7.1 19LPA434B/FR/CC – Canolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi
7.2 29LPA/996/CC – Maes Maethlu, Llanfaethlu
7.3 31C14V/1 – 31 Cil y Graig, Llanfairpwll
7.4 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni
7.5 36C328A – Bodafon, Llangristiolus
Cofnodion:
7.1 19LPA434B/FR/CC - Cais llawn i adnewyddu’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cyswllt ynghyd â chodi estyniad deulawr yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd mae’n gais gan y Cyngor mewn perthynas â thir y mae’n berchen arno. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y cais oherwydd yr ymgynghorwyd gyda’r aelodau lleol anghywir. Cafodd y camgymeriad hwnnw ei gywiro wedyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans am gyngor mewn perthynas â’r diddordeb yr oedd wedi ei ddatgan ar gychwyn y cyfarfod ynglŷn â’r cais hwn gan ofyn a oedd rhaid iddo adael y cyfarfod. Eglurodd bod ei fab yn cael ei gyflogi ar sail rhan amser yn y Ganolfan Jesse Hughes gyfredol ac roedd yn tybio bod ei ddiddordeb yn ymwneud â rhan o’r adeilad cyfredol er ei bod yn bosibl y byddai ei fab yn gweithio yn y rhan honno o’r clwb ieuenctid lle bwriedir gwneud y newidiadau.
Dywedodd Rheolydd y Gwasanaethau Cyfreithiol bod y diddordeb yn un sy’n rhagfarnu petai person rhesymol sydd â’r cyfan o’r ffeithiau yn tueddu i gredu mai budd mab yr Aelod fydd prif reswm yr Aelod am gymryd rhan yn y mater hwn yn hytrach na’r budd cyhoeddus. O ystyried cyngor y Swyddog, aeth y Cynghorydd Jeff Evans allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad ar y cais.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r brif ystyriaeth gynllunio yw effaith bosibl y cynnig ar fwynderau eiddo cyfagos. Mae oddeutu 17m rhwng yr adeilad y bwriedir ei ymestyn a’r anheddau y tu cefn i’r safle sy’n cefnu ar y llecyn chwarae ac ym marn y Swyddog, ni fyddai defnydd ychwanegol o’r safle yn ystod y dydd yn cynyddu’r effeithiau ar fwydnerau i’r fath raddau y dylid gwrthod caniatâd cynllunio ac mae’r datblygiad yn estyniad rhesymol a phriodol i’r ganolfan. Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, derbyniwyd cynlluniau pellach sy’n cynnig ail-leoli’r storfa biniau yn bellach oddi wrth yr eiddo preswyl; daw’r cyfnod ymgynghori ynglŷn â’r cynlluniau pellach hyn i ben ar 1 Awst 2014 a phetai unrhyw faterion yn codi yn dilyn hynny, adroddir yn ôl arnynt i’r Pwyllgor. Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda'r cynnig cyn belled ag y bydd amod ar gyfer cynllun rheoli traffig yn cael ei gynnwys gyda’r caniatâd cynllunio.
Gan annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes nad oedd yn dymuno colli'r cyfle o ran y cyllid grant sy'n gysylltiedig gyda’r cynnig ac y mae cyfyngiad amser arno ond bod ganddo serch hynny bryderon difrifol ynglŷn â’r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â thraffig yng Nghanolfan Jesse Hughes a’r ardal o’i chwmpas yn arbennig faterion parcio a mynediad ar gyfer y gwasanaethau argyfwng, problemau yr ymhelaethodd arnynt. Mae pryderon yn lleol y bydd yr estyniad newydd arfaethedig i ganolfan Jesse Hughes yn creu mwy o anawsterau o ran traffig a pharcio. Ni fedrai gefnogi'r cais heb fodloni ei hun bod Aelodau’r Pwyllgor wedi cael y cyfle i weld y problemau traffig drostynt eu hunain. Am y rhesymau hynny, gofynnodd i'r Pwyllgor ymweld â’r safle.
Roedd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) yn cydnabod bod y sefyllfa o ran traffig yn broblemus, ond er gwaethaf hynny, gwneir defnydd helaeth eisoes o Ganolfan Jesse Hughes fel cyfleuster addysgol a chymunedol a thybir bod yr estyniad arfaethedig a’r newidiadau i’r ganolfan gyfredol yn rhesymol. Mae'r dewis yn un rhwng gwrthod y cais sy’n golygu y bydd y problemau traffig cyfredol yn parhau heb gael sylw neu gymeradwyo’r cais yn amodol ar gynllun teithio cynaliadwy i annog staff a defnyddwyr y ganolfan i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy er mwyn lliniaru’r problemau traffig a pharcio. Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn argymell yr ail ddewis oherwydd ni fydd gwrthod y cais yn gwneud unrhyw beth i wella'r sefyllfa traffig gyfredol.
Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts am eglurhad ynglŷn ag yw mater dyddiad cau'r cyllid grant y soniwyd amdano gan yr Aelod lleol yn cael effaith ar benderfyniad y Pwyllgor. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd hon yn ystyriaeth gynllunio o bwys o ran gwneud penderfyniad ar y cais.
Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith a fyddai problemau traffig ychwanegol yn codi yn ystod y cyfnod adeiladu. Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod yr Awdurdod Priffyrdd hefyd wedi gofyn am gynllun rheoli traffig ar gyfer y cyfnod adeiladu fel amod caniatáu.
Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Raymond Jones.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod yn teimlo bod yr Aelod Lleol a'r Swyddog Priffyrdd wedi cyflwyno tystiolaeth ddigonol am y problemau traffig yn ardal Canolfan Jesse Hughes ac nad oedd o’r herwydd angen ymweld â’r safle a bod y penderfyniad yn un i naill ai wrthod neu gymeradwyo’r cais. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies gyda’r amod bod amod cadarn i reoli traffig i mewn ac allan o'r ganolfan yn rhan o’r caniatâd cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn cefnogi’r cais ond ei bod yn dymuno nodi nad yw mater y cyllid grant a’r amserlen gysylltiedig yn cael dylanwad ar y penderfyniad.
Cyn cymryd pleidlais, dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn tynnu yn ôl ei gynnig i eilio’r cais o blaid cynnal ymweliad safle. Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Victor Hughes, Vaughan Hughes, Raymond Jones, Richard Owain Jones a Nicola Roberts i ymweld â’r safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle fel y gall Aelodau asesu’r sefyllfa o ran traffig yn ardal y cynnig a’r cyffiniau.
7.2 29LPA996/CC – Cais amlinellol i godi 5 annedd ar dir yn Maes Maethlu, Llanfaethlu.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno ac mae’r cynnig ar dir y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl ar 15 Gorffennaf 2014.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.
7.3 31C14V/1 – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn 34 Cil y Graig, Llanfairpwll
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn gan Aelodau Lleol. Ymwelodd yr Aelodau â’r safle ar 17 Gorffennaf 2014.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cynnig o ran ei leoliad a'i ddyluniad yn briodol ar gyfer y cyd-destun a bod y deunyddiau y bwriedir eu defnyddio yn dderbyniol oherwydd byddent yn cyd-weddu gyda’r anheddau cyfredol. Nid ystyrir ychwaith y câi’r cynnig effaith ar eiddo cyfagos na’r ardal o gwmpas i’r graddau y dylid gwrthod y cais. Mae’r argymhelliad felly yn un i gymeradwyo'r cais.
Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery fod y cais wedi cael ei alw i mewn oherwydd bod gwrthwynebiadau lleol i’r cynnig.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Lewis Davies, dangosodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ffotograffau o'r tŷ cyfredol ynghyd â’r cynlluniau ar gyfer y gwaith altro ac ymestyn arfaethedig.
Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod, ar ôl edrych ar y cais, yn meddwl bod yr estyniad i ffrynt yr annedd yn cydweddu gydag eiddo eraill yn y cyffiniau ac y bydd yn dod â hi i aliniad gweledol gyda’r eiddo ar y naill ochr a'r llall iddi. Bydd yr annedd orffenedig yn cydweddu gyda gweddill y stad. Dywedodd ei fod wedi cymryd sylw o'r ffaith bod gan nifer o’r eiddo ar y stad eisoes estyniadau iddynt. Petai problem yn codi o ran edrych drosodd, awgrymodd y gellid datrys hynny drwy fynnu ar amod ynghylch gwydr tywyll.
Dywedodd y Cynghorydd John Griffith nad oedd yn gweld unrhyw beth yn y polisi i wrthwynebu'r cais a chynigiodd y dylid ei ganiatáu. Eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd Raymond Jones.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a chydag amod ychwanegol mewn perthynas â gwydr tywyll.
7.4 34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae wedi ei hysbysebu fel un sy’n tynnu’n groes i’r cynllun datblygu a’r argymhelliad yw un o ganiatáu. Ymwelodd yr Aelodau â’r safle ar 21 Awst 2013.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y prif ystyriaethau cynllunio yn ymwneud â digonolrwydd y cyflenwad presennol o dir ar gyfer codi tai a chydymffurfiaeth y cynigion gyda’r cynllun datblygu ac ystyriaethau polisi eraill o bwys. Caiff Llangefni ei nodi fel anheddiad a ddiffinnir dan ddarpariaethau polisi 49 y Cynllun Lleol ac mae safle’r datblygiad yn gorwedd y tu allan i ffin yr anheddiad ac o’r herwydd, hysbysebwyd y cais fel un sy’n tynnu’n groes i ddarpariaethau’r cynllun datblygu. Ym mis Chwefror 2011, mabwysiadodd y Cyngor bolisi cynllunio interim ar gyfer safleoedd mawr sydd union wrth ymyl ffiniau datblygu prif ganolfannau gyda'r nod o sicrhau bod cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gael i godi tai arno hyd oni fydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi ei fabwysiadu. Gellir defnyddio’r polisi hwn i ystyried ceisiadau ar gyfer 50 neu ragor o unedau preswyl yn union wrth ymyl Llangefni. Gallai cynnydd sylweddol yn y gyfradd gwblhau yn ystod y 12 i 18 mis nesaf olygu bod y cyflenwad o dir sydd ar gael yn syrthio islaw’r cyflenwad isaf ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd gan olygu y bydd y Cyngor yn agored i geisiadau mewn lleoliadau llai cynaliadwy yn cael eu cymeradwyo. Byddai rhyddhau caniatâd yn yr achos hwn yn cynorthwyo'r Cyngor i gynnal cyflenwad 5 mlynedd o dir hyd oni fydd y Cynllun Datblygu ar y Cyd yn cael ei fabwysiadu. O’r herwydd, mae sail polisi i elfen breswyl y cais.
Mewn perthynas â’r cynnig am gyfleuster gofal ychwanegol, nid yw’r cynllun datblygu ac ystyriaethau polisi eraill o bwys yn mynnu bod datblygiadau o’r fath yn cael eu lleoli o fewn ffiniau aneddiadau yn yr un modd â datblygiadau tai. Dengys dadansoddiad o’r newidiadau demograffig y bydd y boblogaeth hŷn yn cynyddu yn gyflym ac y bydd raid ymestyn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal arbenigol i gwrdd â’r lefelau cynyddol o angen. Ystyrir bod y lleoliad ar gyfer yr elfen hon o’r cais yn addas ac yn gynaliadwy oherwydd mae ar gyrion un o brif ganolfannau’r Ynys. Yr argymhelliad o’r herwydd yw caniatáu’r cais gyda chytundeb adran 106 yn cynnwys y darpariaethau a restrir yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod yn bryderus ynglŷn â’r cynnig am gyfleuster gofal ychwanegol oherwydd, yn ei farn ef, roedd yn gynamserol oherwydd bod y Cyngor ar hyn o bryd wrthi’n ystyried datblygu darpariaeth gofal ychwanegol yn ardal Llangefni a bod lleoliadau posibl eraill ar gyfer cyfleuster o'r fath yn cael eu hystyried ac nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud. Mae safle'r cais ar gyfer y cyfleuster gofal ychwanegol yn cael ei gynnig gan y datblygwr a rhaid ystyried a yw’r safle arfaethedig yn y lleoliad mwyaf addas ar gyfer cyfleuster o'r fath.
Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts i’r cais gael ei ohirio hyd gyfarfod mis Medi fel y gallai cynrychiolwyr o'r gymuned leol annerch y Pwyllgor a hynny oherwydd y gwelwyd cymaint o newidiadau yn y saith mlynedd ers ystyried y cais am y tro cyntaf. Cyfeiriodd at yr anawsterau a gafodd aelodau’r gymuned leol o ran siarad yn gyhoeddus ar y mater hwn yn y pwyllgor. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i ohirio. Dywedodd y Cynghorwyr Kenneth Hughes, Vaughan Hughes a Jeff Evans eu bod yn cefnogi'r cais i ohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, petai’r Pwyllgor yn penderfynu gohirio ac er mwyn bod yn deg, y dylid estyn gwahoddiad hefyd i’r ymgeisydd ac/neu ei gynrychiolwyr annerch y Pwyllgor. Caiff y trefniadau ar gyfer siarad cyhoeddus yn y cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion eu rheoli fel rhan o’r broses ar gyfer rhoddi cyhoeddusrwydd yn lleol i geisiadau, felly, yn yr achos hwn, rhaid nodi trefn lle gellir cofrestru diddordeb i siarad yn y pwyllgor a bod siaradwr ar gyfer y gymuned leol yn cael ei enwebu heb orfod ail-gyhoeddi’r cais. Yn ychwanegol at hyn, ac yn wyneb y ffaith bod y cais yn un am ddatblygiad mawr, efallai y bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn dymuno defnyddio’r disgresiwn sydd ganddo dan y rheolau gweithdrefn cynllunio i ganiatáu i siaradwyr ychwanegol o’r naill ochr a’r llall ac i ganiatáu iddynt yr un faint o amser i siarad yn y pwyllgor.
Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts hefyd am gael sylwadau'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ynglŷn â'r pwysau tebygol ar y ddarpariaeth o addysg yn lleol y gall elfen breswyl y cynnig eu creu a'r capasiti sydd ar gael i gwrdd â’r pwysau hynny.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Medi a chyda chaniatâd y Cadeirydd (a roddwyd) i adael i’r tri aelod cyntaf o’r cyhoedd sy’n cofrestru ar bapur gyda’r Gwasanaeth Cynllunio eu dymuniad i siarad ar y cais yn y cyfarfod hwnnw wneud hynny ac i anfon gwahoddiad cyfatebol i’r ymgeisydd ac/neu ei gynrychiolydd siarad am yr un cyfnod o amser.
7.5 36C328A – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Aeth yr Aelodau i ymweld â’r safle ar 17 Gorffennaf 2014.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Miss Sioned Edwards annerch y cyfarfod i gefnogi’r cais. Gwnaeth Miss Edwards y pwyntiau canlynol:
• Gwrthodwyd cais blaenorol oherwydd y byddai’n gwneud i ffwrdd â’r rhan fwyaf o'r coed a’r gwrychoedd ar hyd ffin y safle ac y câi hynny effaith andwyol ar gyfanrwydd nodweddion y dirwedd ac ar gymeriad yr ardal.
• Cafwyd trafodaethau manwl wedyn gyda Swyddogion Priffyrdd a chyda Swyddog Coed y Cyngor i oresgyn y broblem hon ac i sicrhau bod y cynnig yn dderbyniol, sef na fyddai’n cael effaith ar y dirwedd ac y gellid sicrhau diogelwch y fynedfa. Mae'r cynnig yn awr yn un i wneud i ffwrdd â dau grŵp o goed yn unig i greu’r fynedfa ynghyd â phlannu coed ychwanegol ac argymhellir yn awr y dylid cymeradwyo’r cais.
• Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio o ran polisi oherwydd mae’n cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn sy'n caniatáu ceisiadau am blotiau sengl o fewn neu ar gyrion aneddiadau rhestredig sy'n cynnwys Llangristiolus.
• Mae dwy ffin ddatblygu i Langristiolus, y naill yn amgylchynu rhan uchaf y pentref a’r llall y rhan isaf ohono. Mae safle’r cais yn ffinio’n uniongyrchol ar yr ail le mae clwstwr o 7 o anheddau.
• Rhoddwyd sylw gofalus i leihau effeithiau'r adeilad newydd arfaethedig ar eiddo cyfagos, yn enwedig Bodafon. Mae uchder y cynnig wedi cael ei gyfyngu i 6m a chaiff ei ystyried ymhellach ar adeg cyflwyno’r cais manwl.
• O bersbectif diogelwch ar y priffyrdd, cynhaliwyd arolwg cyflymder sy'n cadarnhau bod y llain welededd a gynigir yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r cyngor sydd yn y Llawlyfr ar gyfer Strydoedd.
Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am eglurhad gan y siaradwraig mewn perthynas â’r defnydd cyfredol o’r annedd bresennol a adwaenir fel Bodafon a lleoliad y coed i’r gogledd a’r de orllewin o safle’r cais a’u math. Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod o’r farn bod datblygiad newydd o’r fath allan o gymeriad gyda’r clwstwr o 7 o anheddau lle bydd wedi ei leoli. Dywedodd Miss Sioned Edwards bod Bodafon yn cael ei ddefnyddio o bryd i’w gilydd gan yr ymgeisydd. Eglurodd bod yna ddatblygiadau eraill yn y cyffiniau ac nad y cynnig oedd yr unig ddatblygiad newydd yn yr ardal.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu o ran y cyd-destun polisi, bod Llangristiolus wedi ei ddiffinio fel Anheddiad Rhestredig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn. Ystyrir bod ceisiadau am blotiau sengl o fewn neu ar gyrion anheddiad yn dderbyniol dan Bolisi 50 Cynllun lleol Ynys Môn. Ystyrir bod codi annedd ar y safle yn dderbyniol oherwydd mae’r safle yn union wrth ymyl yr eiddo a adwaenir fel Bodafon ac wedi ei leoli mewn clwstwr o 7 annedd. O’r herwydd, gellir cyfiawnhau’r cynnig o safbwynt polisi. Gwrthodwyd cais blaenorol oherwydd ei fod yn ymwneud â thynnu rhan sylweddol o’r terfyn ar ochr y lôn. Yn dilyn trafodaethau, mae’r cais wedi cael ei ddiwygio i leihau’r llain welededd i’r fynedfa gan olygu y bydd y rhan fwyaf o’r terfyn ar ochr y ffordd yn cael ei gadw. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cynnal arolwg cyflymder sy’n cadarnhau bod y llain welededd yn ddigonol ac yn cydymffurfio â gofynion. Mae’r argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais.
Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes bod safle’r cais y tu allan i ffin ddatblygu Llangristiolus. Yr unig wahaniaeth rhwng y cais cyfredol a’r cais blaenorol a wrthodwyd yw y bydd llai o’r ffin ar ochr y ffordd yn cael ei thynnu dan y cais cyfredol - 44.5m o gymharu gyda 100m. Nid yw’r cynnig yn son am y coed ar ochr orllewinol safle’r cais. Oherwydd bod y safle mor gul, bydd yr annedd newydd arfaethedig yn cefnu ar nant yng nghefn y safle lle mae coed hynafol y bydd yn rhaid eu tynnu neu eu tocio’n sylweddol. Mae’r ffordd fynediad i’r safle yn hynod o gul a throellog ac at ei gilydd, mae’r lleoliad yn anfoddhaol ar gyfer ychwanegu adeilad newydd oherwydd y mae y tu draw i ffin y pentref ac oddeutu hanner milltir y tu draw i’r cyfyngiad cyflymder 30mya. Mae digon o le ar gael o fewn ffin y pentref i leoli datblygiad. Mae adeilad cyfredol o’r enw Bodafon nad yw wedi bod yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd am nifer o flynyddoedd gan olygu na fu modd profi bod angen annedd newydd yn yr ardal hon. Cafodd cais arall dan Bolisi 50 mewn lleoliad arall ar gyrion y pentref ond o fewn yr ardal lle mae cyfyngiad cyflymder ei wrthod a’i wrthod hefyd ar apêl. Mae’r cynnig yn un i ddatblygu er mwyn datblygu sy’n fater sydd o bryder yn lleol ac mae’n ymestyn ffin y pentref i raddfa annerbyniol. Am y rhesymau hyn, gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais.
Mewn ymateb i geisiadau’r Aelodau am eglurhad ynghylch maint safle’r cais er mwyn sefydlu pa mor gul ydyw ynghyd â lleoliad arfaethedig yr annedd newydd yn y plot, dangosodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ffotograff o safle’r cais i’r Pwyllgor ynghyd â llun o Bodafon a dangosodd y coed y byddai’n rhaid eu torri i lawr er mwyn gwneud lle ar gyfer y fynedfa. Dywedodd y Swyddog bod y safle yn 1 hectar a bod y plot yn mesur oddeutu 25m o led gan 60m o hyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts a oedd y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a gofynnodd i’r Swyddog egluro’r polisi drwy gyfeirio at y rhan berthnasol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y dywed Polisi 50 y bydd caniatâd cynllunio fel arfer ond yn cael ei ryddhau ar gyfer anheddau sengl o fewn neu ar gyrion pentrefi a phentrefannau fel y cawsant eu rhestru ar yr amod na fyddai’r cynnig yn niweidio cymeriad ffisegol neu gymdeithasol yr ardal a chan gadw mewn cof y meini prawf yr oedd wedi eu nodi.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd Lewis Davies. Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais am y rheswm fod y safle’n cael ei wasanaethu gan y brif system garthffosiaeth. Eiliodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y cynnig i ganiatáu.
Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorydd Jeff Evans, Kenneth Hughes, Vaughan Hughes a Richard Owain Jones i ganiatáu’r cais. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Victor Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts ac Ann Griffith i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau bod y cynnig yn orddatblygiad yn y cefn gwlad agored a thybir nad yw’n cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf fel y gall y Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.
Dogfennau ategol: