Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 14C164D – Tryfan, Trefor

 

11.2 14C147A – 11 Stryd Fawr, Malltraeth

 

11.3 21C158 – 21 Stâd Plas Hen, Llanddaniel

 

11.4 47C139 – Awelfryn, Elim, Llanddeusant

Cofnodion:

11.1   14C164D – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi pâr o anheddau un talcen a chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Tryfan, Trefor.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill i Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion y paragraff hwnnw.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr. R. Parry siarad fel un sy’n gwrthwynebu’r cais.  Dygodd Mr Parry sylw at yr ystyriaethau canlynol:

 

  Ni welwyd galw am dai yn Nhrefor am y 40 mlynedd diwethaf oherwydd dadboblogi yn dilyn lleihad yn y gweithlu amaethyddol lleol.  Mae hyn yn ei dro wedi arwain at gau cyfleusterau lleol ynghyd â haneru’r gwasanaethau dosbarthu ar gyfer nwyddau lleol.

  Byddai effaith y cais gwreiddiol gan deulu Cymreig ar yr iaith yn codi’r ganran o siaradwyr Cymraeg o 72% i oddeutu 75-79% tra byddai cais marchnad agored ar gyfer 2 neu efallai 4 o anheddau yn ôl pob tebyg yn lleihau’r ganran i oddeutu 50% i 27% o ystyried bod prisiau tai fforddiadwy y tu allan i gyrraedd incwm lleol.

  Tra’n cydnabod nad oes hawl awtomatig i oleuni dan reolau cynllunio, byddai safle’r cais arfaethedig yn cau allan yn llwyr brif ffynhonnell oleuni deheuol Tryfan o’r lolfa, y gegin a’r ystafell amlbwrpas oherwydd nid yw’r ffenestri ond 4 troedfedd i ffwrdd o wal derfyn 4 troedfedd o uchder.  Byddai hynny’n golygu colli preifatrwydd.

  Gofynnir am ymweliad safle fel y gall y sawl sy’n gwneud penderfyniadau weld drostynt eu hunain yr anawsterau y mae’r safle yn ei greu a’r B5112 lle gwelwyd cynnydd yn y traffig ysgafn a thrwm gan arwain at sawl achos o ddifrod i arwyddion cyflymder a cholli un arwydd am dros flwyddyn.

  Oherwydd nad oes asesiad o’r effaith ar yr iaith a’r gymuned ym Mholisi Iaith Cyngor Sir Ynys Môn, mae’r achos wedi cael ei gyfeirio at Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

 

Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw gwestiynau i’w gofyn i Mr. Parry.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r prif faterion sy’n gysylltiedig â’r cais yw a ydyw’r cynnig yn cydymffurfio gyda pholisïau cyfredol; a fydd yn cael effaith ar fwynderau eiddo cyfagos ac a fydd yn cael effaith andwyol ar y dirwedd o’i gwmpas ynghyd â diogelwch ar y ffyrdd.  Diffinnir Trefor fel anheddiad rhestredig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Yn y polisi hwnnw, dywedir na fydd caniatâd ond yn cael ei ryddhau fel arfer i anheddau sengl o fewn yr anheddiad neu ar ei gyrion.  Er bod y cynnig yn un am ddau dy bâr, gellir ei gefnogi dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn oherwydd mae’r ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth yn cadarnhau bod angen am eiddo o’r maint yma yn yr ardal.  Mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle; mae cymysgedd o fathau o dai yn y cyffiniau ac mae’r cynnig yn adlewyrchu patrwm y 4 tŷ teras o’r enw Awelfor.  Mae digon o le rhwng y cynnig a’r eiddo cyfagos i sicrhau na fyddai’n achosi unrhyw niwed i fwynderau deiliaid yr eiddo hynny a gellir ystyried mesurau lliniaru ar adeg cyflwyno’r cais llawn petai raid.  Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad yw’n dymuno gwneud unrhyw sylwadau ar y cais cyfredol oherwydd cymeradwywyd y dull mynediad i’r safle dan y cais blaenorol i wasanaethu un annedd.  Oherwydd bod y cynnig yn un ar gyfer dwy uned yn unig, nid yw’n cwrdd â’r trothwy angen am dai fforddiadwy ond, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a’r data a gafwyd gan y galluogydd tai gwledig, mae’n debygol y bydd y ddwy uned a gynigir yn fwy fforddiadwy na’r un annedd farchnad agored y gofynnwyd amdani gynt.  Yn ystod paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, mae effaith datblygiadau preswyl o fewn cymunedau wedi cael ei ystyried sy’n golygu nad oes raid ymchwilio ymhellach i hyn fel rhan o’r broses o benderfynu ar fân ddatblygiadau.  Oherwydd mai datblygiad bychan yw hwn, nid oes angen cyflwyno asesiad o’r effaith ar yr iaith Gymraeg fel rhan o’r cynnig.  Yn wyneb yr holl ystyriaethau hyn, mae’r argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais. 

 

Cwestiynodd Aelodau'r Pwyllgor a oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn oherwydd bod y cais yn un i godi dau eiddo ar gyrion anheddiad tra bod y polisi’n caniatáu ar gyfer codi annedd sengl.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod Polisi 50 yn dweud mai dyna fyddai’r achos “fel arfer”; mae’r Swyddogion wedi asesu'r sefyllfa ac oherwydd y ffaith fod caniatâd cynllunio eisoes ar gael ar gyfer un annedd ar y safle a bod tai teras eraill yn yr ardal, maent o’r farn bod y cynnig ar gyfer pâr o anheddau un talcen o’r maint a argymhellir yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at ddarpariaethau Polisi 50 o ran caniatáu fel arfer ar gyfer codi anheddau sengl ar gyrion anheddiad ac at Polisi 51 o safbwynt angen, a gofynnodd am eglurhad ar y wybodaeth yr oedd yr ymgeisydd wedi ei chyflwyno i gadarnhau’r angen am eiddo o'r math yma yn yr ardal leol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, er nad oes gofyniad i arddangos angen gyda'r math hwn o ddatblygiad, roedd  yr ymgeisydd, ar ei liwt ei hun, wedi ymgynghori gyda Galluogydd Tai Gwledig y Cyngor a oedd wedi cadarnhau bod yna ymgeiswyr sydd wedi cofrestru diddordeb ar gyfer tai 2 a 3 llofft yn y pentrefi cyfagos, ac oherwydd ei agosrwydd at Fodedern, Bryngwran a phentrefi eraill, rhagwelir y byddai diddordeb yn yr eiddo y bwriedir eu codi.  Awgrymodd y Cynghorydd Jeff Evans bod asesiad y Galluogydd Tai Gwledig ond yn cadarnhau angen posibl yn y pentrefi ar gyrion Trefor ond nid o angenrheidrwydd ym mhentref Trefor ei hun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod wedi cael ei berswadio bod angen tai yn yr ardal hon a gwnaeth gynnig i ganiatau’r cais.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.  Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhellion y Swyddog am y rheswm nad yw’r angen am dai ym mhentref Trefor wedi ei brofi.  Eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Yn y bleidlais ddilynol, Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Kenneth Hughes, Vaughan Hughes, Richard Owain Jones a WT Hughes i gymeradwyo'r cais.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Ann Griffith, John Griffith, Victor Hughes, Raymond Jones a Nicola Roberts i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd nid oeddynt yn credu bod yr angen am dai ym mhentref Trefor wedi ei brofi.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf fel y gall y Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

11.2   15C147A – Cais llawn i newid defnydd llawr gwaelod yr annedd o fod yn ddefnydd preswyl i ddefnydd cymysg – preswyl neu fânwerthu – yn 11 Stryd Fawr, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion y paragraff hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.3   21C158 – Cais llawn i altro ac ymestyn 21 Stad Plas Hen, Llanddaniel.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn rhiant i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion y paragraff hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.4   47C139 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Awelfryn, Elim, Llanddeusant.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion y paragraff hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: