi ac offer diogelwch ar gyfer rhaglen o hyfforddiant cymunedol am ddwy flynedd

70% o’r cwôt isaf, y grant wedi’i chapio ar £2,850

(Wedi darparu dadansoddiad o’r costau ond angen cyflwyno rhagamcanion gan gyflenwyr)

 

38. Clwb Ieuenctid Newry

I brynu offer chwarae i’r clwb

70% o’r cwôt isaf, y grant wedi’i chapio ar £1,324

(Clwb ieuenctid Gwirfoddol i blant 5-11 oed.  Yn amodol ar dderbyn ail gwôt)

 

39. Canol Llwyfan Boston

Ail-beintio y tu allan i’r neuadd

(NIL)

(nid yw’r Ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau tuag at ail-beintio)

 

40. Ysgol Parc y Bont – Cymdeithas Rhieni Athrawon

Adeiladu llwybr coed a wal goed pêl-doed

(NIL)

(Mae’r caeau chwarae yn rhan o Ysgol Parc y Bont, ac felly nid ydyw'n gymwys i dderbyn cyllid)

 

41. Grŵp Rhwydwaith Cymru Dysgu Awyr Agored Ynys Môn

I redeg 2 ddiwrnod addysgol a 2 ddiwrnod yng Ngŵyl Coedlan Ynys Môn

(NIL)

(Dim yn gais penodol ac felly ddim yn glir i beth y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio)

 

45. Cae Chwarae Llangoed

I brynu Ffrâm Ddringo

(NIL)

(Diffyg gwybodaeth yn y cais)

 

46. Canolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch

Drysau newydd yn ffrynt yr adeilad

(NIL)

(Dim yn gymwys oherwydd iddynt dderbyn grant yn 2013/2014)

 

47. Neuadd Cymuned Benllech a Chyn-filwyr

Uwchraddio a newid gwaith trydan y neuadd a gosod goleuni LED

 

£6,000 

 

48. Clwb Cychod Cemaes

Prynu RIB addas (cwch y gellir ei phwmpio) i’w defnyddio fel cwch diogelwch

 

£3,500

 

49. Pwyllgor Cae Chwarae Tregele

Prynu offer chwarae

£6,000

(Mae’r Pwyllgor wedi derbyn grantiau eraill o £24,000)

 

50. Cyngor Cymuned Llaneilian

Wyneb diogelwch newydd yng nghaeau chwarae Penysarn

 

£2,923

 

52. Cae Chwarae Llanfaethlu

Prynu seti a byrddau i’r parc

£2,224

(Yr amcangyfrif rhataf a gyflwynwyd yw £3,177)

 

53. Menter Mechell

I helpu i gyllido prynu’r hen Swyddfa Bost yn Llanfechell.  Bydd yn cael ei adfer a’i addasu gan breswylwyr y pentref fel siop ym mherchnogaeth y gymuned a chanolfan gymdeithasol i’r gymuned

 

£6,000

(Mae’r grŵp wedi codi £123,000 tuag at brynu’r adeilad a byddai’r grant yn eu galluogi i bron iawn gyrraedd eu targed)

 

54. Cyngor Cymuned Kingsland

Adnewyddu’r system gwres canolog

£6,000

(Yn amodol ar dderbyn prawf o ddeiliadaeth)

 

55. Ffrindiau Parc y Gors

Gwelliannau i’r cae chwarae

70% o’r cwôt isaf, wedi’i gapio ar £6,000

 

56. Pwyllgor Cae Chwarae Bodffordd

Trwsio’r wyneb diogelwch, ail-dywarchu ardal ar gyfer chwarae pêl-droed, seti newydd, goliau pren a bin sbwriel newydd

 

70% o’r cwôt isaf, wedi’i gapio ar £2,310

59. Cyngor Cymuned Tref Walchmai

Adnewyddu a thrwsio cofeb/cloc y pentref

£6,000

(Mae’r Cyngor Cymuned wedi sicrhau grantiau £16,922 o ffynonellau eraill.  Gan nad oes ond un cwmni yn yr ardal hon sy’n gwneud gwaith o’r math hwn, nid ydynt ond yn gallu cyflwyno un dyfynbris)

 

60. Unigolyn Preifat

Cyhoeddi llyfr o farddoniaeth

NIL

(Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn cyllid)

 

62. Clwb Pêl-droed Trearddur

Fel y gall clwb pêl-droed cymunedol gweithredol barhau

 

(NIL)

(Dim un cynllun penodol wedi ei nodi ar y cais a dim dyfynbrisiau wedi’u cyflwyno)

 

64. Cyngor Cymuned Bryngwran

Ffensio newydd i ardal chwarae gymunedol

£2,398

(Bwriad y Cyngor Cymuned yw newid yr hen ffens weiren gyda ffens newydd nid yn unig i wella’r cae chwarae ond i sicrhau diogelwch i’r ardal chwarae plant)

 

65. Cyngor Cymuned Penmynydd

Meinciau i’w lleoli mewn gwahanol lefydd yn y gymuned i gerddwyr gael gorffwys ac i aelodau’r cyhoedd eu defnyddio

 

£945

67. Cyngor Cymuned Y Fali

Darparu ystafell gymunedol/gyfarfod

(NIL)

(Wedi derbyn grant yn 2012/13)

 

68. Cymdeithas Rhandiroedd Bryn Du

Prynu politwnel, offer garddio a ffensio er mwyn sefydlu grŵp tyfu llysiau

 

 

70% o’r cwôt isaf, wedi’i gapio ar £2,051

Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd i dderbyn grantiau bach 2014/2015 fel a ganlyn:-

 

15. Fforwm Anabledd Taran Cyf.

I allu datblygu papur newydd llafar yn wythnosol ar CD i rhai a nam gweledol ym Môn a bydd hyn yn cynnwys cyrraedd pobl mewn lleoliadau gwledig.  Byddai’r cyllid yn galluogi i’r gwasanaeth gael ei ddarparu am 12 mis gyda golwg ar ddod yn hunangynhaliol

 

£1,000

17. Ymgeisydd Unigol

I helpu i gyllido’r rhent a threthi siop yng Nghaergybi gyda’r bwriad o werthu eitemau i godi arian i wahanol elusennau.

 

NIL

(Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn cyllid grant)

21. Pensiynwyr Llanfaethlu

Fel y gall y grŵp gael gweithgareddau awyr agored h.y. tripiau dydd na allant fynd arnynt eu hunain.

NIL

(Byddai hyn yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol ac yn lleihau unigedd.  Foddbynnag nid yw’r cais yn darparu gwybodaeth ar sut y cafwyd y swm y gofynwyd amdano (dim dadansoddiad o amcanion cost) ac nid yw chwaith yn nodi’r deilliannau o unrhyw gyllid (dim gwybodaeth ar faint o dripiau / cyrchfanau posibl ac ati)

 

31. Yr Eglwys yng Ngymru – Plwyf Biwmares

I wella profiad yr ymwelydd i’r saith eglwys ym Miwmares drwy ddarparu byrddau arddangos hanesyddol a chyhoeddi llyfryn

 

70% o’r costau gyda’r grant wedi’i chapio ar £1,000

35. Esgobaeth Bangor

Cofnodiadau Archeolegol o Gladdfeydd Alabaster 14 Ganrif a darparu byrddau dehongli dwyieithog am y claddfeydd, hanes teulu’r Tuduriaid ac Eglwys St. Gredifael, Penmynydd

 

70% o’r costau gyda’r grant wedi’i chapio ar £1,000

44. Partneriaeth Gymunedol Porthyfelin

Arian cyfatebol tuag at y prosiect CHIME (Community Heritage Initiative for Maritime Engagement)

 

70% o’r costau gyda’r grant wedi’i chapio ar £1,000

51. Cyngor Cymuned Llannerch-y-medd

I osod cyflenwad dwr parhaol i’r fynwent yn Llannerch-y-medd

(NIL)

 

58. Cyngor Tref Amlwch

I ymestyn mynwent y dref

(NIL)

(Ni chyllidwyd gwaith ar fynwentydd o’r blaen)

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         cymeradwyo’r symiau fel a nodwyd uchod (£x) [gyferbyn a’r symiau a argymhellwyd], gyda hynny ar raddfa grant o 70%.

 

·         na fyddai’r ceisiadau hwyr a dderbyniwyd yn cael eu hystyried.

 

·         Diolch i Swyddogion am eu gwaith caled yng nghyswllt y ceisiadau hyn.

 

Dangoswyd plac yn y cyfarfod, sef plac i gydnabod derbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Nododd yr Ysgrifennydd y byddai disgwyl i’r sefydliadau sy’n derbyn cefnogaeth ariannol arddangos y plac mewn cydnabyddiaeth o’r gefnogaeth a gawsant gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Dogfennau ategol: